Traeth Marloes i Martin’s Haven, Sir Benfro

Cerddwch ar hyd y cwr anghysbell hwn o Gymru i ryfeddu at yr olygfa arfordirol fawreddog

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Maes parcio Traeth Marloes i faes parcio Martins Haven 

Pellter

2 milltir neu 3 km 

Ar hyd y daith

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymlwybro o amgylch y clogwyni, gyda golygfeydd godidog o Ynysoedd Sgomer, Sgogwm a Gateholm.  Mae'r ynysoedd, a enwyd gan oresgynwyr Llychlynnaidd, yn enwog am eu trefedigaeth enfawr o balod. Mae'r adar carismatig hyn yn un o'r trigolion lleol.  Gallwch hefyd weld brain coesgoch sy'n nythu, rafftiau o adar drycin, bwncathod, cigfrain, hebogiaid tramor a llu o adar eraill yr arfordir.  

Ar ddiwedd Awst a dechrau Medi, cadwch lygad allan am forloi llwyd gyda'u cenau wrth ymyl y dwr. Wrth i chi ddilyn llwybr y clogwyn, cewch eich dallu gan arddangosfeydd lliwgar o flodau gwyllt. Byddwch yn gweld y llwylys, briallu ac eirlysiau yn gynnar yn y flwyddyn, a cglychau'r gog yn niwedd y gwanwyn a blodau neidr, bysedd y cwn a chlustog Fair yn yr haf.  

Ym mhen gorllewinol Penrhyn Marloes mae pentir garw, bron yn debyg i ynys. Stopiwch yng ngorsaf Sefydliad Cenedlaethol Gwylio’r Arfordir (SCGA) gorsaf Wooltack Point i weld golygfeydd helaeth ar draws Bae Sain Ffraid tuag at Ynys Dewi a Phenrhyn Dewi. Mae'r pentir hefyd yn gartref i Barc Ceirw.  Nid yw’r clostir muriog hwn, a adeiladwyd yn y 18fed ganrif, erioed wedi cadw ceirw ac erbyn hyn mae merlod mynydd Cymreig a gwartheg duon Cymreig yn pori yno. Mae tripiau cychod yn rhedeg o Martin’s Haven i Sgomer a Sgogwm.

Uchafbwyntiau'r daith 

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Theresa Nolan:
"Taith gerdded wych yn llawn golygfeydd a bywyd gwyllt! Peidiwch ag anghofio dod â'ch binocwlars, eich camera a'ch bwced a rhaw ar y rhan odidog hon o'r llwybr".  

Angen gwybod 

  • Ceir meysydd parcio a thoiledau cyhoeddus ar ddau ben y daith. I gael bwyd a diod, galwch i mewn i gaffi Runwayskiln, a leolir 150m o faes parcio Traeth Marloes.  
  • Mae bws y Puffin Shuttle yn cysylltu dau ben y daith, tra bod gwasanaeth 315 yn cysylltu Marloes ag Aberdaugleddau a Hwlffordd.  Edrychwch ar gwefan Cyngor Sir Benfro ar gyfer amserlenni bysiau.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Traeth Marloes i Martin’s Haven (PDF) a map taith cerdded (JPEG).