Llandrillo-yn-Rhos a Bryn Euryn

Llwybr cylchol byr a hawdd sy’n mynd heibio i eglwys leiaf Cymru

Paddy Dillon

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae’r daith gerdded hon o Landrillo-yn-Rhos yn cychwyn ar ddarn byr a hamddenol o Lwybr Arfordir Cymru. Wrth nesáu at y tir, sylwch ar nifer o nodweddion o ddiddordeb sy'n rhan o Daith Gerdded Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos. Cyfunir dwy daith gylchol fer yma ar Fryn Euryn, sy'n cynnig taith fynyddig a thaith drwy’r goedwig, cyn dychwelyd yn syth i’r arfordir.

Manylion y llwybr

Pellter: 4.2 milltir neu 6.8 km
Man cychwyn: Cayley Arms, Llandrillo-yn-Rhos
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SH 84243 80524
Disgrifiad what3words y man cychwyn: gwirio.onglog.cread

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Mae parcio ar gael yn Llandrillo-yn-Rhos ar hyd rhannau o'r promenâd, neu ar gyffordd Colwyn Avenue ac Abbey Road. Mae maes parcio bychan rhad ac am ddim hefyd ym Mryn Euryn.

Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol i Landrillo-yn-Rhos o Landudno, Bae Colwyn a'r Rhyl.

Trenau
Mae'r orsaf reilffordd agosaf ym Mae Colwyn, 1.4 milltir / 2.3 km ar droed ar hyd y promenâd. Mae gwasanaethau trên dyddiol Arfordir Gogledd Cymru yn cysylltu Bae Colwyn â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX Llandrillo a Bryn Euryn

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch eich taith ar y promenâd yn Llandrillo-yn-Rhos, gyferbyn â'r Cayley Arms, lle cewch olygfa ar draws Bae Colwyn tuag at Fryniau Clwyd a'r Rhyl. Mae man gwybodaeth i dwristiaid ar gael yn un o'r siopau, lle gellir cael copi o Daith Gerdded Treftadaeth Llandrillo-yn-Rhos. Arferai'r Cayley Arms gael ei alw'n Cayley Flyer, er mwyn nodi hanes y gleider a adeiladwyd gan George Cayley ym 1853, a lwyddodd i hedfan oddeutu 50 mlynedd cyn i’r brodyr Wright adeiladu awyren. Gallwch ddarllen hysbysiad ar wal y dafarn sy'n adrodd hanes y gamp.

2. Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn mynd â chi ar hyd y promenâd i gyfeiriad Llandudno, a chyn bo hir byddwch yn mynd heibio i hen dafarn gerrig Rhos Fynach. Saif y dafarn ar safle hynafol lle darganfuwyd chwe darn arian Rhufeinig. Mae'n bosib bod adeilad canoloesol wedi sefyll yma ar un adeg a oedd yn gysylltiedig â mynachlog Sistersaidd Aberconwy. Arferai mynachod ddefnyddio cored bysgota oddi ar Rhos Point. Ar un adeg, roedd pier ar Ynys Manaw, a adeiladwyd ym 1869. Cafodd ei ddatgymalu a’i ailadeiladu yn Rhos Point ym 1896. Yn dilyn cyfnod o segurdod, cafodd ei ddymchwel ym 1953, gan adael dim ar ei ôl ar wahân i'r swyddfa docynnau, a adeiladwyd o garreg.

3. Cerddwch i lawr o Marine Drive, gan ymuno â llwybr troed a beicio a fydd yn eich arwain ar hyd y arfordir, sydd wedi'i gysgodi gan greigiau. Ymhen tipyn, byddwch yn cyrraedd capel bychan Sant Trillo, yr eglwys leiaf yng Nghymru, gydag ond lle i chwech o bobl. Ni ellir bod yn siŵr o oed yr eglwys, ond roedd Sant Trillo yn byw yn y 6ed ganrif. Ac os mai yma oedd safle ei gell syml, mae'n bosib ei fod wedi bod yn fan addoli am yn agos i 1,500 o flynyddoedd. Mae'r promenâd yn parhau, gyda golygfeydd tuag at Drwyn y Fuwch. Gallwch gerdded ar rannau uchel ac isel y promenâd, sy'n rhedeg yn gyfochrog a'i gilydd ac sydd wedi'u cysylltu gan risiau. Dilynwch y naill neu'r llall nes y byddant yn ailymuno â'i gilydd pan fydd Abbey Road yn eich arwain tuag at y tir.

4. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn parhau ar hyd y promenâd, ond mae ein llwybr ni yn dilyn Abbey Road tuag at y tir. Pe baech wedi parhau ar hyd y promenâd rhwng 1909 a 1963, byddech wedi cyrraedd ‘Tollborth y Gyllideb’, a gaiff ei hadnabod bellach fel 147 Marine Drive. Gosodwyd y doll gan dirfeddiannwr o’r enw Horton, a oedd yn gwrthwynebu cyllideb a osodwyd gan Lloyd George, Canghellor y Trysorlys ar y pryd, a oedd am drethu’r cyfoethog er mwyn darparu pensiwn i’r henoed. Drwy godi tâl ar bobl i deithio ar hyd y ffordd, ei obaith oedd gwneud yn iawn am y dreth ychwanegol yr oedd yn rhaid iddo ef ei thalu.

5. Bydd Abbey Road yn eich arwain at faestrefi Llandrillo-yn-Rhos, ble byddwch yn dod i groesffordd. Trowch i'r dde i lawr Church Drive, gan fynd heibio i siop gyfleustra, a pharhewch i fynd yn syth yn eich blaen i fyny Church Road, gan fynd heibio Ysgol Llandrillo-yn-Rhos. Byddwch yn cyrraedd croesffordd ger Hickory's Smokehouse, sef y Ship Inn gynt. Mae’r adeilad presennol yn dyddio yn ôl i 1874. Fe'i hadeiladwyd yn lle'r Ship Inn, a safai ar ochr arall y ffordd bryd hynny, a oedd yn dyddio'n ôl i 1736. Mae’r daith yn parhau yn syth ymlaen ar draws y groesffordd, gan ddilyn Tan-y-bryn Road. Ond yn gyntaf, byddai werth dargyfeirio i’r dde am ychydig er mwyn ymweld ag Eglwys Blwyf Llandrillo. Mae eglwys wedi bod ar y safle hwn ers y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae ychydig o'r gwaith cerrig gwreiddiol wedi goroesi hyd heddiw. Yn y fynwent, mae sawl bedd addurnedig a nodedig iawn.

6. Cerddwch i fyny Tan-y-bryn Road, a fydd yn disgyn rhyw ychydig cyn cyrraedd croesffordd. Trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddbost i gyfeiriad Gwarchodfa Natur Leol Bryn Euryn, a chan nodi y bydd y llwybr yn dychwelyd i'r groesffordd yn ddiweddarach. Trowch i'r dde yn syth i fyny 55 o risiau cerrig a choncrit ar lethr coediog. Bydd y grisiau yn eich arwain at adfeilion plasty caerog o'r enw Llys Euryn, sy'n dyddio'n ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg. Fe'i hadeiladwyd gan Ednyfed Fychan, cynghorydd i Lywelyn Fawr, ac un o hynafiaid y Tuduriaid. Mae’n bosibl fod Owain Glyndŵr wedi llosgi'r adeilad ym 1409, cyn iddo gael ei ailadeiladu a’i drosglwyddo i deulu Conway. Ymddengys mai adfail yn unig oedd yn weddill erbyn y ddeunawfed ganrif. Mae hysbysfwrdd ar y safle yn dangos sut y byddai wedi edrych yn ei anterth.

7. Dilynwch y llwybr coetir i fyny ychydig mwy o risiau er mwyn cyrraedd tŷ o'r enw Bwthyn Llys Euryn, a throwch i'r dde, gan ddilyn llwybr llydan sydd wedi'i arwyddo ‘Llwybr Coetir’ a ‘Llwybr y Copa’. Ychydig pellach i fyny'r allt, bydd y llwybr yn hollti a bydd dwy daith gylchol fer ar gael. Cychwynnwch drwy ddilyn ‘Llwybr y Copa’. Byddwch yn dychwelyd mewn dim o dro i'r un fan er mwyn parhau ar hyd y ‘Llwybr Coetir’.

8. Arhoswch ar y chwith er mwyn dilyn ‘Llwybr y Copa’ i fyny drwy'r coetir. Peidiwch â phoeni pan welwch fod y llwybr yn mynd am i lawr. Bydd marciwr yn dangos troad i'r chwith ac yna'n eich arwain at esgyniad hamddenol. Bydd y llwybr yn eich arwain at laswelltir calchfaen uwchben ffordd brysur yr A55 gyda golygfa o fynyddoedd uchel y Carneddau. Parhewch i ddringo a bydd marciwr yn nodi troad arall i'r chwith. Bydd esgyniad byr a serth yn eich arwain at bwynt tirfesur copa Bryn Euryn, 131m, sydd wedi'i amgylchynu gan weddillion prin bryngaer hynafol. Mwynhewch olygfeydd godidog o Fryniau Clwyd, y Carneddau, Mynydd Conwy, Ynys Môn, Ynys Seiriol, y Gogarth a Thrwyn y Fuwch. Ar ddiwrnodiau clir iawn, efallai y bydd modd gweld Ynys Manaw, Ardal y Llynnoedd a Swydd Gaerhirfryn, a'r môr yn llawn tyrbinau gwynt chwyrlïol. Dilynwch arwyddion rhwng y llwyni, gan barhau i lawr y llethr glaswelltog, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o ganlyniad i'r blodau glaswelltir calchfaen llawn perlysiau sy'n ffynnu yma. Ymhen tipyn, bydd y glaswelltir yn ymuno â choetir. Dilynwch lwybr serth yn syth i lawr a throwch i'r dde er mwyn dychwelyd i'r gyffordd sydd wedi'i nodi ar gyfer ‘Llwybr y Copa’ a ‘Llwybr y Coetir’.

9. Trowch i'r chwith er mwyn parhau ar hyd 'Llwybr y Coetir’, sy'n rhedeg yn raddol i lawr yr allt cyn hollti yn ddiweddarach. Cadwch ar y dde a pharhau ymhellach i lawr yr allt drwy'r goedwig. Bydd y llwybr yn gwastatáu ac yn croesi llwybr arall, ond arhoswch ar y llwybr mwyaf amlwg sydd yn syth o’ch blaen. Bydd hwn yn codi ac yn disgyn yn raddol, gan fynd heibio mainc ble gwelwch lwybr arall yn mynd i lawr i'r dde. Ond unwaith eto, parhewch i fynd yn syth yn eich blaen ar hyd y prif lwybr, sy'n wastad i ddechrau, yna'n codi, ac yna'n gwastatáu wrth fynd heibio wyneb craig. Ewch i lawr 62 o risiau pren a bydd y llwybr yn ymuno â thrac. Trowch i'r dde er mwyn parhau i lawr yr allt, gan fynd heibio maes parcio bach a dychwelyd at y groesffordd ar Tan-y-bryn Road.

10. Croeswch y ffordd a cherddwch yn syth i lawr Rhos Road. Bydd y ffordd hon yn eich arwain heibio sawl tŷ ysblennydd, gan ddechrau gyda Hanover Court a Quarry Cottage. Edrychwch yn ofalus ar y tai a adeiladwyd gyda chalchfaen, gan fod y blaenlythrennau WD wedi'u cerfio i ambell un, sydd yn dyddio'n ôl i hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cawsant eu hadeiladu gan y tirfeddiannwr lleol Whitehall Dod. Wedi i chi fynd heibio'r tai, ceir amrywiaeth o siopau a llefydd bwyta ac yfed ar eich ffordd yn ôl i'r promenâd.