Conwy a Dwygyfylchi

Mwynhewch Safle Treftadaeth y Byd Castell Conwy gyda golygfeydd godidog o'r mynyddoedd

© Hawlfraint y Goron

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Gellir archwilio Castell Conwy, sy'n Safle Treftadaeth y Byd,  a muriau’r dref ar ddechrau neu ddiwedd y daith gerdded hon. Bydd y llwybr yn mynd â chi i gyfeiriad y tir y tu ôl i Fynydd Conwy tuag at Fwlch Sychnant a Dwygyfylchi. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg gyferbyn â ffordd a rheilffordd a fydd yn mynd â chi o amgylch Pentir Penmaen-bach cyn dychwelyd i Gonwy.

Manylion y llwybr

Pellter: 9.1 milltir neu 14.6 km
Man cychwyn: Gorsaf Reilffordd Conwy
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SH 78059 77464
Disgrifiad What3words y man cychwyn: golygais.pren.gwasgod

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Meysydd parcio yng Ngorsaf Reilffordd Conwy, Vicarage Gardens a Morfa Bach. Meysydd parcio arfordirol ar Draeth Morfa a Beacons Way. Gallai cyfyngiadau uchder fod yn berthnasol.

Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol i Gonwy o Fae Colwyn, Llandudno, Dwygyfylchi, Penmaenmawr, Llanfairfechan a Bangor.

Trenau
Mae gwasanaethau trên dyddiol Arfordir Gogledd Cymru yn cysylltu Conwy â gorsafoedd arfordirol rhwng Caer a Chaergybi. Sylwer mai arhosfan ar gais yw Conwy.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Conwy Dwygyfylchi'

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1.Cychwynnwch eich taith yng Ngorsaf Reilffordd Conwy, yn ei maes parcio neu'r lloches bws ychydig uwchben y maes parcio. Mae hen Fanc Conwy i'w weld ac mae arwyddbost defnyddiol ar draws y ffordd yn Sgwâr Lancaster. Dilynwch y ffordd balmantog o gerrig i gyfeiriad y cei a’r Tŷ Lleiaf. Mae'r ffordd yn frith o gaffis a thafarndai ac yn mynd heibio'r tŷ tref nodedig o Oes Elisabeth a Thŷ Aberconwy. Ewch i lawr trwy borth ym muriau'r dref, sydd yn dyddio'n ôl i'r drydedd ganrif ar ddeg, er mwyn cyrraedd y Liverpool Arms, y cei a Llwybr Arfordir Cymru.

2. Trowch i'r chwith a mynd heibio'r ‘Tŷ Lleiaf ym Mhrydain’, gan barhau i fynd yn syth yn eich blaen drwy borth arall ym muriau'r dref. Dilynwch y ffordd i fyny'r allt am ychydig, a throwch i'r dde i lawr yr allt er mwyn parhau ar hyd llwybr arfordirol poblogaidd wedi'i darmacio, a elwir yn ‘Marine Walk’. Mae hwn yn llwybr a gaiff ei rannu gan gerddwyr a beicwyr, felly gwell aros ar y dde a chadw llygad am feiciau. Bydd bwlch mewn wal yn rhoi mynediad i Warchodfa Natur Leol Coed Bodlondeb, y gellid ei harchwilio tuag at ddiwedd y dydd. Ond am y tro, dilynwch ‘Marine Walk’ hyd nes y bydd yn ymuno â ffordd o’r enw Morfa Drive. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i’r dde, ond mae ein llwybr ni yn troi i’r chwith, sydd yn parhau i ddilyn Llwybr Arfordir Cymru mewn gwirionedd, ond mae bellach wedi’i arwyddo mewn coch fel dewis arall a fydd yn eich arwain tua'r tir i gyfeiriad Mynydd Conwy.

3. Dilynwch Morfa Drive heibio Ysgol Aberconwy ac ewch yn syth yn eich blaen drwy groesffordd. Croeswch bont droed dros reilffordd ac yna dilynwch lwybr llydan heibio'r coetir sy'n amgylchynu Beechwood Court. Ewch heibio'r dreif, dilynwch y ffordd i fyny'r allt, a chadwch i'r dde wrth y cyffyrdd, gan fynd heibio ychydig o dai cyn cyrraedd diwedd y tarmac. Bydd grisiau pren bychan yn eich arwain at giât i gerddwyr ble bydd llwybr serth yn mynd â chi i fyny llethr coediog Mynydd Conwy. Unwaith y bydd y llwybr wedi'ch arwain trwy'r coed tuag at rostir, cofiwch edrych yn ôl ar Gonwy a'i chastell.

4. Pan gyrhaeddwch gyffordd yn y llwybr, trowch i'r chwith. (Ystyriwch droi i'r dde yn gyntaf os hoffech ddargyfeiriad byr sy'n cynnig golygfa o'r Gogarth.) Bydd y llwybr cul yn gwasgu rhwng y rhedyn, yr eithin a'r grug. Ewch heibio ychydig mwy o goed a pharhau i fynd yn eich blaen fel y bydd wedi'i nodi ar y gyffordd. (Unwaith eto, mae golygfeydd i'w gweld wrth ddilyn dargyfeiriad byr i'r dde.) Ewch heibio i wyneb craig ar y chwith a bydd y llwybr yn codi, weithiau'n gul ac weithiau'n llydan, yn wyrdd a glaswelltog ac yn frith o flodau fel briwydd wen a thresgl y moch. Ewch heibio i wyneb craig arall ar eich chwith, a bydd golygfa o fynyddoedd uchel y Carneddau i'w gweld o'ch blaen. Bydd y llwybr yn cyrraedd ei bwynt uchaf, oddeutu 210m, ar lethr Mynydd Conwy, ac yna’n dod i lawr ychydig er mwyn cyrraedd hysbysfwrdd sy’n cynnig gwybodaeth am Gaer Seion, sef bryngaer Mynydd Conwy, a warchodir gan y gyfraith fel heneb gofrestredig. (Gellir cyrraedd y fryngaer trwy ddilyn llwybr cul iawn i gopa 244m y mynydd.)

5. Ewch heibio postyn marcio cadarn sy’n arddangos y pellteroedd ar hyd y rhan fewndirol hon o Lwybr Arfordir Cymru, a dilynwch y llwybr i lawr yr allt yn raddol ar draws y llethr. Cadwch olwg am byst marcio gan fod rhwydwaith o lwybrau o’ch blaen, ac mae’r llwybr sydd angen i chi ei ddilyn yn gul iawn gan ei fod yn rhedeg drwy eithin, rhedyn a grug. Bydd yn arwain at fwlch ar gopa'r mynydd, lle ceir golygfa o'r Gogarth. Wrth edrych yn syth i lawr at yr arfordir, gellir gweld pont droed y byddwch yn ei chroesi yn ddiweddarach ar y daith gerdded hon. (Byddwch yn ei chroesi ar ôl cerdded 5.3 km / 3.3 milltir arall.)

6. Trowch i'r chwith wrth gyffordd cyn cyrraedd mainc, lle mae'n anodd gweld postyn marcio gan ei fod wedi'i guddio y tu ôl i lwyn eithin. Dilynwch lwybr llydan, sy'n laswelltog yn bennaf, a pharhewch fel y nodir yn syth ymlaen drwy groesffordd â llwybr llydan arall, yna ewch i fyny er mwyn croesi copa. Ceir golygfa o fferm o'r enw Pen-pyra, sydd wedi'i chuddio mewn pant ar ochr y mynydd. Cadwch lygad am y frân goesgoch nodedig a gwrandewch am ei galwad. Gallwch wrando ar ei galwad ar wefan ‘Birds of Conservation Concern’. Brân yw hi gyda phig a choesau coch llachar. Dilynwch y llwybr llydan yn syth i lawr yr allt a thrwy giât er mwyn cyrraedd nant. Os yw'r dŵr yn rhy ddwfn i groesi heb wlychu eich traed, defnyddiwch y cerrig camu i'r chwith a byddwch yn cyrraedd arwydd.

7. Croeswch lwybr mynediad y fferm a dilynwch lwybr llydan, glaswelltog sy'n codi ychydig drwy redyn. Bydd llwybr byr, caregog yn eich arwain yn ôl i lawr at lwybr mynediad y fferm, ble bydd troad sydyn i'r dde yn eich arwain at olygfa o ddyffryn serth ger Bwlch Sychnant. Bydd ffordd y fferm yn torri ar draws wyneb craig a fydd yn arwain at ffordd ar Fwlch Sychnant, ond peidiwch â'i dilyn mor bell â hynny. Yn hytrach, trowch i'r dde fel y nodir i lawr grisiau cerrig a dilynwch lwybr cul i lawr i'r dyffryn. Byddwch yn cyrraedd ychydig o dai ar y gwaelod a phasiwch rhyngddynt er mwyn parhau i fynd yn syth yn eich blaen i lawr ffordd. Mae'r ffordd yn croesi afon, a byddwch yn cyrraedd cyffordd lle ceir arwyddbost tair ffordd. (Dylai unrhyw un sy’n dymuno dilyn y llwybr amgen mewndirol o Lwybr Arfordir Cymru i Lanfairfechan droi i’r chwith yma, ynghyd ag unrhyw un sy’n dymuno gwneud dargyfeiriad byr i dafarn y Fairy Glen yng Nghapelulo.)

8. Mae’r ffordd sy’n rhedeg gyferbyn â'r afon yn parhau i lawr yr afon ac mae wedi'i harwyddo fel ‘Cyswllt i Lwybr Arfordir Cymru’. Pan fydd y ffordd wedi mynd heibio ychydig o dai, gwyliwch am arwyddbost arall ar y dde ar gyfer y llwybr cyswllt. Dilynwch drac mynediad tuag at dŷ o’r enw Pentrefelin, ond arhoswch ar ochr chwith yr afon a bydd y trac yn troi'n llwybr glan afon. Yn ddiweddarach, dilynwch ffordd fynediad fer arall, ac yna llwybr glan afon arall. Pan fyddwch yn cyrraedd cyffordd, trowch i'r chwith oddi wrth yr afon fel y nodir. Ewch drwy giât mochyn a cherdded i fyny heibio i fynwent er mwyn cyrraedd ffordd wrth ymyl Eglwys Sant Gwynan yn Nwygyfylchi.

9. Trowch i'r chwith a dilynwch y palmant ger Ffordd Glan yr Afon a Ffordd Ysguborwen er mwyn mynd heibio'r llochesi bws – un o boptu'r ffordd – lle mae bysiau rheolaidd yn rhedeg i Gonwy, Llandudno, Penmaenmawr, Llanfairfechan a Bangor. Trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddbost i gyfeiriad y ‘Traeth dros bont droed’ ac yna dilynwch lwybr tarmac sy'n rhedeg y tu ôl i dai, gan droi i'r chwith ac i'r dde heibio i randir cymunedol. Ceir mynediad i orsaf betrol Shell Orme View yma er mwyn prynu byrbrydau. Fel arall, croeswch bont dros ffordd brysur yr A55, a mwynhau golygfeydd o Benmaenmawr tuag at Ynys Môn ac Ynys Seiriol, ac yna’r Gogarth a Mynydd Conwy.

10. Peidiwch â mynd yr holl ffordd ar draws y bont droed, ond yn hytrach ewch i lawr y grisiau sydd wedi'u lleoli hanner ffordd ar draws. Ewch yn ôl i'r un cyfeiriad o dan y grisiau a throi i'r dde er mwyn ymuno â'r llwybr tarmac ar gyfer cerddwyr a beicwyr, sy'n rhedeg gyferbyn â'r A55. Dyma Lwybr Arfordir Cymru a gallwch ei ddilyn yr holl ffordd yn ôl i Gonwy. Cadwch olwg am feicwyr a chadwch i un ochr - gorau oll os gallwch aros ar yr ochr dde. Yn ddiweddarach, sylwch sut mae dwy gerbytffordd y ffordd yn gwahanu i fynd trwy ddau dwnnel gwahanol, tra bod Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y ffordd gul wreiddiol a gerfiwyd o wyneb craig ym 1826, gan fynd heibio i fonyn o graig a elwir yn Fawd y Cawr. Cyn i Thomas Telford adeiladu'r ffordd hon, byddai rhaid i deithwyr naill ai ddefnyddio'r traeth ar drai, neu groesi Bwlch Sychnant y tu ôl i Fynydd Conwy.

11. Agorwyd twnnel y rheilffordd drwy bentir Penmaen-bach ym 1846. Roedd y twnnel ffordd cyntaf yn cludo traffig ddwy ffordd, ac agorwyd hwn ym 1932. Yn draddodiadol, bydd modurwyr yn canu eu cyrn ddwy waith er cof am ddau ddyn a laddwyd yn ystod y gwaith adeiladu. Agorwyd twnnel ffordd arall ym 1989 i gludo traffig tua'r gorllewin, ac addaswyd twnnel 1932 er mwyn cludo traffig tua'r dwyrain.

12. Ar ôl troi o amgylch y pentir, mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg yn gyfochrog â'r A55. Cyn gynted ag y bydd y rheilffordd yn dod allan o'i thwnnel, gwelwch bont droed yn croesi drosti, sy'n caniatáu mwy o le rhwng y llwybr beicio a'r ffordd fawr. Croeswch bont droed arall yn ôl ar draws y rheilffordd a dilynwch lwybr tarmac ar hyd twyni tywod llawn llystyfiant, gan bellhau yn raddol oddi wrth y rheilffordd a'r ffordd, a mynd heibio i barc cartrefi symudol cyn cyrraedd maes parcio.

13. Gan fynd yn syth drwy'r maes parcio, dilynwch y ffordd am ychydig cyn troi i'r chwith ger yr arwyddbost. Dilynwch y llwybr tywodlyd, cul drwy lwyni eithin a mieri, sy’n rhedeg yn agos at ffin cwrs golff Morfa Conwy. Er ei bod yn bosibl cerdded ar hyd y traeth tywodlyd pan fydd y llanw allan, pan fydd yn benllanw mae'r traeth ger y twyni tywod yn arw ac yn llawn clogfeini. Yn y pen draw, bydd llwybr yr arfordir yn cyrraedd hysbysfwrdd ar gyfer Morfa Conwy, sy'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ble gwelwch nodyn o'r amrywiaeth o blanhigion a thrychfilod arbenigol sy’n ffynnu yno.

14. Cadwch eich golwg tua'r môr wrth adael y maes parcio bach cyntaf, yna trowch i'r dde yn fuan wedyn i gyfeiriad y tir drwy faes parcio arall fel y nodir. Ymunwch a dilynwch ffordd ymlaen, yna trowch i'r chwith ar hyd llwybr palmantog o frics, gan fynd heibio i dai sy'n edrych dros Farina Conwy. Ewch heibio i loches goffa D-Day, gan gadw mewn cof yr adeiladwyd yr harbwrs ‘Mulberry’ arnofiol arloesol nid nepell o'r safle hwn. Cewch hyd i fwyty a thafarn y Mulberry ymhellach ymlaen ger y marina. Fel arall, trowch i’r dde fel y nodir ar yr arwyddbost ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, gan ddilyn llwybr palmantog o frics rhwng tai. Ceir dewis o ddau lwybr bron yn syth, felly cymerwch yr un ar y chwith. Ymunwch â Telford Close, ac yna trowch i'r chwith ar hyd ffordd darmac o'r enw Ellis Way.

15. Trowch i'r dde fel y nodir ar yr arwyddbost ar hyd Morfa Drive, sy'n croesi pont dros yr A55 brysur yn agos at geg Twnnel Conwy. Agorwyd y twnnel hwn, sydd yn rhedeg o dan afon lanwol Conwy, ym 1991. Ewch drwy giât mochyn ger grid gwartheg cyn cyrraedd cyffordd â Marine Drive, a ddilynoch yn gynharach yn y dydd. Yn syml, trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd hon yn ôl i Gonwy. Neu ewch drwy’r bwlch yn y wal sy’n rhoi mynediad i Goed Bodlondeb, gan ddilyn unrhyw un o’r llwybrau drwy'r coetir. Ond sylwch fod y rhain yn arwain yn ôl i Gonwy ar hyd llwybr gwahanol ac nad ydynt yn ailymuno â Marine Drive. Os oes gennych amser yn weddill, byddai werth i chi fwynhau taith o amgylch muriau'r dref, sydd â'r fantais o orffen yn agos at yr orsaf reilffordd.