Llwybr Bae Caerdydd

Lle mae'r ddinas yn cwrdd â'r môr, mae'r daith gerdded hon yn cynnwys llawer o dirnodau eiconig y brifddinas

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Arferai Bae Caerdydd fod yn harbwr llanwol, ac oddi yma yr allforiwyd y symiau mwyaf o lo yn y byd. Bellach wedi’i amgáu gan forglawdd cryf, mae yma lyn dŵr croyw gyda llifddor sy'n rhoi mynediad i Fôr Hafren. Mae Llwybr Bae Caerdydd yn amgylchynu’r bae ac yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru ar draws y morglawdd. Yn naturiol, mae digonedd o dreftadaeth forwrol i'w gweld o amgylch y bae.

Manylion y llwybr

Pellter: 6.3 milltir neu 10.2 cilomedr
Man cychwyn: Canolfan y Mileniwm, Caerdydd
Cyfeirnod grid y man cychwyn: ST 19240 74664
Disgrifiad what3words y man cychwyn:ceirch.oedd.sgrinio

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio yng Nghei'r Fôr-forwyn neu Havannah Street ym Mae Caerdydd.

Bysiau
Gwasanaethau bws dyddiol yn mynd heibio i Ganolfan y Mileniwm yn rheolaidd. Gwasanaethau bws eraill yn rhedeg yn rheolaidd ac yn ddyddiol yn ôl ac ymlaen o rannau eraill o Fae Caerdydd.

Trenau
Gwasanaethau trên dyddiol i Orsaf Bae Caerdydd o Orsaf Heol y Frenhines Caerdydd ar Brif Linell De Cymru.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Cardiff Bay' (Bae Caerdydd).

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Dim ond pum munud ar droed yw Gorsaf Bae Caerdydd o Ganolfan y Mileniwm, gyda safle bws a meysydd parcio gerllaw. Anelwch at y Tŵr Dŵr dur a cherddwch yn syth yn eich blaen drwy fan agored hirgrwn, sef Plass Roald Dahl – hen ddoc a gafodd ei drawsnewid yn ofod digwyddiadau yn 2000, a enwyd ar ôl yr awdur plant a aned yng Nghaerdydd. Byddwch yn cyrraedd glan Bae Caerdydd, lle gwelwch giosgau yn gwerthu tocynnau ar gyfer teithiau cwch o amgylch y bae a rhan o'r ffordd ar hyd afon Taf ac afon Elái.

2. Trowch i'r dde ar hyd Cei'r Fôr-forwyn, gan gerdded naill ai ar hyd llwybr pren yn agos at lan y dŵr, neu lwybr cerdded lletach uwch ei ben, gan fynd heibio i leoedd sy'n cynnig bwyd a diod. Parhewch ar hyd llwybr cerdded palmantog o frics i gyfeiriad Landsea Gardens ac ewch heibio i gerflun Torwyr Byd Rygbi Bae Caerdydd. (Hwy oedd yn gyfrifol am newid ‘codau’ o Rygbi'r Undeb i Rygbi'r Gynghrair.) Ewch heibio i dri doc cul ger Techniquest a chadwch olwg am arwyddion Llwybr Bae Caerdydd sy'n arwain y ffordd.

3. Mae gan Westy Dewi Sant do nodedig sy'n ymdebygu i groes rhwng aderyn a hwyl. Ewch heibio i'r gwesty, gan ddilyn llwybr pren ar lan y dŵr. Ond os yw'n wlyb ac yn llithrig, byddai'n well mynd heibio gan ddilyn y tir. Parhewch yn eich blaen ar hyd llwybr palmantog o frics heibio i Warchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, lle ceir hysbysfwrdd sy'n cynnig disgrifiad o'r ardal. Trowch i'r chwith wrth hysbysfwrdd arall, gan ddilyn llwybr graean llydan heibio cyrs, llwyni, coed, a darn o ddŵr agored. Byddwch yn cyrraedd cerflun carreg a ysbrydolwyd gan ffurf Cadair Idris – mynydd yng Ngogledd Cymru. Trowch i'r chwith, gan ddilyn llwybr pren trwy welyau cyrs, gan gyrraedd platfform wedi'i amgylchynu gan ddŵr a fydd yn cynnig golygfeydd o amgylch Bae Caerdydd.

4. Ewch yn ôl at y cerflun carreg a dilynwch lwybr i fyny'r allt. Cerddwch tros gylchfan fechan ac anelwch tuag at heol brysur Ffordd Gyswllt Caerdydd, sy'n croesi Traphont Taf, neu Bont Pollinger, sy'n croesi afon Taf ac a wnaed o goncrit. Bydd Llwybr Bae Caerdydd yn mynd â chi drwy giât mochyn fawr a byddwch yn dilyn llwybr llydan o dan y bont. (Mae llwybr byrrach ar gael os nad ewch chi drwy’r giât. Gallwch droi i'r dde, yna i’r chwith, gan ddilyn llwybr ymyl ffordd yr holl ffordd ar draws y bont, gan fynd heibio i gerflun o’r enw ‘A Private View’. Bydd hyn yn arbed ychydig dros filltir o waith cerdded i chi.)

5. Mae’r llwybr llydan yn rhedeg yn gyfochrog ag afon Taf yr holl ffordd drwy Barc Hamadryad, sy’n cynnwys mannau glaswelltog agored a glan afon coediog. Gadewch y parc drwy fynd drwy giât mochyn fawr arall lle safai llifddor camlas gerllaw ar un adeg. Parhewch ar hyd ffordd o'r enw Clarence Embankment, a fydd yn mynd â chi ar hyd glan yr afon, a throwch i'r chwith er mwyn croesi pont ffordd dros afon Taf. Unwaith y byddwch wedi croesi, trowch i'r chwith eto wrth Avondale Gardens South, gan ddilyn llwybr llydan ar hyd glan yr afon. Ewch heibio i lithrfa yn Channel View a Chanolfan Rwyfo Caerdydd, lle ceir safle Bws Dŵr hefyd. Pan fydd Llwybr Bae Caerdydd yn cyrraedd adeiladau Sand Wharf, mae’n rhannu'n ddau am ychydig. Gall cerddwyr aros yn agos at afon Taf, tra dylai beicwyr basio'r adeiladau ar ochr y tir.

6. Ar ôl mynd heibio i barc, bydd y llwybr tarmac ar hyd glan yr afon yn troi'n llwybr brics coch ger adeiladau eraill ar lan yr afon. Arferai Llwybr Bae Caerdydd redeg o dan heol brysur Ffordd Gyswllt Caerdydd, ond mae ar gau ar hyn o bryd. Yn hytrach, trowch i'r dde a dilynwch lwybr sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffordd, gan droi i'r chwith yn ddiweddarach er mwyn mynd o dan dair lôn – y brif ffordd ei hun a dwy ffordd ymuno. (Bydd unrhyw un a gymerodd y llwybr byrrach ar draws y bont yn ailymuno â’r llwybr yma.) Cerddwch ar hyd palmant o frics wrth ymyl Ferry Road, gan fynd heibio i adeiladau modern. Croeswch y ffordd gan ddefnyddio ynys draffig fel y cyfarwyddir gan arwyddion Llwybr Bae Caerdydd, yna trowch i'r dde wrth gylchfan er mwyn cerdded ar hyd Rhodfa Rhyngwladol.

7. Byddwch yn cyrraedd croesffordd brysur a goleuadau traffig. Defnyddiwch ddwy groesfan i gerddwyr i groesi Rhodfa Rhyngwladol a Rhodfa Olympaidd, yna trowch i'r chwith, gan ddilyn llwybr sy'n gyfochrog â Rhodfa Olympaidd. Unwaith eto, mae'r croesfannau hyn wedi'u marcio ag arwyddion Llwybr Bae Caerdydd. Dyma leoliad Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd ac mae'n gartref i nifer o leoliadau chwaraeon, yn enwedig chwaraeon dŵr. Trowch i'r dde wrth gylchfan er mwyn dilyn Ffordd Watkiss, a defnyddiwch groesfan arall i gerddwyr er mwyn cyrraedd ochr arall y ffordd. Parhewch yn eich blaen, yna trowch i'r chwith, gan ddilyn yr arwydd i gyfeiriad Gorsaf Reilffordd Cogan a Phenarth. Croeswch y bont droed fawr, Pont y Werin, dros Farina Caerdydd ar afon Elái.

8. Trowch i'r chwith er mwyn mynd heibio i dafarn yr Oystercatcher, a dilynwch y ffordd heibio i adeilad Chandlers Quay. Er bod Llwybr Bae Caerdydd yn dilyn y ffordd yr holl ffordd i Benarth, mae yma gyfle i ddilyn llwybr sy'n rhedeg ar hyd glan y dŵr drwy ddatblygiad o dai modern. Trowch i'r chwith ar hyd Pierhead View, yna trowch i'r dde, gan ddilyn llwybr palmantog o frics ar hyd glan yr afon. Ewch heibio i gerflun sydd wedi'i wneud o filoedd o lechi tenau a pharhewch i fynd yn syth yn eich blaen ar hyd John Batchelor Way. Ewch heibio i golofn o wenithfaen gloyw ac ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd, sy'n rhedeg gyferbyn â'r dŵr. Mae llwybr cul palmantog o frics yn parhau i fynd tuag at lifddorau wrth y fynedfa i Farina Penarth. Agorodd Doc Penarth ym 1865. Fe'i caewyd ym 1963, ac ailagorodd fel Marina Penarth ym 1987. Croeswch bont droed dros y llifddor, neu os yw'r giatiau ar agor i gychod, gallwch naill ai aros iddynt gau, neu ddargyfeirio’r holl ffordd o amgylch y marina i'r ochr arall.

9. Trowch i'r chwith ar hyd ffordd gyfagos, cyn cyrraedd cylchfan o flaen Custom House, lle mae'r llwybr yn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Mae yna bier yma hefyd lle gallwch ymuno â theithiau cwch ar draws Bae Caerdydd. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y ffordd tuag at Forglawdd Bae Caerdydd, gan fynd heibio i dair llifddor enfawr sy’n gwahanu’r bae dŵr croyw a'r môr agored. Lluniwyd cynlluniau ar gyfer y morglawdd yn wreiddiol ym 1980 a chwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1999. Cafodd hen fflatiau llaid llanwol eu gorlifo’n barhaol a chafodd rhannau o Gaerdydd a oedd yn agos at y dŵr eu hadfer a’u hailddatblygu’n ddeniadol. Mae caffi ar gael wedi i chi fynd heibio'r llifddorau.

10. Dim ond traffig ysgafn sydd i'w gael ar y ffordd sy'n rhedeg ar hyd y morglawdd fel arfer, ac mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn y palmant ar ei hyd. Ond byddai werth aros ar yr ochr chwith wrth gyffordd er mwyn ymweld â'r hyn sy'n ymdebygu i bebyll mawr gwyn neu hwyliau. Arddangosfa ‘Scott yr Antarctig’ yw hon, sy’n rhoi sylw i hanes Capten Robert Falcon Scott, a hwyliodd o Gaerdydd ym Mehefin 1910 gyda’r bwriad o gyrraedd Pegwn y De. Cymwynaswyr o Gaerdydd oedd yn bennaf gyfrifol am ariannu ei long, yr SS Terra Nova.

11. Ewch yn eich blaen heibio i ardal sy'n cynnig cymysgedd diddorol o gymwysterau, gan gynnwys parc chwarae ac offer ffitrwydd, parc sglefrio a Chanolfan Hwylio Caerdydd. Ceir yma hefyd nodweddion treftadaeth o'r diwydiant mwyngloddio. Mae nodweddion eraill o bwys yn cynnwys coedwig fechan a thŵr ar gyfer gwenoliaid du. Mae’r llwybr llydan yn rhedeg yn gyfochrog â'r hen ddoc, gan droi i'r chwith wrth gylchfan fechan er mwyn dilyn llwybr palmantog o frics i gyfeiriad yr Eglwys Norwyaidd wen, a adeiladwyd o bren. Yma y bedyddiwyd yr awdur Roald Dahl, a oedd o gefndir Norwyaidd. Ewch yn eich blaen heibio’r Senedd fodern, drawiadol a agorwyd yn 2006. Ac yn fuan iawn, byddwch yn cyrraedd adeilad brics coch y Pierhead, swyddfa a adeiladwyd ym 1897. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud nawr yw troi i'r dde er mwyn cerdded yn ôl trwy Blass Roald Dahl, heibio Canolfan y Mileniwm, i orffen y daith gerdded.