Newyddion diweddaraf

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi dal dychymyg pobl ar draws y byd

Yn sgil y prosiect pwysig yma daeth Cymru i ganol y llwyfan, fel petai. Ac yntau wedi’i gwblhau bellach, Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr di-dor hiraf ar hyd arfordir unrhyw wlad. Ond nid torri record oedd wrth wraidd ei greu – y nod oedd creu cyfleoedd hirdymor a fyddai o fudd i hamddena, twristiaeth a’r economi. Llwybr Arfordir Cymru yw un o’r datblygiadau arfordirol pwysicaf i’w wireddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac megis dechrau y mae ei stori.

Darllenwch ein datganiad i’r wasg ac i weld beth sydd gan bobl eraill i’w ddweud. I ddarganfod sut y gall ein stori ni eich helpu chi i ysgrifennu eich un chi, cysylltwch â’r canlynol: Cyfoeth Naturiol Cymru.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr

Cofrestrwch i gael y cylchlythyr yn y dyfodol

Un o fanteision y llwybr yw bod modd ei fwynhau bob yn dipyn. I’r rhan fwyaf ohonom ni, mae’n fater o benderfynu pa leoliad yw’r hawsaf i’w gyrraedd o’n cartrefi neu pa un sy’n cyd-fynd â chynlluniau gwyliau. Ond bydd rhai ond yn hapus ar ôl cerdded pob un o 870 milltir y llwybr.