Llanelli

Taith gerdded braf ar hyd yr arfordir ôl-ddiwydiannol sy'n cynnwys ymweliad â Chanolfan Gwlyptir Llanelli

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Roedd Llanelli unwaith yn ganolfan cloddio glo bwysig, yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu metelau anfferrus. Mae gweithgynhyrchu tunplat wedi goroesi, ond caeodd safleoedd diwydiannol helaeth, ynghyd â dociau'r dref. Mae’r safleoedd hynny wedi cael eu defnyddio ar gyfer tai newydd, cwrs golff a gwarchodfeydd natur. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn gwneud yn fawr o’r arfordir ôl-ddiwydiannol, a gellir ymgorffori Canolfan Gwlyptir Llanelli mewn taith gerdded.

Manylion y llwybr

Pellter: 6.9 milltir neu 11.1 cilomedr
Man cychwyn: Gorsaf Drenau Llanelli
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SS 50604 99483
Disgrifiad what3words y man cychwyn: garddwyr.tyddyn.pysgodyn

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Mae parcio gyferbyn â Gorsaf Drenau Llanelli ac yng Nghei’r Mileniwm ger Glan-y-môr a Chanolfan Gwlyptir Llanelli.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol, ac eithrio dydd Sul, yn cysylltu Llanelli ag Abertawe a Chaerfyrddin. Sylwch fod yr orsaf fysiau filltir i ffwrdd o'r orsaf drenau lle mae'r daith yn cychwyn, felly mae'n well dal bws i Lan-y-môr i gychwyn.

Trenau
Gwasanaethau trên dyddiol i Lanelli o Gaerdydd ac Abertawe ar Brif Reilffordd De Cymru, yn ogystal â gwasanaethau o Gaerfyrddin ar Reilffordd Gorllewin Cymru.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Llanelli' 

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch yng Ngorsaf Drenau Llanelli ar Gilgant Great Western, lle mae maes parcio gyferbyn. Dilynwch y ffordd heibio swyddfa dacsis Mastercabs ac yna trowch i'r chwith dros groesfan reilffordd. Sylwch ar y plac glas ar y dde, sy’n nodi safle Ffowndri Glanmor, a fu’n gweithredu rhwng 1850 a 1979. Cadwch i’r dde wrth gyffordd, yna wrth i’r ffordd wyro i’r chwith, trowch i’r dde i ddilyn llwybrau tarmac drwy lecyn gwyrdd, gan fynd rhwng tŷ carreg unigol a Chapel y Bedyddwyr Bethel. Mae cerflun sosban yn dwyn i gof bod Llanelli unwaith wedi'i llysenwi’n ‘Sospans’ ac mae hysbysfwrdd yn cynnig gwybodaeth am Lwybr Treftadaeth Gymunedol Llanelli. Mae’r llwybr hyd yma hefyd wedi bod yn dilyn Llwybr Rheilffordd Calon Cymru, wedi’i nodi gan arwyddion bach a sticeri gyda logo traphont reilffordd arnynt. Mae'r llwybr yn rhedeg yr holl ffordd o Lanelli i Craven Arms yn Swydd Amwythig.

2. Dilynwch y ffordd, Stryd y Môr, ymlaen heibio llochesau bysiau. Mae'r ffordd yn gwyro i'r chwith a'r peth gorau yw cerdded ar hyd y palmant ar ochr chwith y ffordd. Mae hwn yn troi’n llwybr troed a llwybr beicio, gan fynd i'r chwith o gylchfan. Croeswch ffordd y B4304 i Abertawe a throwch i'r chwith, gan ddilyn llwybr troed a llwybr beicio arall sydd wedi'u nodi ar y cyd fel Llwybr Rheilffordd Calon Cymru a Llwybr Arfordir Cymru. Y datblygiad adeiladu modern gerllaw yw Glan-y-mor, ond mae ein llwybr yn arwain oddi wrtho, ochr yn ochr â chorsydd a gwastadeddau llaid afon Lliedi. Mae hysbysiad yn nodi bod glaswelltir lled-naturiol sy'n tyfu rhwng yr arfordir a'r brif ffordd yn gorchuddio hen safleoedd diwydiannol. Chwiliwch am blac yn nodi’r hen Ddoc Gwaith Copr, sef y doc arnofiol cyntaf i’w adeiladu yng Nghymru, a oedd yn gweithredu rhwng 1824 a 1949.

3. Ewch heibio cylchfan a chroesi pont droed, yna trowch i'r dde i gerdded oddi wrth ffordd brysur y B4304. Mae datblygiad tai modern ar hen safle diwydiannol yn edrych dros hen gei a chilfach lanw. Trowch i'r chwith o amgylch pentir a cherdded o amgylch bae corsiog lle mae tai modern yn wynebu Penrhyn Gŵyr yn y pellter. Ewch heibio i blac yn cofnodi safle Fferm Machynys. Mae'r enw Machynys bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y datblygiad tai newydd. Trowch o gwmpas pentir arall a cherdded o amgylch bae corsiog arall. Trowch o gwmpas pentir arall eto, sydd â cherflun pinacl dur arno. Mae hwn yn nodi un pen Parc Arfordirol y Mileniwm, sy’n 13 milltir o hyd, gyda phinacl dur ger Porth Tywyn yn nodi’r pen arall.

4. Mae tai yn ildio i gwrs golff ac mae hysbysfwrdd mawr yn cynnig gwybodaeth am Lwybr Treftadaeth Gymunedol Llanelli, Machynys, a phentref a chymuned goll Bwlch y Gwynt. Mae mapiau'n dangos faint o'r ardal hon oedd unwaith yn ddiwydiannol iawn. Mae llwybr llydan, grutiog yn mynd heibio i fae corsiog arall. Ar ôl troi o gwmpas pentir olaf, mae'r trac yn disgyn ychydig ac yn colli golygfeydd o'r arfordir, gan gael ei amgáu gan fieri, llwyni a choed. Mae morglawdd concrit yn parhau, ond mae wedi tyfu’n wyllt iawn, felly mae’n well aros ar y trac a ddefnyddir gan Lwybr Arfordir Cymru. Ewch heibio i bwll mawr sy'n denu adar y gwlyptir, a nes ymlaen croeswch bont lydan sy'n croesi draen. Mae’r trac yn parhau ochr yn ochr â’r morglawdd concrit, ac mae’n werth dringo arno i ddilyn llwybr glaswelltog ar hyd y brig, neu o leiaf i weld y corsydd helaeth y tu hwnt. Fodd bynnag, mae Llwybr Arfordir Cymru yn aros ar y llwybr grutiog ac yn y pen draw yn cyrraedd cyffordd â llwybr arall yn agos at ffordd brysur y B4304.

5. Mae dewis o lwybrau ar gael ar y pwynt hwn. Naill ai trowch i'r chwith ar hyd llwybr troed a llwybr beicio tarmac i ddychwelyd i Lanelli, gan arbed milltir a hanner o gerdded, neu trowch i'r dde i ddilyn Llwybr Arfordir Cymru i ymweld â Chanolfan Gwlyptir Llanelli. Os byddwch yn dilyn y dargyfeiriad, buan y daw'r llwybr grutiog yn llwybr tarmac ac mae'r ardal o amgylch yn goediog, er gwaethaf agosrwydd y ffordd brysur. Yn y pen draw, mae'r llwybr yn croesi pont droed ac yn ymuno â ffordd ddi-draffig. Trowch i'r dde i'w dilyn, yna ymunwch â ffordd arall a throwch i'r dde i gael mynediad i faes parcio Canolfan Gwlyptir Llanelli. Cadwch yn dynn i'r dde o'r maes parcio i ddod o hyd i lwybr cerddwyr i'r fynedfa. Sylwch fod y gwlyptiroedd yn helaeth ac yn cynnwys rhwydwaith cymhleth o lwybrau, a byddai'n hawdd treulio gweddill y dydd yno, yn ogystal â bwyta yn eu caffi. Efallai y byddai’n werth gorffen y daith gerdded yma a threfnu cael eich casglu ar ddiwedd y dydd.

6. I gerdded yn ôl i'r dref o Ganolfan Gwlyptir Llanelli, dilynwch eich camau yn ôl ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a newidiwch i'r llwybr troed a llwybr beicio tarmac sy'n parhau yn gyfochrog â ffordd brysur y B4304. Mae hwn yn mynd heibio i dri beilon amlwg iawn cyn cyrraedd datblygiadau tai newydd ym maestrefi Llanelli yn Hafan y Morfa. Ewch heibio i'r chwith o gylchfan, yna trowch i'r dde i groesi'r ffordd fawr, cyn troi i'r chwith i barhau, gan ddilyn llwybr troed a llwybr beicio yn gyfochrog â'r ffordd brysur. Cerddwch yr holl ffordd i'r gylchfan nesaf a throwch i'r dde i basio archfarchnad Lidl. (Fel arall, edrychwch am lwybr ar y dde, cyn cyrraedd y gylchfan, yna trowch i’r chwith ar hyd llwybr cudd sy’n rhedeg y tu ôl i goed i ddod allan ar y gylchfan.)

7. Mae gan y ffordd ymylon glaswelltog hael yn ogystal â llwybr tarmac ar yr ochr dde, er ei bod ym maestrefi adeiledig. Ar ôl mynd heibio’r Whitstable Inn, mae Heol y Doc Newydd yn cynnwys rhesi o dai teras, ychydig o siopau a chwpl o gapeli. Er bod y tai wedi eu moderneiddio dros y degawdau, mae llawer ohonynt wedi cadw arddulliau gwreiddiol eu drysau. Croeswch groesfan reilffordd, neu defnyddiwch bont droed i groesi'r rheilffordd, yna trowch i'r chwith ar hyd Cilgant Great Western i fynd yn ôl i Orsaf Drenau Llanelli.