Dinas Caerdydd a’r Morglawdd

Mae taith gerdded ddinesig yn cysylltu â llwybrau eraill sy’n croesi Morglawdd Bae Caerdydd ac yn cynnig sawl golygfa o’r brifddinas

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dim ond pum munud ar droed yw canol dinas Caerdydd o Lwybr Taf, sy'n rhedeg ar hyd glan yr afon. Mae'n ymuno â Llwybr Bae Caerdydd ar hyd y ffordd, sydd yn ei dro yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Ar ôl croesi Morglawdd Bae Caerdydd, mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd heibio i Lanfa’r Iwerydd ac yn dilyn camlesi trefol, gan arwain yn ôl i ganol y ddinas i orffen y daith.

Manylion y llwybr

Pellter: 7.3 milltir neu 11.8 kilomedr
Man cychwyn: Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog
Cyfeirnod grid y man cychwyn: ST 18210 75893
Disgrifiad what3words y man cychwyn: pensiynwr.ticed.crempog

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Mannau parcio ar gael ger mynedfeydd gogleddol a deheuol Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog, ac mewn lleoliadau eraill o amgylch canol y ddinas.

Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol yn rhedeg yn agos at Orsaf Drenau Caerdydd Canolog, yn enwedig Stryd Wood. Gwasanaethau bws eraill yn rhedeg yn rheolaidd ac yn ddyddiol yn ôl ac ymlaen o rannau eraill o Gaerdydd a Bae Caerdydd.

Trenau
Gwasanaethau trên dyddiol i Orsaf Drenau Caerdydd Canolog o bob gorsaf ar Brif Linell De Cymru a thu hwnt.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Cardiff City' 

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch yng Ngorsaf Drenau Caerdydd Canolog, wrth y fynedfa ogleddol yn Sgwâr Canolog. Mae'r rhan fwyaf o fysiau'r ddinas yn stopio ar Stryd Wood gerllaw, sy'n cynnig mynediad uniongyrchol i gerddwyr i Sgwâr Canolog. Mae’r sgwâr wedi’i amgylchynu gan adeiladau modern, felly dewch o hyd i'r un sy’n perthyn i Brifysgol Caerdydd ac ewch heibio iddo ar yr ochr chwith. Bydd hyn yn eich arwain yn fuan iawn at Stadiwm y Principality, lle mae pont ffordd yn croesi afon Taf. Ar ôl croesi'r afon, trowch i'r chwith er mwyn dilyn llwybr troed a beicio o dan bont reilffordd a mynd heibio i arhosfan Bws Dŵr Taff's Mead.

2. Cerddwch ar hyd afon Taf, gan ddilyn Llwybr Taf, llwybr llydan wedi'i wneud o darmac, ar hyd Taff's Mead Embankment. Ewch heibio i bont ffordd arall, gan ddefnyddio croesfan i gerddwyr, a pharhewch i fynd yn syth yn eich blaen ar hyd Taff Embankment. Mae mwy o goed a llwyni i'w gweld ar hyd glan yr afon, er bod yr amgylchoedd yn gwbl drefol. Mae'r llwybr yn cefnu ar y ffordd ac yn rhedeg trwy Barc Ffordd Clarence, parc bach ar hyd glan yr afon. Ewch heibio i bont ffordd arall, gan ddefnyddio croesfan i gerddwyr unwaith eto, er mwyn cyrraedd Avondale Gardens South, gan ymuno â Llwybr Bae Caerdydd.

3. Parhewch ar hyd llwybr llydan ar hyd glan yr afon, gan fynd heibio i lithrfa yn Channel View a Chanolfan Rwyfo Caerdydd yn ddiweddarach, lle ceir safle Bws Dŵr hefyd. Pan fydd Llwybr Bae Caerdydd yn cyrraedd adeiladau Sand Wharf, mae’n hollti am ychydig. Gall cerddwyr aros yn agos at afon Taf, tra dylai beicwyr basio'r adeiladau ar ochr y tir.

4. Ar ôl mynd heibio i barc, bydd y llwybr tarmac ar hyd glan yr afon yn troi'n lwybr brics coch ger adeiladau eraill ar lan yr afon. Arferai Llwybr Bae Caerdydd redeg o dan heol brysur Ffordd Gyswllt Caerdydd, ond mae ar gau ar hyn o bryd. Yn hytrach, trowch i'r dde a dilynwch lwybr sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffordd, gan droi i'r chwith yn ddiweddarach er mwyn mynd o dan dair lôn – y brif ffordd ei hun a dwy ffordd ymuno. Cerddwch ar hyd y palmant o frics wrth ymyl Ferry Road, gan fynd heibio i adeiladau modern. Croeswch y ffordd gan ddefnyddio ynys draffig fel y cyfarwyddir gan arwyddion Llwybr Bae Caerdydd, yna trowch i'r dde wrth gylchfan er mwyn cerdded ar hyd Rhodfa Rhyngwladol.

5. Byddwch yn cyrraedd croesffordd brysur a goleuadau traffig. Defnyddiwch ddwy groesfan i gerddwyr i groesi Rhodfa Rhyngwladol a Rhodfa Olympaidd, yna trowch i'r chwith, gan ddilyn llwybr sy'n gyfochrog â Rhodfa Olympaidd. Unwaith eto, mae'r croesfannau hyn wedi'u marcio gydag arwyddion Llwybr Bae Caerdydd. Dyma leoliad Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ac mae'n gartref i nifer o leoliadau chwaraeon, yn enwedig chwaraeon dŵr. Trowch i'r dde wrth gylchfan er mwyn dilyn Ffordd Watkiss, a defnyddiwch groesfan arall i gerddwyr er mwyn cyrraedd ochr arall y ffordd. Parhewch yn eich blaen, yna trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwydd i gyfeiriad Gorsaf Reilffordd Cogan a Phenarth. Croeswch y bont droed fawr, Pont y Werin, dros Farina Caerdydd wrth Afon Elái.

6. Trowch i'r chwith er mwyn mynd heibio i dafarn yr Oystercatcher, a dilynwch y ffordd heibio i adeilad Chandlers Quay. Er bod Llwybr Bae Caerdydd yn dilyn y ffordd yr holl ffordd i Benarth, mae yma gyfle i ddilyn llwybr sy'n rhedeg ar hyd glan y dŵr drwy ddatblygiad o dai modern. Trowch i'r chwith ar hyd Pierhead View, yna trowch i'r dde, gan ddilyn llwybr palmantog o frics ar hyd glan yr afon. Ewch heibio i gerflun sydd wedi'i wneud o filoedd o lechi tenau a pharhewch i fynd yn syth yn eich blaen ar hyd John Batchelor Way. Ewch heibio i golofn o wenithfaen gloyw ac ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd, sy'n rhedeg gyferbyn â'r dŵr. Mae llwybr cul palmantog o frics yn parhau tuag at lifddorau wrth y fynedfa i Farina Penarth. Agorodd Doc Penarth ym 1865. Fe'i caewyd ym 1963, ac ailagorodd fel Marina Penarth ym 1987. Croeswch bont droed dros y llifddor, neu os yw'r giatiau ar agor i gychod, gallwch unai aros iddynt gau, neu ddargyfeirio yr holl ffordd o amgylch y marina i'r ochr arall.

7. Trowch i'r chwith ar hyd ffordd gyfagos, cyn cyrraedd cylchfan o flaen Custom House, lle mae'r llwybr yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Mae yna bier yma hefyd lle gallwch ymuno â theithiau cwch ar draws Bae Caerdydd. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y ffordd tuag at Forglawdd Bae Caerdydd, gan fynd heibio i dair llifddor enfawr sy’n gwahanu’r bae dŵr croyw a'r môr agored. Lluniwyd cynlluniau ar gyfer yr argae yn wreiddiol ym 1980 a chwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1999. Cafodd hen fflatiau llaid llanwol eu gorlifo’n barhaol a chafodd rhannau o Gaerdydd a oedd yn agos at y dŵr eu hadfer a’u hailddatblygu’n ddeniadol. Mae caffi ar gael wedi i chi fynd heibio'r llifddorau.

8. Dim ond traffig ysgafn sydd i'w gael ar y ffordd sy'n rhedeg ar hyd y morglawdd fel arfer, ac mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y palmant ar ei hyd. Ond byddai werth aros ar yr ochr chwith wrth gyffordd er mwyn ymweld â'r hyn sy'n ymdebygu i bebyll mawr gwyn neu hwyliau. Arddangosfa ‘Scott yr Antarctig’ yw hon, sy’n rhoi sylw i hanes Capten Robert Falcon Scott a hwyliodd o Gaerdydd ym Mehefin 1910, gyda’r bwriad o gyrraedd Pegwn y De. Cymwynaswyr o Gaerdydd oedd yn bennaf gyfrifol am ariannu ei long, yr SS Terra Nova.

9. Ewch yn eich blaen heibio i ardal sy'n cynnig cymysgedd diddorol o gymwysterau, gan gynnwys parc chwarae ac offer ffitrwydd, parc sglefrio a Chanolfan Hwylio Caerdydd. Ceir yma hefyd nodweddion treftadaeth o'r diwydiant mwyngloddio. Mae nodweddion eraill o bwys yn cynnwys coedwig fechan a thŵr ar gyfer gwenoliaid du. Mae’r llwybr llydan yn rhedeg yn gyfochrog â'r hen ddoc, gan droi i'r chwith wrth gylchfan fechan er mwyn dilyn llwybr palmantog o frics i gyfeiriad yr Eglwys Norwyaidd wen, a adeiladwyd o bren. Yma y bedyddiwyd yr awdur Roald Dahl, a oedd o gefndir Norwyaidd. Ewch yn eich blaen heibio’r Senedd fodern, drawiadol a agorwyd yn 2006. Ac yn fuan iawn, byddwch yn cyrraedd adeilad brics coch y Pierhead, swyddfa a adeiladwyd ym 1897. Trowch i'r dde er mwyn cerdded drwy fan agored hirgrwn, sef Plass Roald Dahl, heibio Canolfan y Mileniwm. Dyma ddoc a gafodd ei drawsnewid yn ofod digwyddiadau hirgrwn yn 2000, wedi'i enwi ar ôl yr awdur plant a aned yng Nghaerdydd.

10. Gwyliwch am farcwyr Llwybr Arfordir Cymru a defnyddiwch groesfan i gerddwyr er mwyn cyrraedd ochr arall ffordd ddeuol Plas Bute. Parhewch yn syth yn eich blaen i gyfeiriad y tir, gan barhau i gadw golwg ar farcwyr bach Llwybr Arfordir Cymru, neu arwyddbyst ar gyfer Neuadd y Sir. Trowch i'r dde wrth gyffordd a dilynwch Heol Hemingway heibio gwesty Travelodge. Defnyddiwch groesfan i gerddwyr fel y'i nodir, cerddwch tuag at gylchfan, yna trowch i'r chwith i gyfeiriad Neuadd y Sir. Cadwch ar yr ochr dde heibio cylchfan cyn cyrraedd mynedfa'r adeilad a mynd i mewn i faes parcio.

11. Ymunwch â llwybr palmantog o frics rhwng Neuadd y Sir a Doc Dwyreiniol Bute. Yma gallwch gael golwg fanylach ar yr angorau addurniadol sydd i'w gweld, ac yn aml gwelir mulfrain yn clwydo ar folardiau concrit yn y dŵr. Dilynwch y llwybr ar hyd glan y dŵr, heibio i ddatblygiad modern Glanfa'r Iwerydd, cyn cyrraedd caffi yn fuan iawn. Trowch i'r chwith, yna i'r dde er mwyn croesi pont droed, yna i'r chwith eto i ddilyn camlas a fydd yn eich arwain o'r doc. Trowch i'r dde er mwyn dilyn y gamlas o dan bont ffordd, yna ewch o dan bont droed. Ewch o dan bont ffordd arall yn ddiweddarach ac yna o dan bont droed arall. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn troi i’r dde wrth gyffordd gamlesi, gan gyrraedd pont garreg yn fuan iawn.

12. Gadewch Lwybr Arfordir Cymru a chroesi’r bont garreg, yna trowch i’r chwith er mwyn dilyn llwybr arall ar hyd camlas. Ewch heibio i bont garreg arall, ac yn fuan bydd y gamlas a'r llwybr yn troi i'r dde a byddwch yn cyrraedd ffordd. Defnyddiwch groesfan i gerddwyr a throwch i'r chwith er mwyn mynd heibio i adeilad amlwg Zenith. Dilynwch y palmant ar hyd y ffordd brysur a mynd o dan bont reilffordd. Defnyddiwch groesfan i gerddwyr er mwyn parhau i gerdded yn syth yn eich blaen. Byddwch nawr yn dilyn llwybr llydan palmantog o frics yn eich blaen. Defnyddiwch groesfan arall i gerddwyr a pharhewch i gerdded yn syth yn eich blaen. Wrth y gyffordd nesaf, trowch i'r dde ac edrychwch ar draws y maes parcio er mwyn dod o hyd i fynedfa ddeheuol Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog. Os cyrhaeddoch ar y trên, bydd eich tocyn yn caniatáu ichi fynd i mewn i'r orsaf o'r ochr hon. Os ydych yn dal bws o Stryd Wood, yna dylech ddilyn y ffordd o dan bont reilffordd, troi i'r chwith tuag at Sgwâr Canolog, yna i'r dde er mwyn cyrraedd Stryd Wood.