Ynglŷn â'r llwybr

Dysgwch am gefndir a hanes y llwybr, ynghyd â ffeithiau allweddol amdano

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cefndir

Mae Cymru hefyd yn un o’r ychydig wledydd yn y byd sydd â llwybr troed arfordirol di-dor sy'n dilyn ei harfordir cyfan. Enw'r llwybr troed hwn yw Llwybr Arfordir Cymru (LlAC) ac fe'i hagorwyd yn 2012. Mae'n 870 milltir o hyd, yn dechrau yng Nghaer yn y Gogledd ac yn gorffen yng Nghas-gwent yn y De. Lle bo modd, mae'r llwybr yn dilyn yr arfordir ac mae ganddo arwyddbyst â’r logo draig-gragen melyn a glas adnabyddus i ddangos y ffordd.

Bydd cerddwyr yn gallu profi bwyd, diod a lletygarwch Cymru ar hyd eu taith wrth i'r llwybr fynd drwy bentrefi a threfi arfordirol di-rif, a hyd yn oed brifddinas Cymru, Caerdydd.

Mae pobl sy'n dilyn y llwybr unigryw hwn nid yn unig yn sicr o weld golygfeydd godidog, amrywiaeth o fflora a ffawna a bywyd gwyllt morol ond bydd eu taith yn cael ei chyfoethogi gan brofi tameidiau o hanes, diwylliant a bywyd arfordirol gwledig Cymru.

Hanes

Tua 20,800 km sgwâr yw arwynebedd tir Cymru, sef gwlad yng ngorllewin y Deyrnas Unedig. Mae'n enwog am ei hiaith, ei diwylliant, ei harfordir garw a'i mynyddoedd.
Agorwyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro yn ne orllewin Cymru ym 1970. Dilynwyd hyn yn 2006 gan lwybr arfordir Ynys Môn a llwybr arfordir Llŷn, y ddau yn y Gogledd Orllewin. Agorwyd llwybr Ceredigion ar arfordir y gorllewin yn 2008.

Cyfrannodd y llwybrau hyn yn helaeth at yr economi dwristiaeth leol gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer iechyd a lles ond nid oeddent wedi'u cysylltu ar lawr gwlad nac o ran datblygiad. Roedd y syniad o gael llwybr di-dor o amgylch arfordir Cymru i gyd yn syniad a apeliodd at lawer.

Yn ystod canol y 2000au, roedd Llywodraeth Cymru am gynyddu mynediad i'r arfordir ar gyfer iechyd a hamdden a rhoi hwb i economi twristiaeth Cymru. Roedd cysylltu'r llwybrau arfordirol presennol ynghyd â llwybrau newydd yn gyfle perffaith i greu llwybr cerdded arfordirol di-dor cenedlaethol yng Nghymru ac felly crëwyd Llwybr Arfordir Cymru.

Ar ôl llawer o waith ar lawr gwlad, lansiwyd y llwybr yn swyddogol ar 5 Mai 2012 mewn tri lleoliad â thirnodau arfordirol, sef castell Sir y Fflint, promenâd Aberystwyth a Roald Dahl Plas ym Mae Caerdydd.

Map o’r llwybr

Mae’r map yn dangos LlAC a thri Llwybr Cenedlaethol sy’n cysylltu â’r llwybr. Edrychwch ar lun o fap y llwybr (1.1 MB JPEG)

Ar y llun, dyma ystyr y llinellau lliw:

• LlAC yw’r llinell felen ar hyd yr arfordir,
• Llwybr Glyndŵr yw’r llinell werdd sy’n mynd tua’r tir ym Machynlleth,
• Llwybr Clawdd Offa yw’r llinell binc ar hyd y ffin â Lloegr,
• Llwybr Arfordir Penfro yw’r llinell las.

Ynglŷn â'r llwybr

  1. Mae'n 870 milltir neu 1,400 km o hyd.
  2. Yn dibynnu ar ble rydych chi'n dechrau, mae'r mannau cychwyn a gorffen swyddogol ar y ffin â dinas Caer yn Lloegr, yn y gogledd ((ar lwybr Beicio Cenedlaethol rhif 89), ac yng Nghas-gwent yn y de, (ger y bandstand). Mae canolbwynt dwyddogol yng Nghei Newydd, Ceredigion.
  3. Mae darnau o gelf a cherfluniau a gomisiynwyd wedi’u gosod fel mannau o ddiddordeb ym mhwyntiau gogleddol, canol a deheuol y llwybr. Ceir arwyddbyst addurniadol a dau faen hir mawr gyda llinellau bendith y dengmlwyddiant wedi'u hysgythru yn y trothwyon. Ar y pwynt hanner ffordd, fe welwch gerflun a gomisynwyd, (ar y lawnt sy’n edrych dros yr harbwr) sy'n dymuno pob lwc i deithwyr sy’n mynd heibio.
  4. Mae’r llwybr hefyd yn cysylltu â’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru, sef llwybrau pellter hir a ddewiswyd gan lywodraeth y DU fel rhai o’r tirweddau gorau yn y DU ac sydd â logo’r fesen ar eu harwyddbyst
  5. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu â’r Llwybrau Cenedlaethol canlynol: Llwybr Glyndŵr ym Machynlleth sy'n mynd ar draws Cymru, Llwybr Clawdd Offa yn nhref glan môr Prestatyn yn y gogledd ac ar hyd y ffin â Lloegr i Gas-gwent a’r Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro hefyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Gallwch hefyd fynd ar hyd Ffordd Cambria, sef llwybr heriol o un pen o’r wlad i’r llall o Gaerdydd i Gonwy.
  6. Mae llwybr arfordirol Ynys Môn, llwybr arfordir Ceredigion a Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro a oedd eisoes wedi'u sefydlu, i gyd yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
  7. Nid yw'n Llwybr Cenedlaethol, ond rydym yn dilyn yr un safonau uchel sydd gan y Llwybrau Cenedlaethol ar gyfer cynnal a chadw a datblygu’r llwybr.
  8. Cyfanswm esgyniad a disgyniad adran Sir Benfro yw tua 35,000 troedfedd – mae hynny mor uchel ag Everest.
  9. Bydd hefyd yn ymuno â Llwybr Arfordir Lloegr ar y ffin â Chaer (Gogledd Orllewin Lloegr) a ger Cas-gwent (De Ddwyrain Cymru).
  10. Gallwch gerdded o amgylch Cymru gyfan pe baech yn cerdded Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa – mae hynny tua 1,047 milltir neu 1,685 km i gyd.
  11. Mae'r llwybr yn defnyddio hawliau tramwy sy'n bodoli eisoes yn ogystal â hawliau tramwy caniataol ac mae'r llwybr wedi'i farcio ar fapiau’r Arolwg Ordnans fel llwybr hamdden sydd wedi'i ddynodi gan ddiemwntiau gwyrdd.
  12. Mae'r llwybr cyfan yn hygyrch i gerddwyr, gyda rhai rhannau yn addas ar gyfer beicwyr, teuluoedd â chadeiriau wthio, pobl â symudedd cyfyngedig, a marchogion ar geffylau.
  13. Mae'r llwybr ar agor drwy gydol y flwyddyn ac nid yw byth ar gau. Bydd ffordd arall bob amser ar gael os bydd angen dargyfeirio'r llwybr.
  14. Mae’r llwybr yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio – does dim i’ch rhwystro rhag mynd allan ar y llwybr a’i fwynhau.
  15. Nid oes angen trwydded neu bàs i ymweld â'r llwybr.

Pwy sy'n rheoli'r llwybr

Rheolir y llwybr gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos ag un ar bymtheg o awdurdodau arfordirol lleol a dau barc cenedlaethol ar gynnal a chadw a datblygu’r llwybr. Mae swyddogion rhanbarthol penodedig sy'n cynnal y llwybr ac fe’u cyflogir gan wahanol gyrff cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith o gynnal a chadw a datblygu a marchnata’r llwybr. Rydym hefyd yn gweithio gyda Croeso Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i farchnata a hyrwyddo'r llwybr i gynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Adrannau’r llwybr

Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi'i rannu'n wyth adran a dyma'r pellteroedd. Edrychwch ar y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru (121 KB JPEG)

1. Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy (81 milltir neu 132 km)
2. Ynys Môn (135 milltir neu 217 km)
3. Arfordir Llŷn ac Eryri (167 milltir neu 264 km)
4. Ceredigion (75 milltir neu 119 km)
5. Llwybr Arfordir Sir Benfro (182 milltir neu 291 km)
6. Sir Gaerfyrddin (68 milltir neu 108 km)
7. Gŵyr a Bae Abertawe (69 milltir neu 111 km)
8. Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren (97 milltir neu 157 km)

Ffiniau Awdurdodau Lleol

Mae'r rhanbarthau'n dilyn ffiniau awdurdodau lleol gan mwyaf. Mae adran arfordir Llŷn ac Eryri o fewn sir Gwynedd ac mae adran Sir Benfro o fewn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Mae adrannau arfordir gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy yn rhedeg drwy'r siroedd canlynol o'r dwyrain i'r gorllewin:
1. Sir y Fflint
2. Sir Ddinbych
3. Conwy a rhan o Wynedd

Mae adran De Cymru ac Aber Afon Hafren yn mynd drwy'r siroedd canlynol o'r gorllewin i'r dwyrain:
1. Castell-nedd Port Talbot
2. Abertawe
3. Pen-y-bont ar Ogwr
4. Bro Morgannwg
5. Caerdydd
6. Casnewydd
7. Sir Fynwy

Arwyddbyst

Mae gan y llwybr cyfan arwyddbyst gyda’n logo melyn a glas adnabyddus, sef cragen gyda chynffon draig. Fe welwch deitl Cymraeg a Saesneg y llwybr gyda "Llwybr Arfordir Cymru" a "Wales Coast Path" ar bob arwyddbost.

O bryd i'w gilydd, fe welwch fersiwn coch o'r arwyddbyst sy'n dangos llwybr arall y gellir ei gymryd ar y llwybr swyddogol, er enghraifft opsiwn llanw uchel.red and yellow logo

Fe welwch hefyd logos eraill wrth ymyl un Llwybr Arfordir Cymru fel logo môr-wennol ar Ynys Môn, yr aderyn môr sy'n ymgartrefu ar yr ynys, logo'r arfordir ar gyfer Ceredigion ac arwydd mesen y Llwybrau Cenedlaethol ar adran Sir Benfro. Peidiwch â phoeni - rydych yn dal i fod ar Lwybr Arfordir Cymru pan welwch y logos lleol hyn.

Marchnata a Hyrwyddo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rheoli'r gwaith o farchnata a hyrwyddo'r llwybr drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol, gwefan, ap swyddogol, taflenni wedi’u hargraffu a byrddau dehongli ar hyd yr arfordir. Mae’r llwybr hefyd yn cael ei hyrwyddo drwy ein partneriaid i gynulleidfa amrywiol.

Dewch o hyd i ni a'n dilyn ar ein sianeli cymdeithasol gyda'n dolen @walescoastpath

Gwobrau ac Anrhydeddau

Dyma rai o'r gwobrau a'r anrhydeddau yr ydym yn arbennig o falch ohonynt:
Rhestr Mannau Teithio Gorau Lonely Planet a gyhoeddwyd yn 2020 sy’n cynnwys Llwybr Arfordir Cymru yn ei restr o 500 o brofiadau teithio i roi cynnig arnynt.
• Gwobrau am ragoriaeth wrth gynllunio a chynllunio gwledig rhagorol ac enillydd y Cwpan Jiwbilî Arian a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (2013)
• Mewn rhifyn oLonely Planet daeth arfordir Cymru’n gyntaf yn ei 10 rhanbarth gorau i ymweld â nhw yn 2012
• Enwodd cylchgrawn y National Geographic Sir Benfro’n ail gyrchfan arfordirol orau'r byd yn 2012

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Mae ein adnodd Cynllunio eich Taith yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad – gobeithiwn y cewch amser gwych gyda ni.
map rhyngweithiol i gynllunio eich llwybr,
tablau pellter,
teithlenni cerdded,
gwybodaeth am yr ap swyddogol
• cynllun pasbort