Drenewydd i Candleston, Pen y Bont ar Ogwr

Darganfyddwch ein hanes canoloesol wrth ymyl un o ardaloedd twyni tywod mwyaf Ewrop

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Eglwys St John's, Drenewydd yn Notais i Gastell Candleston

Pellter

3 milltir neu 5 km

Ar hyd y ffordd

Mae'r daith gerdded hon yn mynd â chi o bentref Drenewydd yn Notais sy’n dyddio’n ôl i'r 12fed ganrif, heibio i un o ardaloedd mwyaf o dwyni tywod yn Ewrop. Cyn i chi ddechrau arni, cymerwch funud i edrych ar Eglwys Newton. Wedi'i hadeiladu'n wreiddiol fel caer gyda'i thyrau gwylio i rybuddio am ymosodiadau o'r môr, fe'i sefydlwyd gan farchogion Urdd Sant Ioan tua 800 o flynyddoedd yn ôl. Gerllaw mae Ffynnon Sanford, a honnwyd bod iddi briodweddau sanctaidd ac iacháu.

Dilynwch Beach Road i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru, sy'n dilyn y traeth heibio i Newton Burrows ac ymlaen i Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cwningar Merthyr Mawr. Mae'r anialwch hwn o dywod yn un o'r systemau twyni uchaf yn Ewrop ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol sy'n gartref i amrywiaeth eang o fywyd anifeiliaid, planhigion a phryfed.

Os ydych chi'n teimlo'n anturus, gallwch fynd ar daith oddi ar y llwybr i edrych ar ei frigau tywodlyd a'i ddyffrynnoedd (rhowch gynnig ar ddringo The Big Dipper, twyn talaf Cymru). Unwaith y bydd y llwybr yn cyrraedd aber Afon Ogwr mae'n dechrau ymlwybro’n fewndirol tuag at Candleston, lle byddwch yn dod o hyd i olion Castell Candleston. Yn swatio yn y coetiroedd ar gyrion Merthyr Mawr, mae'r maenordy o'r 14eg ganrif bellach yn adfail atmosfferig, wedi’i orchuddio ag eiddew.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Tricia Cottnam

"Mae'r darn helaeth o draeth ar hyd y daith gerdded hon yn rhoi cyfle i chi gerdded yr holl ffordd o aber afon Ogwr i Borthcawl gan ganiatáu amser i badlo ar y ffordd os yw'r llanw'n iawn. Mae'r traeth yn cael ei ddefnyddio'n aml gan farchogion oherwydd ei natur eang."

Angen gwybod

Am luniaeth a chyfleusterau, mae tafarndai a siopau ym mhentref Drenewydd yn Notais. Mae maes parcio ar draeth Drenewydd yn Notais, yn agos at ddechrau'r daith gerdded, a maes parcio yn Candleston.

Taflen teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded o Newton i Candleston (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig