Talacharn, Sir Gâr

Crwydrwch o gwmpas ty cwch enwog Dylan Thomas sydd â golygfeydd anhygoel ar draws afon Tâf a thua Phenrhyn Gŵyr a thu hwnt

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Maes parcio Talacharn (ger y castell)

Pellter

2 filltir neu 4 km

Ar hyd y ffordd

Yn enwog am ei gysylltiad â'r awdur Dylan Thomas, mae pentref morol a hynafol Talacharn yn sefyll yn uniongyrchol ar Lwybr Arfordir Cymru. Mae'n fan cychwyn perffaith ar gyfer teithiau cerdded byr ar hyd y llwybr i'r ddau gyfeiriad, naill ai'n dychwelyd y ffordd y daethoch neu'n gwneud eich ffordd yn ôl i'ch man cychwyn drwy nifer o lwybrau mewndirol.

Yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru i'r gogledd-ddwyrain o ganol y pentref, byddwch yn mynd heibio Castell Talacharn, caer ganoloesol a newidiwyd yn blasty Tuduraidd sy'n sefyll dros yr aber.  

Ewch yn eich blaen i'r tŷ cwch lle roedd Dylan Thomas yn byw ar ei hoff ‘heron-priested shore’ o 1949 i 1953, sydd bellach yn gofeb i'r awdur gwych. Gallwch gael cip olwg y tu mewn i'r sied lle roedd Thomas yn ysgrifennu, sydd wedi'i gadw fel pe bai newydd adael y lle dim ond am eiliad, edrych ar ystafelloedd cyfnod y tŷ cwch sy’n llawn o eitemau cofiadwy, neu gael paned yn yr ystafelloedd te.

Ymhellach y tu allan i'r pentref fe welwch y man lle’r oedd y fferi unwaith yn cysylltu Talacharn gydag ochr arall yr aber, gydag olion sarn yn weladwy ar lanw isel.

Dilynwch y llwybr i'r de o'r pentref a byddwch yn cerdded y llwybr anfarwol yng ngherdd ‘Poem in October’ Dylan. Byddwch yn mynd heibio Cors Talacharn, wedi'i chysgodi rhag y môr gan dwyni tonnog. 

Ar gyfer golygfeydd arfordirol, dringwch Fryn Syr John, yna ewch ymlaen i'r chwareli yng Nghoygan, lle mae bwyeill Neanderthalaidd sy'n dyddio'n ôl mwy na 30,000 o flynyddoedd wedi cael eu darganfod, ynghyd ag esgyrn hyena a rhinoseros gwlanog hynafol.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Nigel Nicholas

"Mae yna rywbeth arbennig am fynd am dro o gwmpas Talacharn, mae ganddo gyfoeth o draddodiadau lliwgar gan gynnwys taith gerdded Comin Talacharn. Dychmygwch Dylan Thomas yn cerdded ar hyd y morlin yn chwilo am ysbrydoliaeth!"

Angen gwybod

Mae toiledau cyhoeddus a maes parcio yng nghanol y pentref, yn agos i nifer o dafarndai, siopau a chaffis.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Talacharn (PDF) a a map taith cerdded o'r llwybr (JPEG)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig