Gwarchodfa Natur Larnog, Caerdydd

Cafodd hanes ei greu yma pan anfonwyd y neges radio gyntaf oll ar draws môr agored

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Decharau a Gorffen

Gwarchodfa Natur Trwyn Larnog

Pellter

1 milltir neu 2 km

Ar hyd y ffordd

Mae llwybrau’n cris-croesi’r warchodfa, felly gallwch ddewis eich trywydd eich hun trwy dirwedd o goedydd, dolydd, rhostiroedd a chlogwyni, sy’n gartref i boblogaeth doreithiog ac amrywiol o anifeiliaid a phlanhigion. Mae mwy na 25 rhywogaeth wahanol o löynnod byw wedi’u cofnodi o fewn y warchodfa, ac mae’r dolydd yn ferw o flodau gwyllt, yn cynnwys briallu Mair, y ganrhi felen a sawl math o degeirian. Mae’n lle gwych i wylwyr adar hefyd. Cadwch lygad am adar sy’n trigo yma, fel gweilch glas, cochion y berllan a chnocellau gwyrdd, a dewch am dro yma yn yr hydref i weld heidiau mawr o wenoliaid, cochion yr adain a socanod eira sy’n ymfudo.

Tuag ymyl orllewinol y warchodfa ceir Magnelfa Larnog. Adeiladwyd y safle milwrol hwn yn y 1860au, ac roedd yn un o Gaerau Palmerston. Mae’n cynnwys cyfres o amddiffynfeydd a oedd â’r bwriad o amddiffyn mynediad at Fôr Hafren. Cafodd ei ddefnyddio hefyd fel llwyfan gynnau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a bellach mae’n heneb gofrestredig.

Rhywbeth arall y mae’r warchodfa’n enwog amdano yw’r ffaith fod llwyddiant gwyddonol pwysig wedi’i gyflawni ar y safle. Yn 1897, llwyddodd y dyfeisiwr Guglielmo Marconi i drosglwyddo’r darllediad radio cyntaf erioed ar draws môr agored rhwng Trwyn Larnog ac Ynys Echni. Gellir gweld plac yn coffáu’r digwyddiad pwysig hwn ar yr eglwys wrth ymyl y maes parcio.

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Tricia Cottnam, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Mae’r llwybr hwn yn rhyfeddol o safbwynt hanes, yn ogystal â bod yn hardd ac yn dawel. Dyma’r safle lle trosglwyddwyd y neges ddiwifr gyntaf erioed dros fôr agored – o Drwyn Larnog i Ynys Echni. Byddwch hefyd yn mynd heibio i Fagnelfa Larnog, a ddefnyddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd i amddiffyn Caerdydd a’r Barri. Yn ystod y daith hon, gallwch ymgolli mewn hanes"

Angen Gwybod

Ceir maes parcio yn Nhrwyn Larnog, ynghyd â lluniaeth a thoiledau yn Nhafarn Marconi ym Mhentref Gwyliau Trwyn Larnog. Hefyd, ceir caffi a thoiledau ym Mharc Gwledig Llynnoedd Cosmeston, oddeutu 1.5 cilometr i ffwrdd.

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth bysiau Caerdydd, rhif 94, i gyrraedd y llwybr cerdded hwn – bydd y bws yn stopio ar Fort Road oddeutu 800m o’r warchodfa natur, gweler gwefan Cardiff Bus i gweld amserlenni. 

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded cylchdaith Gwarchodfa Natur Larnog (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

(Llun gan @Flatholmers ar Drydar)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig