Llanbedrog i Abersoch, Pen Llŷn

Mwynhewch rai o olygfeydd arfordirol gorau pentref glan môr Abersoch

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Decharau a Gorffen

Llanbedrog i Abersoch

Pellter

4 milltir neu 6 km

Ar hyd y ffordd

Cychwynnwch ym Mhlas Glyn y Weddw, sef plasty Fictoraidd rhestredig Gradd II a chanolfan ddiwylliannol. Os ydych yn gwirioni ar gelf, cofiwch bori trwy’r oriel cyn cychwyn ar eich taith gerdded – mae’n llawn o’r gweithiau celf mwyaf cyfoes o bob cwr o Gymru. Pan fyddwch yn barod i gychwyn ar eich taith, gallwch naill ai ddilyn y llwybr trwy’r coetiroedd ar dir Plas Glyn y Weddw, neu gerdded i lawr at y traeth a dilyn y llwybr ar hyd yr arfordir.

Mae llwybr y coetir yn serth a bydd angen i chi fod yn weddol ffit i’w droedio, ond mae’r ddau lwybr yn cyfarfod wrth olygfan Trwyn Llanbedrog. Ni fyddwch ar eich pen eich hun ar Fynydd Tir y Cwmwd, oherwydd caiff y llecyn ei amddiffyn gan gerflun trawiadol ‘Y Dyn Haearn’, sy’n cadw golwg drwy’r amser ar ddyfroedd disglair Bae Ceredigion.

O’r fan hon, mae’r llwybr yn ymdroelli trwy Fynydd Tir y Cwmwd, sef rhostir gwarchodedig sy’n doreithiog o fywyd gwyllt, cyn eich tywys i lawr at ‘Y Gwningar’. Dyma un o’r ddau draeth a geir yn Abersoch, ac mae’r llecyn tywodlyd hir hwn â thai glan môr dethol ar ei hyd. Yn olaf, cerddwch ar hyd y traeth i Abersoch ei hun, un o’r cyrchfannau glan môr mwyaf poblogaidd a ffasiynol ym Mhen Llyn.

Uchafbwyntiau'r daith 

Uchafbwyntiau Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Dyma daith gerdded wych lle cewch gyfle i fwynhau gwaith celf yn ogystal â phaned a theisen. Wrth i chi droedio i lawr y pentir hwn a chyrraedd y traeth cewch fwynhau rhai o olygfeydd arfordirol mwyaf godidog Abersoch".

Angen Gwybod 

Ceir toiledau a chaffi bendigedig ym Mhlas Glyn y Weddw sy’n gwerthu teisennau cartref a bwydydd cinio, ac mae Abersoch yn frith o dafarnau a chaffis.

Mae gwasanaeth bws Pen Llŷn (tymhoral) yn teithio rhwng Abersoch a Llanbedrog, ewch i wefan Bws Arfordir Llŷn gwefan i gael yr amseroedd a’r mannau casglu.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig