Sir Gâr

Cyfunwch olygfeydd o'r aber â thraeth gogoneddus Pentywyn

Dewch i archwilio’r dirwedd amrywiol hon gyda chestyll adnabyddus ac ymweld â’r Sied Ysgrifennu yn Nhalacharn sy’n edrych dros afon Taf – lle ysgrifennodd un o feirdd enwocaf Cymru, Dylan Thomas, lawer o’i gerddi. Fe welwch olion gweithgarwch ôl-ddiwydiannol gyda golygfeydd eang o'r aber.  Mae'r golygfeydd o Drwyn Gilman yn werth yr ymarfer corff i weld ehangder traeth eiconig Pentywyn, lle torrwyd sawl record cyflymder tir. Mae’r Amgueddfa Cyflymder, sydd wedi’i lleoli mewn adeilad modern gerllaw, yn adrodd hanes tywod, cyflymder a champau yn y rhan hynod brydferth hon o Gymru. 

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Tref sy’n gyforiog o hanes gyda digon o lwybrau amgen i archwilio coetiroedd, gwlyptiroedd a nodweddion treftadaeth gerllaw

Archwiliwch orffennol diwydiannol y dref gyda golygfeydd ysbeidiol o gastell trawiadol Cydweli

Dilynwch yn ôl traed y bardd enwog Dylan Thomas

Taith gerdded braf ar hyd yr arfordir ôl-ddiwydiannol sy'n cynnwys ymweliad â Chanolfan Gwlyptir Llanelli

Cyfunwch y daith gerdded hon drwy'r goedwig gyda golygfeydd o'r aber ac ymweliad â chastell Llansteffan

Mwynhewch y golygfeydd o draethau sy'n adnabyddus am dorri sawl Record Cyflymder Tir y Byd ac am laniadau D-Day