Caerdydd

Ewch am dro wrth fwynhau gwylio prysurdeb y ddinas

Dyma lle mae'r arfordir yn cwrdd â'r ddinas. Ewch am dro o amgylch Caerdydd a cherdded heibio tirnodau mwyaf eiconig y ddinas fel y Senedd ac adeilad y Pierhead. Mae prysurdeb morglawdd Bae Caerdydd yn cynnig cyfleoedd i bobl leol ac ymwelwyr gael tamaid i’w fwyta, yfed neu eistedd i wylio’r byd yn mynd heibio.

Mae Penarth gerllaw, gyda’i lan môr Fictoraidd poblogaidd yn hawdd ei gyrraedd trwy gerdded ar draws y morglawdd.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn oedi bob hyn a hyn i fwynhau’r golygfeydd o Fae Caerdydd.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ewch am dro ar hyd y llwybr dymunol hwn sy’n arwain at olygfan uchel gyda cherflun arbennig ar y brig

Lle mae'r ddinas yn cwrdd â'r môr, mae'r daith gerdded hon yn cynnwys llawer o dirnodau eiconig y brifddinas

Mae taith gerdded ddinesig yn cysylltu â llwybrau eraill sy’n croesi Morglawdd Bae Caerdydd ac yn cynnig sawl golygfa o’r brifddinas.