Llanfairfechan a Dwygyfylchi

Archwiliwch ddarn ucheldirol o Lwybr Arfordir Cymru gan groesi godre mynyddoedd y Carneddau

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Archwiliwch ddarn ucheldirol o Lwybr Arfordir Cymru o Lanfairfechan i Ddwygyfylchi, gan groesi godre mynyddoedd y Carneddau. Mae darn lefel isel o Lwybr Arfordir Cymru yn rhedeg o Ddwygyfylchi, heibio i Benmaenmawr ac yn ôl i Lanfairfechan, gan ddefnyddio darn o hen ffordd Thomas Telford o amgylch Pen y Clip.

Manylion y llwybr

Pellter: 11.1 milltir neu 17.8 cilomedr
Man cychwyn: Llanfairfechan, wrth gyffordd Penmaenmawr Road, Station Road a
Village Road.
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SH 68105 74823
Disgrifiad what3words y man cychwyn: cuddiwch.dotiau.sgribl

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio ar gael yn Llanfairfechan ar hyd Penmaenmawr Road, wrth gyffordd Station Road a Park Crescent neu ar hyd y promenâd.

Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol i Lanfairfechan o Fangor, Penmaenmawr, Conwy a Llandudno.

Trenau
Mae gwasanaethau trên dyddiol Arfordir Gogledd Cymru yn cysylltu Llanfairfechan â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi. Sylwer mai arhosfan ar gais yw Llanfairfechan.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX Llanfairfechan Dwygyfylchi

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Os ydych yn cychwyn o Orsaf Reilffordd Llanfairfechan, dilynwch Station Road at ganol y pentref. Sylwer y bydd rhaid ailadrodd y daith hon ar hyd yr afon ar ddiwedd y dydd, gan ychwanegu 1.5 cilomedr neu 1 filltir ychwanegol at y daith yn gyffredinol.

2. Cychwynnwch yng nghanol Llanfairfechan wrth gyffordd Penmaenmawr Road, Station Road a Village Road. Mae arwyddbost wrth ymyl y goleuadau traffig yn dangos llwybrau cerdded lleol Llanfairfechan. Ceir hefyd arwyddion glas ar gyfer prif Lwybr Arfordir Cymru ac arwydd coch ar gyfer llwybr ucheldirol amgen i Lwybr Arfordir Cymru. Mae'r arwydd coch yn pwyntio i gyfeiriad Village Road yn ogystal â'r ganolfan gymunedol. Dilynwch y ffordd hon a chymerwch yr ail droad ar y chwith, sef Park Road. Bydd y ffordd hon yn mynd â chi heibio i hen adeiladau cerrig ac yna casgliad o dai modern.

3. Wedi i chi gyrraedd arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru, cerddwch drwy giât haearn er mwyn dilyn y trac mynediad tuag at ‘Penmaen Park’. O'ch blaen, bydd mynydd garw Penmaen Mawr i'w weld a golygfeydd arfordirol o Ynys Môn ac Ynys Seiriol. Cymerwch gipolwg ar dŷ Wern Isaf, a adeiladwyd gan y pensaer Herbert North yn unol ag egwyddorion y Mudiad Celf a Chrefft. Ewch drwy giât a dilynwch ffordd darmac gul yn eich blaen.

4. Bydd y ffordd yn eich arwain heibio sawl eiddo cain, yna'n disgyn yn serth. Peidiwch â throi i'r dde ar gyfer ‘Drws-y-Coed yn unig’. Yn hytrach, cymerwch y troad nesaf ar y dde, gan ddilyn llwybr cul rhwng tai. Croeswch ffordd gul, ac yna bron yn syth, trowch i'r dde i fyny llwybr a fydd yn eich arwain y tu ôl i dŷ. Ewch drwy giât mochyn a dilynwch lwybr coetir yn Nhyddyn Drycin. Bydd y llwybr yn eich arwain at bostyn marcio pren ble byddwch yn cymryd troead sydyn i'r dde, cyn parhau i ddringo ymhellach i fyny'r llethr coediog. Osgowch lwybrau sy'n arwain i'r chwith a'r dde, gan aros ar y llwybr mwyaf amlwg a pharhau i fynd yn syth yn eich blaen. Ar ôl i’r llwybr wyro i’r chwith, trowch i’r dde fel y nodir ar y postyn marcio ac ewch drwy giât mochyn er mwyn gadael Tyddyn Drycin.

5. Bydd y llwybr yn parhau i esgyn, gyda ffensys bob ochr iddo, yna waliau sychion, a golygfa o'r arfordir ac Ynys Môn. Ewch i fyny'r grisiau, drwy giât fechan, a dilynwch lwybr y tu ôl i Fferm Henar, sydd wedi'i pheintio'n wyn. Ewch drwy giât fechan arall a mynd yn syth ymlaen i fyny'r allt, gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru. Arhoswch ar y dde, gan fynd i fyny grisiau pren, cyn mynd drwy giât mochyn i mewn i gae. Ewch i fyny ar draws llethr glaswelltog, gan gadw'r ochr isaf i wal o gerrig sychion, hyd nes y gwelwch bostyn marcio yn pwyntio i'r chwith. Dringwch y llwybr serth drwy’r cae a mwynhewch olygfeydd o’r mynydd uwchben Llanfairfechan, gan edrych ar draws y môr tuag at Fôn ac Ynys Seiriol.

6. Ewch heibio ochr chwith ffermdy a cherdded rhwng yr adeiladau allanol fel y nodir er mwyn dod o hyd i arwyddbost pedair ffordd. Trowch i'r chwith, gan barhau i ddringo, er mwyn dilyn llwybr sydd â wal o gerrig sychion o boptu iddo. Ewch drwy giât mochyn a dilynwch lwybr cul i fyny, gan basio derwen ar yr ochr dde fel y'i nodir. Bydd y llwybr i weld yn dringo tuag at wyneb craig ar Benmaen Mawr, ond bydd yn troi i’r dde yn sydyn, gan ddilyn llwybr glaswelltog i fyny rhwng llwyni o eithin trwchus. Mwynhewch olygfeydd gwych o Lanfairfechan gydag Ynys Môn yn y pellter, a mynyddoedd crwn y Carneddau yn codi o gyfeiriad y tir.

7. Bydd y llwybr yn eich arwain trwy fwlch mewn wal o gerrig sychion. Parhewch i fynd yn syth yn eich blaen fel y nodir, gan godi'n raddol. Ewch drwy giât mochyn ger clwstwr bach o goed pinwydd. Bydd y llwybr glaswelltog yn codi, gyda wal o gerrig sychion i’r dde a thocyn o brysgwydd eithin i’r chwith. Byddwch yn cyrraedd clwstwr bach arall o goed pinwydd, lle gwelwch arwyddbost. Ewch drwy fwlch yn y wal o gerrig sychion i ymuno â thrac graean, gan droi i'r chwith er mwyn ei ddilyn ymhellach i fyny'r allt. Bydd y trac yn troi i'r chwith yn ddiweddarach, ond trowch chi i'r dde fel y nodir trwy giât mochyn.

8. Nid oes llwybr amlwg ar y dechrau, ond dilynwch wal o gerrig sychion ar draws y llethr a gwelwch lwybr yn datblygu’n raddol. Cerddwch o dan linell bŵer a pharhewch i ddilyn y wal a llwybr caregog cyn cyrraedd corlan sych. Gwelwch fod llwybr glaswelltog, tyllog yn codi i'r chwith, a fydd yn eich arwain heb ffwdan trwy brysgwydd eithin trwchus ar ochr bryn. Mae'r trac i weld yn hollti, ond bydd yn uno eto ymhen dipyn, cyn cyrraedd postyn marcio. Mae'r trac yn gwyro i'r chwith yn y fan hon, ond parhewch i fynd yn syth yn eich blaen ar hyd llwybr glaswelltog llai, gyda phrysgwydd eithin ar y naill ochr o hyd. Pan fyddwch yn cyrraedd postyn marcio arall, sylwch ar dwmpath a thwll ynddo ar y dde, sef carnedd gladdu hynafol.

9. Cerddwch i lawr yr allt rhyw ychydig er mwyn cyrraedd postyn marcio arall, a throwch i'r chwith ar hyd llwybr glaswelltog arall, gan groesi bwlch ger bryn Moelfre. Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi'i farcio i'r chwith o’r trac ar hyd llwybr rhostir nad yw'n amlwg iawn. Ond bydd y llwybr hwn yn dod yn fwy amlwg yn fuan iawn ac yn dilyn wal o gerrig sychion. Ceir golygfeydd gwych o'r Gogarth a Thrwyn y Fuwch trwy fwlch yn y bryniau. Ewch heibio marciwr pellter amlwg ac yna postyn marcio. Mae'r trac yn dringo, gydag Ynys Seiriol ac Ynys Môn yn dod i'r golwg. Wedi i chi esgyn oddeutu 380m, byddwch yn cyrraedd postyn marcio mewn bwlch, ble bydd angen gwneud penderfyniad.

10. Mae nifer o henebion yn yr ardal hon, ac ar y postyn fe welwch god QR sy'n cyfeirio at ‘gylchoedd cerrig cynhanesyddol’. Gelwir y cylch cerrig mwyaf sydd gerllaw yn Gylch y Derwyddon ac mae dros 5,000 o flynyddoedd oed. I ddod o hyd iddo, mae angen ichi ddargyfeirio trwy droi i'r dde yn sydyn a dilyn llwybr ymhellach i fyny'r allt am 250m, ac yna dychwelyd i'r un fan. Wrth i chi edrych ar draws y rhostiroedd llwm o amgylch Cylch y Derwyddon, fe sylwch ar gylch llai ymhellach i ffwrdd, ac efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld merlod y Carneddau yn pori gerllaw.

11. I barhau, dilynwch Lwybr Arfordir Cymru i lawr yr allt yn raddol, a bydd y trac yn troi i’r dde yn sydyn. Ewch drwy giât mochyn a dilynwch y trac i'r chwith, gan fynd heibio i gasgliad o goed a thŷ anghysbell Bryn Derwydd. Ewch drwy giât a dilynwch y trac yn eich blaen. Yn ddiweddarach, byddwch yn mynd heibio i arwyddbost a bwrdd mapiau sy’n dangos y berthynas rhwng y rhan ucheldirol hwn o Lwybr Arfordir Cymru a’i rhan iseldirol gyfatebol. Bydd y trac yn mynd â chi trwy fwlch rhwng dau fryn wedi'i orchuddio â grug ac yn ymuno â thrac mynediad fferm arall.

12. Parhewch i lawr yr allt, ac yn fuan byddwch yn mwynhau golygfa o Benmaenmawr gydag Ynys Môn ac Ynys Seiriol yn y pellter. Mae modd cerdded yr holl ffordd i lawr trac y fferm at lwybr byr i Benmaenmawr, ond byddai hynny’n golygu y byddech yn methu un o lwybrau mwyaf rhyfeddol yr ardal. Trowch i'r dde, gan fynd rhwng pileri porth cerrig a dilynwch lwybr gwastad, glaswelltog ar draws llethr o redyn ac eithin ar Foel Lûs. Parhewch ar draws llethr serth o rug a sgri, gan fynd heibio i gofebion sydd wedi'u gosod ar wyneb craig, ac yna ogof fach. Ceir golygfa o'r tir sydd wedi’i amgylchynu gan bentiroedd Pen y Clip a Phenmaen-bach, ble clywch y traffig yn rhuo o ffordd brysur yr A55. Fe welwch fod y llwybr yn mynd yn gulach, ond yn parhau'n wastad i bob pwrpas ar y llethr serth.

13. Pan fyddwch yn cyrraedd cyffordd wedi'i harwyddo wrth ymyl polyn telegraff, cymerwch droad sydyn i'r chwith, gan ddilyn llwybr cul i lawr trwy redyn a grug. Cyn bo hir, bydd coed i'w gweld yn frith ar y llethr, a byddai'n well i chi ddilyn llinell igam-ogam y llwybr fel y nodir, yn hytrach nag anelu yn syth i lawr yr allt. Bydd y llwybr yn mynd â chi trwy goetir y tu ôl i dai ac yn eich arwain trwy giât mochyn, cyn dod i ben o'r diwedd ar Hen Ffordd Conwy uwchben Dwygyfylchi. (Os trowch i'r dde ar hyd Hen Ffordd Conwy, byddwch yn cyrraedd tafarn y Fairy Glen yng Nghapelulo. Mae'r amrywiad mewndirol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru yn parhau tuag at Gonwy.) Ar draws y ffordd mae Treforris Road, a fydd yn eich arwain i lawr heibio Ysgol Capelulo, tros groesffordd a heibio siopau i gyrraedd canol y pentref.

14. Trowch i'r dde yn y Groesffordd a cherddwch i gyfeiriad y llochesi bysiau, lle mae bysiau rheolaidd yn rhedeg i Gonwy, Llandudno, Penmaenmawr, Llanfairfechan a Bangor. Ond cyn cyrraedd y llochesi, trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwydd tuag at y ‘Traeth dros bont droed’, er mwyn dilyn llwybr tarmac sy'n rhedeg y tu ôl i dai, gan droi i'r chwith ac i'r dde er mwyn pasio rhandir cymunedol. Ceir mynediad i orsaf betrol Shell Orme View, lle gellir prynu byrbrydau. Fel arall, croeswch bont dros ffordd brysur yr A55, gan fwynhau golygfeydd o Benmaenmawr tuag at Ynys Môn ac Ynys Seiriol, ac yna’r Gogarth a Mynydd Conwy.

15. Peidiwch â mynd yr holl ffordd ar draws y bont droed, ond, yn hytrach, ewch i lawr y grisiau sydd wedi'u lleoli hanner ffordd ar draws. Ewch yn ôl i'r un cyfeiriad o dan y grisiau a throi i'r chwith er mwyn ymuno â'r llwybr tarmac ar gyfer cerddwyr a beicwyr, sy'n rhedeg gyferbyn â'r A55. Dyma brif ran Llwybr Arfordir Cymru a gallwch ei dilyn yr holl ffordd yn ôl i Lanfairfechan. Cadwch olwg am feicwyr a chadwch i un ochr – gorau oll os gallwch aros ar yr ochr dde. Bydd y llwybr yn rhedeg rhwng ffordd yr A55 a'r rheilffordd i ddechrau, ond wedi i chi fynd heibio cylchfan, byddwch yn croesi dros geg twnnel rheilffordd ac yn gadael y ffordd fawr, gan ymuno â'r arfordir.

16. Bydd yr arfordir wedi'i gysgodi gan graig i ddechrau, cyn i chi gyrraedd traeth o gerrig mân wrth i chi nesáu at y promenâd ym Mhenmaenmawr. Pan fyddwch wedi cyrraedd y ciosgau, gallwch ddargyfeirio o dan y ffordd a'r rheilffordd er mwyn cyrraedd yr orsaf drenau. Mae pentref mawr Penmaenmawr, a oedd unwaith yn gyrchfan Fictorianaidd ffasiynol, ychydig ymhellach i mewn i'r tir. Dinistriwyd y promenâd gwreiddiol i raddau helaeth pan adeiladwyd yr A55. Agorwyd y fersiwn ar ei newydd wedd ym 1988.

17. Wedi i chi gyrraedd diwedd y promenâd, mae ffordd wedi'i chynnal gan bileri concrit. Ewch o dan y ffordd, yna trowch i'r dde yn syth i fyny'r grisiau er mwyn cyrraedd y ffordd. Croeswch y ffordd a throwch i'r chwith i'w dilyn, cyn ei gadael yn fuan iawn er mwyn mynd trwy faes parcio bach. Gwelwch fod llwybr arfordirol a llwybr beicio tarmac yn parhau, ond byddant yn cyrraedd cyffordd yn fuan. Arhoswch ar y chwith ac ewch i fyny'r allt, gan groesi pont dros reilffordd cyn dilyn y ramp igam-ogam o dan y briffordd. Dringwch 31 o risiau concrit er mwyn cyrraedd yr hen ffordd fawr gyferbyn ac ychydig o dai. Trowch i'r dde i ddechrau fel petaech yn mynd am brif ffordd yr A55 a cheg twnnel, ond trowch i'r chwith cyn cyrraedd y ffordd, gan ddilyn yr arwyddbost ar gyfer y llwybr beicio i Lanfairfechan a Bangor.

18. Sylwch ar y bolltau enfawr sy'n dal ochr y mynydd ynghyd ym Mhen y Clip. Croeswch bont droed dros y gerbytffordd tua'r gorllewin, gan edrych dros geg y twnnel, yna dilynwch y llwybr beicio sydd wedi'i ffensio, sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r gerbytffordd tua'r dwyrain. Bydd y ffordd o'ch blaenau yn ymddangos yn gul ac yn glynu at lethr serth, creigiog. A dyna’n union oedd hi ar un adeg – y brif ffordd wreiddiol a adeiladwyd gan Thomas Telford ym 1826. Cyn hynny, adeiladwyd ffordd fwy cyntefig gan John Sylvester ym 1772. Cyn yr adeiladwyd y ffordd hon, roedd y llwybr o amgylch y pentir yn beryglus iawn. Torrwyd twnnel rheilffordd trwy bentir Pen y Clip ym 1848. Agorwyd ffordd newydd ym 1935 a oedd yn cludo traffig y ddwy ffordd. Roedd y ffordd yn cynnwys traphont wedi'i gwneud o gerrig a dau dwnnel byr. Ffordd ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r gorllewin yn unig yw hon bellach, wedi i dwnnel ffordd hirach gael ei agor ym 1993 i gludo traffig tua'r dwyrain. Yn 2009, cysylltwyd hen ffordd Telford â’r rhwydwaith ffyrdd ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a daeth yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn 2012.

19. Wedi codi'n uchel uwchben y gerbytffordd tua'r gorllewin, mae’r llwybr yn arwain at bont droed uchel rhwng dwy gerbytffordd yr A55, ac yna'n croesi'r gerbytffordd tua'r dwyrain. Byddwch yn ymuno â ffordd sydd yn rhedeg gyferbyn â'r A55 am ychydig. Trowch i'r dde i gyfeiriad Mona Terrace, gan fynd heibio i gasgliad o dai teras a ffens rwystr. Parhewch yn syth i lawr ffordd Pendalar, sydd â llwybr tarmac byr yn rhedeg gyferbyn â hi y dylech ei ddilyn. Parhewch yn syth yn eich blaen ar hyd Penmaenmawr Road, gan fynd heibio i dai ar gyrion Llanfairfechan. Wedi i chi gyrraedd cyffordd, trowch i'r chwith er mwyn parhau ar hyd Penmaenmawr Road, yr holl ffordd yn ôl i ganol Llanfairfechan. Mae sawl safle bws ar hyd y ffordd hon, gyda gwasanaethau rheolaidd i Fangor, Penmaenmawr, Conwy a Llandudno.