Pecyn cymorth busnes

Pecyn cymorth rhad ac am ddim i roi hwb i’ch busnes ar y llwybr

Orchard

Cadw’r dudalen hon tan eto
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cyfle unigryw yng Nghymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig 870 milltir o botensial ar gyfer busnes. Mae’r llwybr trawiadol hwn o amgylch arfordir Cymru yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, gan ddarparu profiad unigryw yng Nghymru.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn frand rhyngwladol enwog sy’n cysylltu eich busnes â marchnad defnyddwyr amrywiol. O deuluoedd ifanc i gyplau wedi ymddeol, pobl sengl, i’r rhai sy’n ceisio antur – gall ein pecyn cymorth eich helpu i droi'r ymwelwyr hyn yn gwsmeriaid i chi. Defnyddiwch y pecyn cymorth i farchnata i ymwelwyr newydd ac ymwelwyr sy'n dychwelyd ac amlygu agosrwydd eich busnes at Lwybr Arfordir Cymru.

Ynglŷn â Llwybr Arfordir Cymru

Croeso i Lwybr Arfordir Cymru. Mae ein hadnoddau ar-lein rhad ac am ddim yma i’ch helpu i farchnata eich busnes gan ddefnyddio apêl Llwybr Arfordir Cymru 870 milltir o hyd. Mae'n un o’r ychydig lwybrau troed yn y byd sy’n dilyn arfordir cenedl. Mae cerdded yn gyflym ar y llwybr o fudd i iechyd meddwl a chorfforol, gan roi cyfle gwych i bobl o bob oed a gallu i ffurfio arferion ymarfer corff cadarnhaol. 

  • Ffeithiau yn ymwneud â cherdded
  • Hanner awr o gerdded yn hamddenol: Yn llosgi 75 o galorïau
  • Hanner awr o gerdded: Yn llosgi 99 o galorïau
  • Hanner awr o gerdded yn gyflym: Yn llosgi 150 o galorïau

(Ffynhonnell: ‘At least five a week’, Yr Adran Iechyd, 2004)

Ffeithiau a ffigurau yn ymwneud â’r llwybr

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 870 milltir (1,400 cilometr) o hyd. Mae'n cychwyn ac yn gorffen ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn y gogledd, ger Caer, ac yng Nghas-gwent yn y de. Mae’r pwynt hanner ffordd swyddogol yng Ngheinewydd, Ceredigion, wedi’i nodi gan gerflun sy’n edrych dros yr harbwr, sy’n dymuno pob hwyl i deithwyr.

Mae’r llwybr yn cysylltu â’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru, sy’n mynd drwy rai o dirweddau gorau’r DU ac sydd wedi’u nodi â logo sy’n fesen. Mae’n cysylltu â thri Llwybr Cenedlaethol sydd yng Nghymru: Llwybr Glyndŵr ym Machynlleth, Llwybr Clawdd Offa ym Mhrestatyn, a Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Gallwch hefyd ymuno â Ffordd Cambria, llwybr heriol o Gaerdydd i Gonwy. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn, Llwybr Arfordir Ceredigion, a Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro hefyd yn rhan o’r Llwybr.Arfordir Cymru

Mae’r llwybr yn rhad ac am ddim i’w fwynhau, ar agor drwy gydol y flwyddyn, a gallwch gerdded o amgylch Cymru gyfan drwy gyfuno Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa – cyfanswm o tua 1,047 o filltiroedd (1,685 cilometr).  Dysgwch fwy am y Llwbyr 

Mae arweinlyfrau swyddogol y llwybr wedi cael eu cyhoeddi gan Northern Eye Books. Mae arweinlyfr Pen Llŷn (Bangor i Borthmadog) ar gael hefyd yn Gymraeg. Darllenwch fwy am yr arweinlyfrau swyddogol

Eich cyfle busnes

Dyma rai syniadau am yr hyn y gallwch ei gynnig i’ch cwsmeriaid a fydd yn apelio at gerddwyr llwybr yr arfordir:

  • Cyfleuster i sychu dillad: Darparwch le i gerddwyr sychu eu dillad.
  • Casgliad o safleoedd bws neu drên: Cynigiwch wasanaeth casglu ymwelwyr yn y car o safleoedd bysiau neu orsafoedd trenau cyfagos.
  • Amserlenni bysiau a threnau: Darparwch amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus cyfredol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnig manylion cyswllt ar gyfer busnesau lleol defnyddiol, fel cwmnïau tacsi a gwasanaethau llogi beiciau a cheir.

  • Lawrlwytho a gwybodaeth am deithiau cerdded ar eich gwefan.
  • Diodydd a byrbrydau am ddim i gŵn: Darparwch luniaeth i gŵn cerddwyr.
  • Bagiau baw cŵn am ddim: Helpwch i gadw'r llwybr yn lân trwy gynnig bagiau ar gyfer baw cŵn am ddim.
  • Casglu bagiau: Cynigiwch wasanaeth casglu bagiau i gerddwyr.

Darparwch becynnau bwyd a rhannwch eich gwybodaeth leol am y teithiau cerdded arfordirol gorau a lleoedd gwych i fynd am ddiod neu ginio.

  • Ffyn cerdded: Rhowch ffyn cerdded ar fenthyg i'r rhai sydd eu hangen.
  • Man diogel i gadw beiciau: Darparwch fan diogel i feicwyr barcio eu beiciau.
  • Gwybodaeth ynghylch diogelwch: Cynigiwch wybodaeth ynghylch diogelwch, gan gynnwys amseroedd y llanw.

Ystyriwch ymuno â Gwobrau Croeso Cymru (sy’n cynnwys cerddwyr) er mwyn ennill gwobr groeso a sicrhau eich bod yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau hanfodol i feicwyr a cherddwyr. Darllenwch fwy am Wobrau Croeso Cymru

Yr awgrymiadau gorau i wella apêl eich busnes 

Gall gwneud y mwyaf o botensial Llwybr Arfordir Cymru wella apêl a chyrhaeddiad eich busnes yn sylweddol. Trwy fanteisio ar y cyfleoedd unigryw a gyflwynir gan y llwybr eiconig hwn sy’n 870 milltir o hyd, gallwch ddenu amrywiaeth eang o ymwelwyr, o gerddwyr brwd i fforwyr achlysurol. Dyma rai o’r awgrymiadau gorau i’ch helpu i wneud y gorau o Lwybr Arfordir Cymru, gan sicrhau bod eich busnes yn amlwg ac yn darparu profiad eithriadol i bawb sy’n ymweld.

Gallwch ddefnyddio’r mewnwelediadau busnes ar wefan Croeso Cymru Diwydiant i godi ymwybyddiaeth o wahanol agweddau’r sector twristiaeth yng Nghymru. 

Gallwch archebu taflenni gwybodaeth Llwybr Arfordir Cymru ar-lein (am ffi fechan) i’w harddangos a’u rhannu i’ch gwesteion. Darllenwch fwy am taflenni gwybodaeth

Gallwch ddefnyddio delweddau Llwybr Arfordir Cymru ar eich gwefan, mewn pamffledi, neu ar gyfryngau cymdeithasol fel X (Twitter yn gynt) ac Instagram. Gall y delweddau hyn hefyd ddarlunio porwyr ystafelloedd gwely gwestai a llety gwely a brecwast a gwneud gwybodaeth y byddwch yn ei hanfon at gwsmeriaid yn fwy diddorol.

Wrth gynyddu nifer eich cwsmeriaid, cofiwch gadw cwsmeriaid presennol. Dyma rai syniadau:

  • Cynhaliwch gystadleuaeth ar eich gwefan sy'n gysylltiedig â digwyddiad Llwybr Arfordir Cymru.
  • Cynigiwch ostyngiadau i gerddwyr ar eich cynhyrchion a'ch gwasanaethau.
  • Darparwch “frecwast cerddwyr” arbennig sy’n arddangos cynnyrch ffres o Gymru.
  • Cynigiwch fapiau am ddim, lifftiau i fannau cychwyn cerdded, a rhifau cyswllt ar gyfer cwmnïau tacsi.
  • Hysbysebwch fod gan eich gwesty neu'ch llety gwely a brecwast gyfleusterau arbennig ar gyfer cerddwyr, fel ystafell ar gyfer sychu offer cerdded gwlyb.
  • Crëwch gerdyn ffyddlondeb i wobrwyo cerddwyr Llwybr Arfordir Cymru sy’n gwsmeriaid mynych.
  • Rhowch fapiau am ddim i westeion a darparwch amseroedd y llanw iddynt i’w darllen.

Mae ymweliadau ymgyfarwyddo gan y cyfryngau yn ffordd wych o hyrwyddo'ch cwmni. Mae Croeso Cymru, tîm twristiaeth eich awdurdod lleol, a Llwybr Arfordir Cymru i gyd yn trefnu ymweliadau ymgyfarwyddo gan y cyfryngau. Cysylltwch i weld a all eich busnes gymryd rhan. Mae gweithio gyda phartneriaid o’r fath yn cael gwared â llawer o'r pryder sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ymgyfarwyddo, a gallwch fod yn sicr y bydd cryn feddwl wedi’i roi i ddyfeisio rhaglen ddiddorol ac amrywiol ar gyfer yr ymwelwyr.

Rhowch wybod i Croeso Cymru am eich newyddion a’ch datblygiadau drwy anfon neges e-bost i productnews@llyw.cymru

Cymorth gyda'ch marchnata

Er mwyn cynyddu cyrhaeddiad eich marchnata yn hawdd, anfonwch eich gwybodaeth i amrywiaeth o allfeydd, gan gynnwys:

  • Cyfryngau cymdeithasol: Defnyddiwch blatfformau fel Facebook, X (Twitter yn gynt) ac Instagram i ryngweithio â darpar gwsmeriaid. Dilynwch a thagiwch @walescoastpath ar y cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â ni.
  • Papurau newydd, radio, cylchgronau a theledu: O wefannau cymunedol i gyhoeddiadau rhanbarthol neu genedlaethol neu gylchgronau arbenigol, mae llawer o allfeydd a allai gynnwys gwybodaeth am eich busnes.
  • Dylanwadwyr a blogwyr: Manteisiwch ar y gymuned ar-lein o bobl sy'n ysgrifennu am gerdded, teithio, gwyliau, neu Gymru fel lle i ymweld ag ef. Cysylltwch â blogwyr sy'n ysgrifennu ar gyfer marchnadoedd teulu neu blant, neu farchnadoedd sy’n ystyriol o gŵn.
  • Rhwydweithiau arbenigol: Targedwch sefydliadau a chymdeithasau sy'n ymwneud â cherdded, gweithgareddau awyr agored, bwyd a diod, hanes lleol, a mwy.
  • Partneriaethau cymunedol lleol: Gweithiwch gyda chymdeithasau twristiaeth a grwpiau busnes i hyrwyddo eich ardal leol. Datblygwch weithgareddau hyrwyddo ar y cyd gyda busnesau cydategol.

Cael y gorau o'ch gwefan

Mae pobl sy'n pori gwefannau i benderfynu ble i ymweld, aros neu fwyta yn enwog am fod yn anwadal. Os nad ydynt yn hoffi edrychiad eich gwefan neu os na allant ddod o hyd i'r wybodaeth y maent ei heisiau yn gyflym, byddant yn mynd i rywle arall. Dyma rai awgrymiadau:

  • Byddwch yn uniongylchol: Defnyddiwch ddarnau bach o wybodaeth. Mae cyfnodau canolbwyntio yn fyr.
  • Cadwch bethau’n syml: Sicrhewch fod eich testun yn ddarllenadwy ac nad yw'n cael ei guddio gan ddelweddau yn y cefndir neu elfennau sy'n tynnu sylw. Defnyddiwch gefndir gwyn er eglurder.
  • Mynediad o bob dyfais: Sicrhewch y gellir gweld eich gwefan ar bob dyfais, gan gynnwys ffonau clyfar a chyfrifiaduron llechen.
  • Cyswllt â'ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol: Diweddarwch eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol gyda dolenni sy'n amlygu cynnwys newydd ar eich gwefan. Po fwyaf yr ymgysylltu sydd â’ch gwefan, y fwyaf uchel y bydd yn cael ei rhestru ar beiriannau chwilio.
  • Delweddau a ffilm: Defnyddiwch ddelweddau o ansawdd da i ddenu ymwelwyr o’r we.

Cyn i’ch gwesteion gyrraedd

Mae eu bod yn cael profiad cofiadwy a difyr ar Lwybr Arfordir Cymru. Trwy gynnig cyfleusterau ac adnoddau meddylgar, gallwch gyfoethogi eu hymweliad ac arddangos y gorau o'r hyn sydd gan arfordir Cymru i'w gynnig. Dyma rai awgrymiadau hanfodol i'ch helpu i baratoi cyn i'ch gwesteion gyrraedd, gan sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt ar gyfer antur wych ar hyd y llwybr.

  • Cynllunio’ch ymweliad: Dywedwch wrth eich gwesteion am yr adnoddau defnyddiol i helpu ymwelwyr i gynllunio eu hymweliad, gan gynnwys map rhyngweithiol, tablau pellterau, neu wyriadau llwybr dros dro.Cofiwch ddweud bod y llwybr hefyd ar Google Street View – sy’n berffaith ar gyfer ymchwilio i sut olwg sydd ar y llwybr cyn iddynt gyrraedd ac ar gyfer edrych ar eich rhan leol o’r llwybr. 
  • Teithlenni cerdded: Darganfyddwch ffyrdd newydd a chyffrous o archwilio arfordir Cymru gyda'n teithlenni cerdded newydd sy’n cwmpasu'r llwybr cyfan 870 milltir o hyd. Mae’r teithlenni hyn wedi’u cynllunio i helpu pobl leol ac ymwelwyr i wneud y gorau o’u taith ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
  • Ap Llwybr Arfordir Cymru: Gwella'ch profiad o’r llwybr gyda'n map ar ffurf ap, sydd ar gael ar ddyfeisiau clyfar fel ffonau a llechi. Mae’r ap yn caniatáu ichi gadw ar y llwybr iawn oherwydd gall weld eich lleoliad, cofnodi eich cynnydd, uwchlwytho teithiau cerdded y gorffennol, awgrymu llwybrau cerdded yn yr ardal a mannau o ddiddordeb. Chwiliwch am “Llwybr Arfordir Cymru” ar ddyfeisiau iOS ac Android i lawrlwytho’r ap. 

Ewch i Cynllunio eich Ymweliad i gael rhagor o wybodaeth

Manteisio ar y tymhorau

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig cyfle gwych i ymestyn y tymor ymwelwyr. Mae'r gwanwyn cynnar a diwedd yr hydref yn amseroedd perffaith ar gyfer cerdded, gyda newidiadau dramatig i olygfeydd naturiol a moroedd gwyllt. Dewch o hyd i ddigwyddiadau tymhorol perthnasol i gyfoethogi profiad eich ymwelwyr. Dewch o hyd i ddigwyddiadau ar neu yn ymyl y llwybr

Cynnwys eich tîm

Cynhwyswch eich staff wrth hyrwyddo eich busnes. Sicrhewch eu bod yn rhannu gwerthoedd eich busnes ac yn deall eich uchelgeisiau a'ch nodau. Briffiwch nhw ar yr hyn y mae llwybr yr arfordir yn ei gynnig i gerddwyr, gan gynnwys manylion am deithiau cerdded, bysiau, ac amseroedd y llanw. Anogwch nhw i gymryd rhan yng Nghynllun Llysgenhadon Cymru i helpu i hyrwyddo eich busnes. Gallwch hefyd gael eich staff i fod yn rhan o Gynllun Llysgenhadon Cymru i’ch helpu i hyrwyddo eich busnes. Cofrestrwch yn rhad ac am ddim â Rhaglen Llysgenhadon Cymru

Tra bod eich gwesteion yno

Mae sicrhau bod eich gwesteion yn cael arhosiad gwych wrth ymweld â Llwybr Arfordir Cymru yn hanfodol ar gyfer creu atgofion parhaol ac annog ymweliadau mynych. Trwy ddarparu cyfleusterau ac adnoddau meddylgar, gallwch gyfoethogi eu profiad ac arddangos harddwch arfordir Cymru.

Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i wneud y gorau o arhosiad eich gwesteion, gan sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt ar gyfer antur ddifyr a diogel ar hyd y llwybr:

  • Llyfrau cerdded a mapiau: Cynigiwch lyfrau cerdded a mapiau i'w llogi i helpu gwesteion i archwilio'r ardal.
  • Teithlenni ac amserlenni printiedig: Darparwch deithlenni printiedig, amserlenni bysiau, a thablau llanw er hwylustod.
  • Gwasanaethau i gerddwyr: Cynigiwch wasanaethau arbennig wedi'u teilwra i anghenion cerddwyr.
  • Dylanwadwyr y cyfryngau cymdeithasol: Dilynwch ac ymgysylltwch â dylanwadwyr y cyfryngau cymdeithasol yn eich ardal i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ac i aros mewn cysylltiad.

Y cyfryngau cymdeithasol

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig ffyrdd gwych o ryngweithio â darpar gwsmeriaid, postio gwybodaeth a sylwadau, ac ymateb i'r hyn y mae pobl eraill yn ei bostio. Dilynwch ni ar @walescoastpath a thagiwch ein cyfrif.  Ymgysylltwch â ni drwy rannu, ysgrifennu sylw, neu hoffi ein cynnwys a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ymateb yn yr un dull.

  • Riliau’ fideo: Cadwch bethau’n ddiffuant a thagiwch @walescoastpath.
  • Cymuned Facebook: Cyflwynwch eich hun ac ymgysylltwch â'r gymuned.
  • Dilyn Croeso Cymru: Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am newyddion y diwydiant drwy ddilyn cyfrifon Croeso Cymru a Busnes Croeso Cymru.
  • Traws-hyrwyddo: Rhannwch gynnwys gyda chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Llwybrau Cenedlaethol am for Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr ar Facebook
  • Darllenwch y newyddion diweddaraf: Mynnwch y newyddion diweddaraf am y llwybr.Tanysgrifio i'n cylchlythyr
  • Gwnewch eich busnes yn fwy gweladwy ar gyfer cyfleoedd busnes ar wefan Diwydiant Teithio Croeso Cymru. Cofrestrwch i hyrwyddo eich busnes
  • Ymgyrchoedd: Cysylltwch â Croeso Cymru i gynnig eich busnes ar gyfer ymgyrchoedd.
  • Tîm twristiaeth awdurdod lleol: Tynnwch sylw at eich busnes ar gyfer ymweliadau ymgyfarwyddo gan y cyfryngau.
  • Ysbrydoliaeth: Dilynwch gyfrifon fel Croeso Cymru, Twristiaeth Gogledd Cymru, Twristiaeth Canolbarth Cymru, Cadw, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a Bwyd a Diod Cymru am ysbrydoliaeth.

Facebook

Dangoswch eich busnes gyda lluniau o Lwybr Arfordir Cymru neu gofynnwch i ymwelwyr roi argymhellion ar ffurf fideo. Ymunwch â chymuned ar-lein Llwybr Arfordir Cymru i ofyn cwestiynau, rhannu ysbrydoliaeth, a chael argymhellion. Cofiwch, peidiwch â defnyddio'r gymuned ar gyfer hunanhyrwyddo.Dilynwch ni ar Facebook

Instagram

Defnyddiwch Instagram i arddangos eich busnes gyda delweddau o Lwybr Arfordir Cymru neu arfordir Cymru. Gwahoddwch bobl i ddod i fwynhau'r llwybr ac aros, bwyta, neu ymweld â'ch busnes. Dilynwch ni ar Instagram

YouTube

Mae gan Lwybr Arfordir Cymru ffilmiau gwych o bob rhan o Gymru. Ewch i'n sianel YouTube a rhannwch y cynnwys ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Tanysgrifiwch i’n Sianel YouTube

X (Twitter gynt)

Cysylltwch â busnesau arfordirol eraill a rhannwch gynigion arbennig gyda'ch dilynwyr. Dilynwch Croeso Cymru a sefydliadau perthnasol eraill i gadw mewn cysylltiad.

Hashnodau

Rydym yn olrhain yr hyn sy’n boblogaidd am y llwybr ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio hashnodau. Gallwch ddefnyddio hashnodau fel #walescoastpath, #coastofwales, #walescoast, #coast, #coastal, #walking, and #Welshcoast. Ar gyfer y Gymraeg, defnyddiwch #llwybrarfordircymru, #arfordircymru, #arfordir, #cerdded a #cerddedyrarfordir.

Teithiau cerdded hygyrch

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi’i gynllunio i bawb ei fwynhau. Gan ei fod yn 870 milltir o hyd, mae digon o ddarnau sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, teuluoedd â bygis, ac ymwelwyr â symudedd cyfyngedig.

Defnyddiwch Google Street View i wirio am leoedd parcio, golygfannau, ac unrhyw gyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer diwrnod allan gwych. Mae timau lleol yn gwella mynediad i'r llwybr yn barhaus. Ewch i'n tudalen gwefan ar deithiau cerdded hygyrch ar gyfer gwybodaeth leol gynhwysfawr

Rydym yn argymell dilyn Amanda Harris ar Instagram @amandascoastalchallenge . Mae Amanda yn llywio Llwybr Arfordir Cymru yn ei chadair olwyn a’i threic, gan rannu ei phrofiadau ac awgrymu teithiau cerdded hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Gweithgareddau hamdden cyfrifol a’r Cod Cefn Gwlad

Mae'n bwysig bod pawb sy'n defnyddio Llwybr Arfordir Cymru yn ei fwynhau'n gyfrifol. Mae'r Cod Cefn Gwlad yn ganllaw i fwynhau parciau, dyfrffyrdd, yr arfordir, a chefn gwlad. Gall ymwelwyr ymgyfarwyddo â negeseuon y Cod Cefn Gwlad cyn cychwyn ar eu teithiau. Mae cefn gwlad yn amgylchedd i fyw a gweithio ynddo i lawer o bobl, felly mae'n hollbwysig i barchu pawb, gwarchod yr amgylchedd, a mwynhau'r awyr agored. Dysgwch ragor am y Cod Cefn Gwlad. Mae'r Cod Cefn Gwlad yn helpu i gyflawni hyn:

  • Parchwch bawb
  • Gwarchodwch yr amgylchedd
  • Mwynhewch yr awyr agored

Gallwch hefyd ddefnyddio Pecyn Cymorth y Cod Cefn Gwlad a Rhestr chwarae’r Cod Cefn Gwlad ar YouTube i rannu negeseuon y Cod Cefn Gwald ar eich sianeli.

Awgrymiadau gorau i gerddwyr cŵn 

Mae llwybr yr arfordir yn lle perffaith i fynd â’ch cydymaith pedair coes. Dyma rai awgrymiadau i sicrhau bod ymwelwyr a’u cŵn yn aros yn hapus, yn gyfrifol, ac yn ddiogel:

  • Sicrhewch fod eich ci o dan reolaeth effeithiol, sy’n golygu cael tennyn byr gyda chi i’w ddefnyddio pan fo angen, er enghraifft, o amgylch da byw, ger ymylon clogwyni, neu afonydd sy’n llifo’n gyflym, neu lle mae arwyddion yn gofyn am hynny).
  • Peidiwch â gadael eich ci oddi ar ei dennyn oni bai eich bod yn ei gadw yn y golwg ac yn ddigon agos iddo ddod yn ôl atoch ar eich gorchymyn.
  • Ataliwch eich ci rhag mynd at farchogwyr, beicwyr, neu bobl eraill a'u cŵn heb wahoddiad.
  • Peidiwch byth â gadael i'ch ci boeni na mynd ar ôl bywyd gwyllt neu dda byw. Dilynwch gyngor ar arwyddion lleol i leihau aflonyddwch i blanhigion ac anifeiliaid.
  • Rhowch faw eich ci mewn bag ac yna yn y bin ble bynnag y byddwch, bob tro.
  • Gallwch ddefnyddio unrhyw fin gwastraff cyhoeddus neu eich bin gartref.
  • Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch eich ci, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am wylwyr y glannau.

Dysgu mwy am y Cod Cerdded Cŵn

Awgrymiadau gorau ar gyfer cerdded o amgylch da byw

Cofiwch aros yn ddiogel wrth gerdded o amgylch anifeiliaid a cheffylau:

  • Stopiwch, edrychwch, a gwrandewch cyn mynd i mewn i gae; byddwch yn ymwybodol o unrhyw anifeiliaid sy'n bresennol.
  • Cadwch eich ci ar dennyn byr bob amser os na allwch ddibynnu arno i ddychwelyd atoch ar eich gorchymyn.
  • Dewch o hyd i'r llwybr mwyaf diogel o amgylch anifeiliaid, gan roi digon o le iddynt a defnyddio llwybrau neu dir mynediad lle bo modd.
  • Gadewch yr ardal yn dawel ac yn gyflym os oes bygythiad, gan ryddhau'ch ci i'w gwneud yn haws i'r ddau ohonoch gyrraedd man diogel.

Cadw'n ddiogel ar y llwybr

Atgoffwch eich cwsmeriaid o bwysigrwydd aros yn ddiogel a mentro’n gall wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru. Mae dangos eich bod yn poeni am eu diogelwch yn hollbwysig. Cynhwyswch yr awgrymiadau gorau hyn ar eich gwefan, yn eich taflenni marchnata, neu ar eich wefan pori ystafelloedd wely.

  • Gwybod eich llwybr: Gwiriwch fapiau a gwefannau, cadwch olwg am unrhyw arwyddion rhybudd, a holwch am risgiau lleol.
  • Gwirio’r tywydd a’r llanw: Gwiriwch y tywydd a'r llanw bob amser cyn i chi adael.
  • Cynllunio ymlaen llaw: Cynlluniwch eich llwybr a rhowch wybod i rywun pryd i'ch disgwyl yn ôl.
  • Sicrhewch fod eich ffôn symudol wedi gwefru.
  • Aros yn llawn egni: Cadwch eich lefelau egni i fyny trwy fynd â bwyd a dŵr gyda chi.
  • Gwisgo’r dillad priodol: Gwisgwch ddillad sych, diddos o ansawdd da. Ewch â sanau a chrysau sbâr gyda chi, hyd yn oed os yw'r tywydd yn edrych yn braf. Gwisgwch esgidiau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer cerdded.
  • Cario eli haul: Cofiwch, gall gwyntoedd cryfion achosi llosg haul hefyd.
  • Bod yn ofalus: Byddwch yn ofalus i beidio â llithro, baglu, na chwympo. Cadwch draw oddi wrth ymylon a bargodion ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Peidiwch â dringo clogwyni nac eistedd oddi tanynt.
  • Diogelwch ar y ffyrdd: Byddwch yn ofalus wrth gerdded wrth ymyl, neu groesi, ffyrdd a rheilffyrdd.
  • Parchu bywyd gwyllt: Darganfyddwch y bywyd gwyllt ar draethau ond cofiwch i edrych ac nid cyffwrdd.
  • Gwybod sut i gael cymorth: Mewn argyfwng, ffoniwch 999 neu 112 a gofynnwch am wylwyr y glannau.

Parchu’r dŵr

Os byddwch chi'n cwympo'n annisgwyl i ddŵr oer, dylech ymladd yn erbyn eich greddf i guro’r dŵr o’ch cwmpas neu i nofio'n galed.Yn lle hynny, ymlaciwch ac arnofiwch ar eich cefn er mwyn dal eich gwynt. Unwaith y bydd sioc o ganlyniad dŵr oer wedi diflannu, ffoniwch am help, dewch o hyd i rywbeth hynawf i ddal gafael ynddo, neu nofiwch i rywle diogel os gallwch. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â gorsaf bad achub neu dîm achubwyr bywyd lleol Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub. Darllenwch am gyngor ac awgrymiadau ynghylch diogelwch dŵr – gwybod y risgiau

Mentro’n Gall Cymru

Helpwch eich ymwelwyr i brofi eu hadegau unigryw yn yr awyr agored yng Nghymru yn ddiogel.Mae Mentro’n Gall Cymru (Adventure Smart Wales) yn cynnig awgrymiadau a chynghorion defnyddiol er mwyn gallu mwynhau anturiaethau awyr agored fel arforgampau, cerdded bryniau, a nofio mewn dŵr agored yn ddiogel. Darganfyddwch fwy am Mentro’n Gall Cymru

Mapiau a theithiau cerdded

Rydym yn argymell cario map (fersiwn ar bapur neu ddigidol) ac ymgyfarwyddo â chyfeirbwyntiau Llwybr Arfordir Cymru i helpu ymwelwyr i aros ar y llwybr i helpu ymwelwyr i wneud y gorau o'u hamser, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer teithiau cerdded. 

Amseroedd y llanw

Rhowch fanylion ynghylch amseroedd y llanw i’ch cwsmeriaid i wneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn sownd ar eu teithiau cerdded. Gweld Tablau Llanw BBC Weather 

Adnoddau eraill defnyddiol 

Gall defnyddio'r adnoddau amrywiol sydd ar gael ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru wella'r hyn y mae eich busnes yn ei gynnig a'i apêl yn sylweddol. Drwy fanteisio ar yr offer a deunyddiau gwerthfawr hyn, gallwch roi profiad cyfoethocach a mwy gwybodus i’ch gwesteion wrth arddangos y gorau o arfordir Cymru. 

Dyma rai adnoddau hanfodol i’ch helpu i wneud y gorau o Lwybr Arfordir Cymru, gan sicrhau bod eich busnes yn amlwg ac yn darparu gwasanaeth eithriadol i bob ymwelydd.

Siop Llwybr Arfordir Cymru

Mae nwyddau swyddogol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru ar gael i’w prynu ar-lein. Mae'r dewis yn cynnwys cofroddion wedi'u brandio, dillad ac anrhegion, gan gynnwys eitemau pwrpasol a wnaed gan gynhyrchwyr o Gymru. Daw'r holl gynhyrchion o ffynonellau moesegol, ac mae'r elw'n cael ei ddefnyddio i gynnal y llwybr. Gall busnesau sydd â diddordeb mewn stocio rhywfaint o’r ystod cynnyrch e-bostio’r tîm gwerthu  sales@promotionalwarehouse.co.uk i drafod cyfleoedd. Porwch siop 

Hyrwyddo Cymru

Mae hwb brand Cymru Wales yn cynnig cyfoeth o asedau digidol sy’n cynrychioli’r gorau o Gymru. Gallwch chwilio llyfrgell helaeth o ffotograffau o ansawdd uchel, fideos, darluniau, ffeithluniau, logos, a deunyddiau ategol eraill. Gellir defnyddio'r asedau hyn at ddibenion golygyddol, hyrwyddo neu farchnata o fewn y telerau defnyddio. I gael mynediad at logos y brand, llenwch ffurflen gais syml. Darganfyddwch fwy am frand Cymru Wales 

Defnyddio'r Gymraeg

Mae ein hiaith unigryw yn ased aruthrol. Gall defnyddio’r Gymraeg wneud eich busnes yn nodedig. Cyrchwch wasanaeth cyfieithu Helo Blod i gael cyfieithiadau am ddim hyd at 500 gair, gyda gwasanaeth yr un diwrnod.

Neges ‘Croeso i Gerddwyr’ mewn ieithoedd tramor allweddol:

  • Cymraeg: Croeso i gerddwyr
  • Ffrangeg: Marcheurs bienvenus
  • Almaeneg: Wanderer willkommen
  • Eidaleg: Camminatori benvenuti
  • Iseldireg: Wandelaars welkom
  • Sbaeneg: Caminantes bienvenidos

Delweddau

Mae lluniau o ansawdd uchel o Lwybr Arfordir Cymru ar gael am ddim i’w lawrlwytho oddi ar wefan asedau Croeso Cymru. Mae angen cwblhau cofrestriad cyflym i gael mynediad i'r delweddau. Lawrlwythwch delweddau o gwefan hwb brand Croeso Cymru

Ffilm

Mae ein cyfrif YouTube yn cynnwys ystod amrywiol o ffilmiau a chyfweliadau o ansawdd uchel gyda phobl o bob cefndir yn siarad am yr hyn y mae'r llwybr yn ei olygu iddyn nhw. Mae croeso i chi gysylltu â'r fideos hyn o'ch gwefannau a'ch sianeli cyfryngau cymdeithasol. Tanysgrifio i sianel YouTube Llwybr Arfordir Cymru

Deunyddiau marchnata

Torrwch a gludwch neu lawrlwythwch adnoddau ar gyfer eich gwefan, gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol, taflenni, a phorwyr ystafelloedd gwely i roi gwybodaeth werthfawr i'ch cwsmeriaid a fydd yn cyfoethogi eu hymweliad.

Defnyddio ein Logo

Gallwch ofyn am ein logos i’w defnyddio yn eich marchnata er mwyn hyrwyddo'r llwybr mewn ffordd gadarnhaol. Gellir lawrlwytho logo Croeso i Gerddwyr Llwybr Arfordir Cymru a’i ddefnyddio ar eich gwefan neu yn eich llenyddiaeth farchnata. Mae gennym hefyd boster hysbysebu y gallwch ei arddangos yn eich derbynfa neu mewn ardaloedd ar gyfer ymwelwyr. Lawrlwythwch y poster

Lleihau’r defnydd o blastig untro

Mae Ail-lenwi Cymru yn ymgyrch arobryn i atal llygredd plastig drwy ei gwneud yn haws i ailddefnyddio ac ail-lenwi poteli.Gall busnesau sydd â thapiau sy'n hygyrch i'r cyhoedd gofrestru fel gorsafoedd ail-lenwi ar yr ap Ail-lenwi, gan elwa ar fwy o sylw ac ymwelwyr. Mae sticeri ffenestr las yn dangos ymrwymiad i leihau plastig untro ac yn croesawu pobl a allai fod yn ansicr ynghylch gofyn am ail-lenwi eu poteli dŵr am ddim. Gall gorsafoedd ail-lenwi fod yn unrhyw fusnes, nid dim ond caffis neu fwytai. Cofrestrwch ar gyfer cynllun Ail-lenwi Cymru 

Byddwch yn fusnes gwyrdd

Mae’r galw am fyw’n gynaliadwy wedi cynyddu, a dylai busnesau twristiaeth roi blaenoriaeth i leihau/ailgylchu gwastraff, cefnogi cynnyrch lleol, a lleihau plastig untro yn sylweddol.Mae ymwelwyr â’r llwybr yn darparu buddion economaidd i’r ardal leol. Mae Busnes Cymru yn cynnig llawlyfr marchnata gyda chanllawiau ar sut i fod yn fwy ecogyfeillgar o ran dŵr, gwastraff, teithio, y gadwyn gyflenwi, ac ynni. Darganfyddwch fwy o wybodaeth am dwristiaeth gynaliadwy yng Nghymru

Bwyd a diod o Gymru

Mae gan Gymru draddodiad cryf o fyw oddi ar y tir, gyda marchnadoedd ffermwyr â chynnyrch organig, cynhyrchwyr artisan, gwyliau bwyd, a bwytai arobryn. Rhowch groeso i’ch gwesteion gyda bwyd traddodiadol o Gymru fel cawl, cennin, bara brith, selsig Morgannwg, pice ar y maen, a chawsiau, cigoedd, bisgedi a diodydd artisan lleol. Mae Mentera yn sefydliad sy’n cefnogi busnesau a chymunedau ledled Cymru. Gall eich helpu i gysylltu â chyflenwyr lleol yn eich ardal Darganfyddwch fwy am fwyd a diodydd traddodiadol o Gymru

TXGB

Mae TXGB yn blatfform digidol sy’n dod â busnesau twristiaeth ynghyd i hybu gwerthiannau a hybu cynhyrchiant trwy gysylltu’r farchnad mewn ffordd newydd ac unigryw. Cysylltwch â thîm Diwydiant Croeso Cymru i gael rhagor o fanylion

Cymerwch ran

Gall cymryd rhan ac annog eich staff i gyfrannu at hyrwyddo Llwybr Arfordir Cymru wella apêl eich busnes a phrofiad ymwelwyr yn sylweddol. Trwy feithrin tîm sy'n rhannu eich brwdfrydedd am y llwybr, gallwch greu awyrgylch croesawgar sy'n ennyn diddordeb gwesteion. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu chi a’ch staff i gymryd rhan, gan sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o botensial ymwelwyr â Llwybr Arfordir Cymru ac yn darparu profiad eithriadol i bawb.

Cynllun Llysgenhadon Cymru

Lansiwyd Cynllun Llysgenhadon Cymru (CLlC) yn 2019 fel cyfres o gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim yn cyflwyno gwahanol ardaloedd ac atyniadau yng Nghymru. Mae’r cynllun yn parhau i dyfu, gan groesawu amrywiaeth o lysgenhadon, gan gynnwys pobl leol, darparwyr llety ac atyniadau, siopau, tafarndai, myfyrwyr, staff llyfrgelloedd, staff gwybodaeth i dwristiaid, tywyswyr teithiau, a gwirfoddolwyr. Cyrchwch y cynllun ar-lein i gael cynnwys gwych ar Lwybr Arfordir Cymru a'r Llwybrau Cenedlaethol, yn ogystal â chyngor busnes. Cofrestrwch rhad ac yn ddim ar gyfer Cynllun Llysgenhadon Cymru

Masnach Teithio

Mae Croeso Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o offer i’ch cynorthwyo i farchnata eich busnes yn rhyngwladol.  Ewch i wefan Diwydiant Teithio Croeso Cymru i gael rhagor o fanylion

Mae Visit Britain yn cynnig ystod eang o offer i’ch cefnogi wrth farchnata eich busnes yn rhyngwladol. Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan Visit Britain Travel Trade

Y Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

Mae Croeso Cymru yn cyhoeddi cylchlythyrau rheolaidd sy’n ddelfrydol er mwyn cael newyddion a datblygiadau diweddaraf sy’n benodol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Darganfod rhagor o adnoddau i helpu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru

Y fasnach dwristiaeth lleol

I'r rhai yn y busnes twristiaeth a hamdden, mae gwefannau pwrpasol gyda syniadau am hyrwyddiadau a sut i weithio gyda marchnatwyr proffesiynol. Cysylltwch â'ch tîm twristiaeth lleol i gael gwybod am wefan masnach dwristiaeth yn eich ardal. Mae tîm twristiaeth Cyngor Abertawe yn cyhoeddi cylchlythyrau rheolaidd a pherthnasol ar gyfer diwydiant twristiaeth ardal Abertawe. Ewch i wefan twristiaeth Abertawe

Cydweithio â busnesau lleol

Gweithiwch ar y cyd â busnesau lleol eraill i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau. Siaradwch â pherchnogion busnes eraill ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i archwilio mentrau marchnata ar y cyd. Gall y mentrau hyn eich helpu i gyrraedd cynulleidfa fwy trwy gyfuno cronfeydd data cwsmeriaid a thrwy ymestyn ystod eich cynhyrchion a’ch gwasanaethau.

Gwyddoniaeth dinasyddion ar y llwybr 

Anogwch eich gwesteion i fod yn ddinasyddion wyddonwyr ar y llwybr. Mae prosiect CoastSnap yn canolbwyntio ar gofnodi newidiadau i arfordir Cymru.Gall cerddwyr helpu trwy dynnu lluniau o'r arfordir trwy gydol y flwyddyn a'u hanfon i mewn i'n helpu i ddeall sut mae ein harfordir yn newid. Mae'r delweddau hyn yn cyfrannu at brosiect gwyddoniaeth dinasyddion byd-eang. Cadwch lygad am ein mowntiau ar gyfer camerâu ffonau ar eich taith ar hyd llwybr yr arfordir neu edrychwch ar y lleoliadau cyfredol. Ymhlith y lleoliadau mae promenâd Llandudno, Aberystwyth, Dinbych-y-pysgod, Porthcawl a Morglawdd Bae Caerdydd ymhlith eraill. Dysgwch fwy am CoastSnap ar y llwybr

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Enghreifftiau o arfer gorau

Gall dysgu o arferion gorau perchnogion busnes llwyddiannus eraill ddarparu mewnwelediadau a strategaethau amhrisiadwy ar gyfer marchnata eich busnes i ymwelwyr â Llwybr Arfordir Cymru. Trwy arsylwi a mabwysiadu technegau profedig, gallwch wella eich ymdrechion marchnata eich hun a denu mwy o ymwelwyr. 

Dyma rai enghreifftiau o arferion marchnata effeithiol gan fusnesau sydd wedi manteisio’n llwyddiannus ar botensial Llwybr Arfordir Cymru, gan eich helpu i fwyafu eich cyrhaeddiad a’ch effaith.

Mae eu postiadau yn groesawgar, yn canolbwyntio ar y cwsmer, ac yn cynnwys galwad glir i weithredu fel “cadwch le nawr." Maent yn aml yn cynnwys lluniau trawiadol o arfordir Cymru a’r llwybr. 

Beth sy'n newydd

Mae cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau ac adnoddau diweddaraf yn hanfodol er mwyn hyrwyddo’ch busnes yn effeithiol i ymwelwyr â Llwybr Arfordir Cymru. Trwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fentrau, ymgyrchoedd ac offer newydd, gallwch wella'ch strategaethau marchnata a denu mwy o ymwelwyr. Dyma rai o’r diweddariadau ac adnoddau diweddaraf i’ch helpu i hyrwyddo eich busnes a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gyflwynir gan Lwybr Arfordir Cymru.

Blwyddyn Croeso 2025

Lansiodd Croeso Cymru Flwyddyn “Croeso” yn gynnar yn 2025 – ymgyrch marchnata twristiaeth genedlaethol a byd-eang i hyrwyddo profiadau, cynhyrchion, cyrchfannau a diwylliant eiconig Cymru. Bydd ei ymgyrch flaenllaw ‘Hwyl’ yn cyflwyno’r neges allweddol o deimladau o hwyl a llawenydd y gallwch chi eu profi “yng Nghymru yn unig”. 

Y llwybr yw’r ffordd ddelfrydol i gyfleu’r neges hon – fel ffordd fythgofiadwy o deimlo, blasu a gweld yr hyn sydd gan y llwybr i’w gynnig – golygfeydd arfordirol eiconig gyda lleoedd gwych i aros, yfed a bwyta, wedi’u cydblethu â’n diwylliant unigryw a’r Gymraeg, sy’n unigryw i Gymru. Mae angen busnesau fel eich un chi ar ymwelwyr â'r llwybr i’w fwynhau.  Mae Croeso Cymru yn gwahodd yr holl randdeiliaid i weithio gyda nhw ar y thema gyffrous hon.

Byddwn yn gweithio’n agos gyda grwpiau twristiaeth a rheoli cyrchfannau, ar y cyd â Chroeso Cymru, i sicrhau bod ein holl ymwelwyr yn cael hwyl ar y llwybr. Cymerwch ran ym Mlwyddyn Croeso a Hwyl Croeso Cymru 

Lawrlwytho Pecyn Cymorth Blwyddyn Croeso – am ddim i'w lawrlwytho, delweddau proffesiynol a logos yr ymgyrch

Adroddiadau arolwg busnes Llwybr Arfordir Cymru 2024

Gwnaeth arolwg o fusnesau ar hyd y llwybr a’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru (Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Glyndŵr, a Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, sydd hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru) asesu’r cymorth sydd ei angen i wneud y mwyaf o gyfleoedd busnes lleol. 

Datgelodd y manteision y mae busnesau’n eu cael o’u lleoliad a’r wybodaeth y maen nhw’n meddwl fyddai fwyaf defnyddiol i’w cwsmeriaid. Mae canlyniadau'r arolwg ar gael ar gyfer y llwybr cyfan ac wedi'u dadansoddi fesul rhanbarth daearyddol. Gweld Adroddiadau Arolygon Busnes Llwybr Arfordir Cymru 2024

Archwilio mwy