Sir Benfro

Yma ceir tirwedd eiconig fyd-enwog Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac ynysoedd sy’n llawn bywyd gwyllt

Gan ddechrau yn Aberteifi, mae’r llwybr (sydd â statws Llwybr Cenedlaethol drwy Sir Benfro) yn mynd trwy rhai o olygfeydd mwyaf trawiadol a syfrdanol ym Mhrydain, gan gynnwys 58 o draethau a 14 harbwr, a dinas leiaf Prydain, Tyddewi, cyn dod i’w therfyn yn Llanrhath.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Theresa Nolan yn esbonio pam y mae arfordir Sir Benfro yn arbennig iddi hi.

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud.  Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr.

Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru

Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus ac mae modd cyrraedd sawl rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.