Bae Dwnrhefn hyd at Drwyn yr As, Bro Morgannwg

Rhyfeddwch at frigau serth a garw'r clogwyni ar y rhan hon o’r arfordir treftadaeth

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Canolfan Treftadaeth Bae Dwnrhefn i Drwyn yr As

Pellter

7 milltir neu 8 km 

Ar hyd y ffordd

Dysgwch fwy am fywyd gwyllt, hanes a daeareg yr ardal drwy alw i mewn i Ganolfan Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn Nwnrhefn ar ddechrau'r daith gerdded, sy'n rhoi trosolwg ardderchog o Arfordir Treftadaeth Morgannwg sy'n 23km, ac yn rhedeg rhwng Porthcawl ac Aberddawan. Mae Bae Dwnrhefn yn boblogaidd gyda syrffwyr a daearegwyr. Cyn i chi ddechrau, archwiliwch y pyllau creigiog a chwilotwch y traeth am ewinedd y cythraul, ffosil wystrys diflanedig o'r cyfnod Triasig. 

Oddi yma, mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd tua'r de-ddwyrain heibio gardd furiog Castell hirgoll Dwnrhefn gan ddringo ar glogwyni agored. Mae golygfeydd ysblennydd drwy gydol y daith gerdded tuag at oleudy Trwyn yr As ac ar draws Môr Hafren i arfordir Gogledd Dyfnaint, tra bod cipolwg i lawr yn datgelu carped cymhleth o ffurfiannau creigiau patrymog ar ymyl y dwr.  

Mae'r daith gerdded yn parhau ar hyd llwyfandir glaswelltog o galchfaen am lawer o'i phellter, gydag ambell i ran serth lle mae nentydd wedi torri dyffrynnoedd dwfn i'r llwyfandir wrth iddynt fynd i lawr i'r traeth. Gwrandewch am yr ehedyddion a chadwch eich llygaid ar agor am frain coesgoch. Yn Nhrwyn yr As gallwch gael golwg dda ar Oleudy Trwyn yr As, goleudy 200 oed sy’n dal i weithio sydd â chanolfan ymwelwyr ei hun.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Tricia Cottnam:
"Nid oes prinder golygfeydd bendigedig ar hyd y rhan hon o Arfordir Treftadaeth Morgannwg, sy'n ymestyn mor bell ag arfordir Gogledd Dyfnaint. Mae hefyd yn ffefryn gan ddaearegwyr lle mae gwely'r môr yn dangos ei nodweddion a ffosilau.  Mae’n werth ymweld â goleudy Trwyn yr As, gan ei fod yn oleudy sydd dal yn gweithio".

Angen gwybod 

  • Mae meysydd parcio ar ddau ben y daith, gyda thoiledau a bwyd a diod ar gael yn y Ganolfan Arfordir Treftadaeth ym Mharc Dwnrhefn a'r Caffi Treftadaeth yn Nhrwyn yr As.   Gallwch hefyd gysylltu'r ddau ben o gerdded drwy ddal y bws 303 lleol o Southerndown (tua 1km o Fae Dwnrhefn) a Marcross (tua 1.5 km o Drwyn yr As).
  • Ewch i wefan gwasanaethau New Adventure Travel (NAT) sy'n cwmpasu Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Pontypridd a Bro Morgannwg ar gyfer amserlenni bysiau.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig