Manorbier i Freshwater East, Sir Benfro

Taith gerdded ar hyd brig clogwyn garw a milltiroedd o dywod euraidd yng nghornel de-orllewinol Sir Benfro

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Maes parcio traeth Maenorbŷr i Freshwater East

Pellter

4 millitir neu 6 km

Ar hyd y ffordd

Gan ddechrau o Maenorbŷr ('y llecyn mwyaf dymunol yng Nghymru' yn ôl y clerig canoloesol a'r llanc lleol Gerallt Gymro), byddwch yn gweld y castell o'r 12fed ganrif gyferbyn â'r maes parcio.

Yn agored i ymwelwyr rhwng mis Ebrill a mis Hydref, mae'n werth mynd i weld y tyrau a'r fflatiau sydd wedi'u diogelu'n dda, os oes gennych amser. Mae traeth tywodlyd Maenorbŷr yn boblogaidd gyda theuluoedd a syrffwyr, ond mae hefyd yn cuddio cyfrinach.  Ar adeg y distyll, gallech weld coedwig o goed hynafol wedi'i boddi sy'n ymwthio o'r tywod. Wedi'u cadw am filenia gan ddŵr hallt, maent yn weddillion o goetir a gafodd ei foddi gan gynnydd yn lefel y môr rhwng 3,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Gallwch hefyd weld y siambr gladdu (neu gromlech) Neolithig, a elwir yn King’s Quoit, sy'n sefyll ar y clogwyni ar ochr ddwyreiniol y traeth.

I fynd yn agosach, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru i'r dwyrain am rai cannoedd o fetrau cyn troi'n ôl i'r gorllewin tuag at Freshwater.  Tua hanner ffordd ar eich taith byddwch yn pasio heibio Bae Swanlake. Mae'r traeth tywodlyd hwn sy'n cael ei gysgodi gan glogwyni isel yn hygyrch ar droed yn unig, ac mae'n fan picnic tawel.

Yn olaf, cyrhaeddwn Freshwater East. Mae'r traeth tywodlyd llydan hwn, a oedd yn fan poblogaidd i smyglwyr yn y 18fed a'r 19eg ganrif, gyda thwyni tonnog yn gefn iddo, bellach yn Warchodfa Natur Leol.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Theresa Nolan 

"I mi dyma Sir Benfro ar ei gorau! Mae yma gastell, milltiroedd a milltiroedd o dywod euraidd na ellir eu curo ac ar ddiwrnod clir byddwch yn gallu gweld arfordir Gogledd Dyfnaint. Yn ystod misoedd yr haf, mae'r twyni yn Freshwater East yn lle gwych i weld magïod gyda’r nos".

Angen gwybod

Mae toiledau a maes parcio ar bob pen o'r daith, yn ogystal â chaffis, tafarndai a siopau ym Maenorbŷr a Freshwater East. 

Mae bws rhif 349/359 yn rhedeg o Ystad Skrinkle, Maenorbŷr i Llandyfái, lle gallwch ddal y gwasanaeth bws Arfordirol i Freshwater East.

Edrychwch ar wefan Sir Benfro am lwybrau ac amserlenni bysiau ar eu gwefan www.pembrokeshire.gov.uk/bus-routes

Gallwch hefyd fynd ar y trên rhwng gorsaf trên Llandyfái (2.4km o Freshwater East) i Maenorbŷr (3.2km o'r pentref).

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch deithlen Maenorbŷr i Freshwater East (PDF) a map o'r llwybr cerdded (JPEG)

 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig