Lleoedd i fynd iddyn nhw

Nid yn unig y mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd â chi drwy dirlun Cymru, y mae hefyd yn mynd â chi drwy ei threftadaeth a’i chymunedau

Mae arfordir Cymru’n llawn gwrthgyferbyniadau ac mae wir yn cynnig rhywbeth i bawb. O fynd am dro ar ben clogwyni i grwydriadau morydol, pentrefi pysgota pictiwrésg i ddinasoedd  bywiog, treftadaeth ddiwydiannol i gestyll anorchfygol, traethau gwyntog i lannau môr prysur. Pa un ai a ydych chi yma am awr yn unig neu benwythnos cyfan, mae gan Lwybr Arfordir Cymru lawer i’w gynnig.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gefnlen naturiol syfrdanol i'r rhan unigryw hon o'r llwybr- sy’n ffefryn gan bawb!