Abertawe

Dewch i fwynhau’r baeau mwyaf prydferth ar hyd arfordir Cymru

Un o rannau mwyaf poblogaidd a thrawiadol llwybr yr arfordir ac nid heb reswm. Mae pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn mwynhau lleoedd adnabyddus fel y Mwmbwls a Bae Limeslade. Mwynhewch gerdded ar rannau llydan a chadarn o lwybr yr arfordir i gyrraedd baeau prydferth fel Bae Caswell a Bae Langland i fwynhau’r golygfeydd arfordirol eang sydd gan y rhan hon o Gymru i’w cynnig. Mae'r teithiau cylchol hyn yn rhoi'r dewis i chi ymweld â mannau o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Ewch draw i oleudy Pen y Mwmbwls pan fydd y llanw allan a mwynhewch heddwch a llonyddwch gwarchodfa natur genedlaethol Oxwich, ardal y morfa heli yng Nghwm Ivy a’r twyni tywod yn yr ardal gerdded boblogaidd hon.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mwynhewch yr olygfa o’r môr o lwybr ar hyd y clogwyni a phromenâd hawdd gyda’r opsiwn i ymweld â goleudy Pen y Mwmbwls

Mae golygfeydd pell o’r arfordir yn aros amdanoch ar ôl dringo i Fryn Llanmadog

Taith gerdded boblogaidd sy’n ffefryn gan bobl leol ac ymwelwyr ar ran eang a chadarn o lwybr yr arfordir

Mwynhewch daith gerdded gydag amrywiaeth o gynefinoedd twyni tywod ac ardaloedd coediog