Llanrhystud i Cei Newydd, Ceredigion

Golygfeydd ysblennydd o'r môr ar hyd y ffordd a ddaw i ben wrth bwynt hanner ffordd swyddogol y llwybr

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Llanrhystud i Gei Newydd

Pellter

14 fillitir neu 22 km

Ar hyd y ffordd

Mae'r daith gerdded i'r de ar hyd yr arfordir yn cynnwys golygfeydd ysblennydd o'r môr ynghyd â chanrifoedd o hanes, treftadaeth a diwylliant.

Gan ddechrau o barc carafanau Fferm Morfa yn Llanrhystud, cerddwch ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gan edrych yn fewndirol tua'r bryniau i'r de o Lanrhystud i weld olion dwy fryngaer o'r Oes Haearn – cadwch lygad allan am weddillion glanfeydd pren ar y lan a oedd unwaith yn gwasanaethu'r odynau calch gerllaw yng Nghraig-las.

Yr anheddiad nesaf yw pentref bach Llanon. Er nad oes yno harbwr naturiol, mae gan y gymuned hanes morwrol hir. Adeiladwyd llongau ar y traeth yma tan ganol y 1800au ac mae'r fynwent gerllaw yn Llansanffraid yn llawn o gerrig beddau sy'n coffáu morwyr a gollwyd ar y môr. 

Gan barhau heibio pentref Aberarth, cadwch lygad am olion y trapiau pysgod canoloesol ar lanw isel. Wedi'u hadeiladu gan fynachod Abaty Ystrad Fflur, tipyn i mewn i’r tir ym Mhontrhydfendigaid, roedd y waliau isel gyda ffensys plethwaith ar eu pen yn dal pysgod fel roedd y môr yn encilio.

Byddwch yn symud ymlaen wedyn i Aberaeron, a oedd unwaith yn ganolfan adeiladu llongau prysur a phorthladd masnachu. Heddiw mae'r dref harbwr hardd yn brysur gydag ymwelwyr sydd wedi’u dennu at ei leoliad, pensaernïaeth, ac ystod wych o gaffis, tafarndai a siopau.

O Aberaeron, mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymuno â Llwybr Dylan Thomas, sy'n rhedeg trwy leoliadau yng Ngheredigion sy'n gysylltiedig â’r ysgrifennwr o fri. Byddwch yn cerdded wrth ochr dau draeth tywodlyd Cei Newydd, wedi'u gwahanu gan bentir Llanina, cyn cyrraedd y dref wyliau fywiog lle bu Thomas yn byw am gyfnod a lle dechreuodd wneud braslun o'i ‘ddrama ar gyfer lleisiau', Under Milk Wood. 

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Nigel Nicholas:

"Yn daith gerdded o ddiddordeb diwylliannol a threftadaeth, dilynwch ôl troed Harri Tudur a Dylan Thomas a darganfyddwch stribedi o dir canoloesol, odynau calch a thrapiau pysgod hynafol a adeiladwyd gan fynachod Ystrad Fflur.  Ewch drwy bentrefi arfordirol wedi'u trwytho mewn hanes morwrol a thref Sioraidd gyda thai wedi'u paentio'n llachar."

Angen gwybod

Ym mhen Llanrhystud y daith gerdded gallwch barcio ym Mharc carafanau Fferm Morfa wrth ymyl y môr. Mae yna hefyd dafarn a siop ym mhentref Llanrhystud. Yng Nghei Newydd mae llefydd parcio a thoiledau ar gael, yn ogystal â dewis da o lefydd bwyta.

Ewch i gwefan Gwasanaeth T5 Traws Cambria sy'n cysylltu dwy ben y daith gerdded, gyda stopiau yn Llanon ac Aberaeron ar hyd y ffordd. 

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded o Lanrhystud i Cei Newydd (PDF) a map taith cerdded o'r llwybr (JPEG)

Eisiau mynd ymhellach? 

Rhowch gynnig ar ein Teithiau teulu gwahanol Cei Newydd gydag ap Llwybr Arfordir Cymru. Gallwch ymchwilio mwy i hanes y smyglwyr a'r llenor enwog, Dylan Thomas a ymgartrefodd yng Nghei Newydd, un o drefi glan môr mwyaf prydferth Cymru. 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig