Teithiau cerdded diwylliant a threftadaeth

Ymgollwch yn ein diwylliant a threftadaeth unigryw ar hyd arfordir Cymru gyda'n taflen cerdded teithio newydd

Beth am gael eich ysbrydoli gan yr amgylchedd a sbardunodd un o awduron enwocaf Cymru, Dylan Thomas, neu galwch heibio'r Ganolfan Iaith yn Nant Gwrtheyrn, sy'n swatio ym mynwes y llechwedd lle mae mynyddoedd yn cwrdd â'r arfordir.   Ble bynnag yr ewch, cewch groeso cynnes. 

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Darganfyddwch ein hanes canoloesol wrth ymyl un o ardaloedd twyni tywod mwyaf Ewrop

Golygfeydd ysblennydd o'r môr ar hyd y ffordd a ddaw i ben wrth bwynt hanner ffordd swyddogol y llwybr

Crwydrwch o gwmpas ty cwch enwog Dylan Thomas sydd â golygfeydd anhygoel ar draws afon Tâf a thua Phenrhyn Gŵyr a thu hwnt

Taith gerdded ar hyd brig clogwyn garw a milltiroedd o dywod euraidd yng nghornel de-orllewinol Sir Benfro

Y lle perffaith i hela ffosilau deinosoriaid ynghyd â mynd am dro bywiog ar hyd brig y clogwyni gyda golygfeydd helaeth dros Fôr Hafren

Mwynhewch olygfeydd syfrdanol o fynyddoedd, y goedwig a'r traeth yng nghornel de-orllewinol yr ynys hon

Cewch ymgolli mewn chwedloniaeth a diwylliant Cymreig wrth fynd am dro ar hyd yr arfordir garw hwn

Taith gerdded hawdd ag iddi olygfeydd rhyfeddol o afon Conwy ac un o gestyll canoloesol mwyaf mawreddog Cymru ar hyd y ffordd