Cil-y-coed a Sudbrook

Cyfle i fynd o dan bont Tywysog Cymru a mwynhau’r golygfeydd o gastell Cil-y-coed ar eich ffordd yn ôl

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae’r daith gerdded hon yn gadael Cil-y-coed ac yn cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru, gan redeg yn agos at draffordd brysur yr M4 i gyrraedd Pont Tywysog Cymru, Sudbrook, a Safle Picnic y Garreg Ddu. Gan fynd i mewn i’r tir, mae'r daith yn ymweld â Phorthsgiwed ac yn rhedeg trwy fannau agored Parc Harold a Phrosiect Cornfield. Tua diwedd y daith, mae Parc Gwledig Castell Cil-y-coed yn darparu man agored ysblennydd yn agos at ganol y dref.

Manylion y llwybr

Pellter: 7.2 milltir neu 11.6 cilomedr
Man cychwyn: Croes Cil-y-coed, Cil-y-coed
Cyfeirnod grid y man cychwyn: ST 48087 88370
Disgrifiad what3words y man cychwyn: pigau.coedwigwr.cylchdroi

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio ym Maes Parcio Ffordd Jiwbilî a Pharc Gwledig Cil-y-coed.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu Cil-y-coed â Chasnewydd a Cas-gwent.

Trenau
Gwasanaethau trên dyddiol i Gil-y-coed o Gaerdydd, Caerloyw a Cheltenham Spa.

Map a dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Mae’r map yn dangos llwybr byr gwahanol yn Black Rock, lle mae’r llanw yn achlysurol iawn yn eich atal rhag dilyn Llwybr Arfordir Cymru, sy’n golygu bod angen dilyn gwyriad byr tua’r tir. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX 'Caldicot and Sudbrook' (Cil-y-coed a Sudbrook)

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Cychwynnwch wrth y Cross Inn yng Nghroes Cil-y-coed, yng nghanol Cil-y-coed. Mae croes wedi'i gwneud o filoedd o lechi tenau yn sefyll mewn ardal balmantog i gerddwyr. O'r Cross Inn a safleoedd bysiau cyfagos, dilynwch Lôn Dywodlyd i gylchfan fach gyfagos a throwch i'r chwith ar hyd Ffordd Jiwbilî. Os ydych yn cyrraedd mewn car, defnyddiwch Faes Parcio Ffordd Jiwbilî. Gyferbyn â’r maes parcio, mae llwybr tarmac yn rhedeg trwy fan gwyrdd yn gyfochrog â Ffordd Jiwbilî, gan fynd heibio i Gaeau Chwarae Brenin Siôr V. Dewch allan i fan agored arall ac ewch yn syth ymlaen ar hyd y llwybr tarmac i gyrraedd maes parcio bach. Trowch i'r dde ac i'r chwith fel y nodir gan arwyddion llwybr beicio. Mae’r llwybr yn gwasgu rhwng ffensys gerddi, perthi a waliau yng nghefn tai, gan fynd heibio i gaban Ail Grŵp Sgowtiaid Cil-y-coed.

2. Ar ddiwedd y llwybr, trowch i'r chwith ar hyd ffordd, a bron yn syth trowch i'r dde i ddefnyddio croesfan i gerddwyr. Cerddwch yn araf i lawr y bryn ar hyd Heol yr Orsaf. Trowch i'r chwith ar gyffordd lle mae man bach gwyrdd a dilynwch yr arwyddion ar gyfer llwybr beicio rhif 4. Mae'r ffordd yn arwain at Orsaf Drenau Cil-y-coed, lle mae'n rhedeg o dan bont gydag uchdwr isel. (Os ydych chi'n cyrraedd ar y trên ac yn cychwyn o'r llinell tua’r dwyrain tuag at Loegr, gadewch y platfform a throwch i'r dde i gerdded o dan y bont. Os ydych yn cychwyn ar y llinell yn mynd tua'r gorllewin tuag at Gasnewydd, gadewch y platfform a throwch i’r dde i gerdded o'r bont.)

3. Ar ôl y bont reilffordd, trowch i'r chwith bron yn syth fel y nodir ar arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru, gan ddilyn isffordd sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r rheilffordd. Mae'r ffordd yn codi, yna daliwch i gerdded yn syth ymlaen fel y nodir wrth gyffordd. Nes ymlaen, trowch i'r dde fel y nodir ar arwyddbost trwy giât mochyn a dilynwch lwybr yn syth rhwng coesau peilon uchel. Ewch heibio mieri a mannau glaswelltog yna ewch drwy giât mochyn arall. Mae pont droed yn ffurfio bwa dros draffordd brysur yr M4, gan gynnig golygfeydd da o aber afon Hafren a Phont Tywysog Cymru yn arwain i Loegr.

4. Ewch drwy ddwy giât mochyn a throwch i'r chwith fel y nodir ar arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru. Dilynwch y llwybr ar hyd morglawdd glaswelltog gyda chors i’r dde a chaeau i’r chwith, yn ogystal â rhuo cyson y draffordd. Ewch trwy ddwy giât mochyn arall, yna mae dwy ffordd goncrit gul yn rhedeg yn gyfochrog â'r draffordd, felly defnyddiwch yr un sydd agosaf at y draffordd i barhau, sydd ychydig yn uwch na'r ffordd arall. Dilynwch y ffordd goncrit o dan fwa concrit cyntaf Pont Tywysog Cymru ac ewch ymlaen heibio i giât fel y nodir ar arwyddbost. Mae'r concrit yn ildio i lwybr gydag arglawdd glaswelltog i'r dde a ffos ddraenio a choetir i'r chwith. Nes ymlaen, mae'r llwybr yn rhedeg ar hyd pen yr arglawdd, a nes ymlaen eto mae'n dringo ychydig i fynd heibio stad o dai.

5. Ewch drwy giât mochyn ac mae'r llwybr yn rhannu, felly trowch i'r dde fel y nodir ar arwyddbost, gan basio llu o fieri. Mae'r llwybr yn edrych dros frigiadau creigiog ac yn mynd i mewn i Wersyll Sudbrook, safle caer o'r Oes Haearn wedi'i hamgylchynu gan argloddiau pridd lle mae bellach cae pêl-droed. Ewch heibio i adfeilion Eglwys y Drindod Sanctaidd a dilynwch lwybr i mewn i bentref Sudbrook. Mae gan Ganolfan y Twnnel ddiymhongar ar Camp Road baneli gwybodaeth ar ei wal, ond os yw’r drws ar agor, ewch i mewn i ddysgu mwy am hanes ac adeiladwaith y twnnel rheilffordd o dan aber afon Hafren. Mae lluniaeth a thoiledau ar gael pan fydd ar agor.

6. Gan ddilyn arwyddion Llwybr Arfordir Cymru, trowch i'r dde i groesi hen groesfan reilffordd a throwch i'r dde eto i ddilyn ffordd arall rhwng Gorsaf Bwmpio Sudbrook a hen ysgol. Ar ddiwedd y ffordd, mae mynegbost Llwybr Arfordir Cymru yn pwyntio'n syth ymlaen ar hyd ffordd bridd. Mae hon yn troi’n llwybr ceffyl braf wrth iddo adael y pentref, gan ddilyn yr arfordir, er bod y golygfeydd yn cael eu cuddio gan wrychoedd. Cyrhaeddwch hysbysfwrdd ar gyffordd llwybrau a throwch i'r dde, gan fynd heibio i hysbysiad ar gyfer Safle Picnic y Garreg Ddu. Ewch i mewn i lannerch wedi'i hamgylchynu gan goed, lle mae cerflun o ‘Y Pysgotwr Gafl’ a hysbysiad yn esbonio dulliau pysgota lleol yn defnyddio rhwydi gafl. Yn syth wedyn, mae cerflun o ddyn haearn, ‘Y Peiriannydd’, yn edrych allan i'r môr.

7. Ewch yn syth i mewn i'r tir ar hyd ffordd, yna trowch i'r dde wrth Black Rock Barn i ddilyn trac. Ewch drwy giât mochyn ger giât fawr, yna trowch i'r chwith a cherddwch yn raddol i lawr y bryn, gan fynd ymhellach i mewn i'r tir ar hyd ochr chwith cae. Ewch drwy fwlch mewn gwrych i fynd i mewn i gae cul. Cerddwch yn syth drwy'r cae hwn a sylwch ar hen fwa rheilffordd i'r chwith wrth ddod at giât mochyn sy'n arwain at ffordd. Trowch i'r dde a dilynwch Black Rock Road wrth iddi godi heibio tai a chroesi rheilffordd. Cyrhaeddwch gyffordd lle mae cysgodfan bws. Trowch i'r dde i lawr rhiw ar hyd y ffordd, ac yna trowch i'r chwith ar gyffordd, yn dilyn arwyddbost am Leechpool. Cerddwch i fyny'r ffordd a mynd heibio i dŷ ac yna edrych am fwlch yn y gwrych ar y chwith. Mae arwyddbost llwybr cyhoeddus a giât mochyn yn dangos y ffordd i mewn i gae.

8. Cerddwch yn syth ar draws y cae ac edrychwch ymlaen i weld giât mochyn. Ar y bryn ysgafn i'r chwith, mae gweddillion prin crug hir Neolithig Heston Brake. Ewch drwy'r giât mochyn i'r cae nesaf a chadwch i'r ochr dde. Cerddwch yn raddol i fyny'r allt ac i lawr y rhiw, ac ewch drwy giât mochyn arall. Cerddwch i lawr y rhiw ar hyd ochr dde cae arall, ewch trwy giât mochyn arall, a cherddwch yn syth ymlaen, i fyny trwy gae arall unwaith eto. Ewch drwy giât mochyn a chadw at ochr chwith cae, gan ddilyn ffens at dŷ, yna ewch drwy giât mochyn arall. Dilynwch drac i lawr trwy'r coetir, gan gyrraedd ffordd lle mae’r Portskewett Inn nepell i’r chwith. Fodd bynnag, trowch i'r dde yn lle hynny i barhau.

9. Dilynwch y ffordd i gyffordd a throwch i'r chwith. Saif Eglwys y Santes Fair i'r dde ac mae adeilad yn y fynwent yn gwasanaethu fel Canolfan Dreftadaeth Porthsgiwed. Cerddwch at gyffordd gyfagos gyda goleuadau traffig a throwch i'r dde drwy giât mochyn. Mae llwybr yn arwain i mewn i Faes y Brenin Harold, sy'n barc anffurfiol gyda glaswelltir twmpathog. Cerddwch ochr yn ochr â wal y fynwent i gyrraedd cornel, yna trowch i'r chwith a cherddwch yn raddol i lawr y rhiw, gan fynd heibio i linell o goed, cyn cerdded trwy ardal laswelltog i fynd trwy giât. Cyrhaeddwch faes parcio bach wrth ymyl Neuadd Hamdden Porthsgiwed a Sudbrook.

10. Cadwch i’r dde o barc chwarae i godi a dilyn llwybr i mewn i Brosiect Cornfield, lle mae man agored wedi’i ddatblygu fel parc i’r gymuned gyfan ei fwynhau. Dilynwch lwybr graenog llydan a chlir am yr holl ffordd, gan gadw at yr ochr dde. O’r diwedd, mae llwybr cul yn gadael yr ardal, gan gael ei wasgu rhwng ffensys uchel ar y ffordd drwy ystâd ddiwydiannol. Parhewch ar hyd ffordd trwy weddill yr ystâd, gan gyrraedd yr hyn a fu unwaith yn groesffordd. Cerddwch yn syth ymlaen, ar hyd ffordd sydd bellach wedi'i rhwystro rhag traffig, gan ddilyn Heol Pill heibio hen dai teras ac yna tai modern.

11. Cyrhaeddwch gyffordd â ffordd brysur wrth ymyl tŷ mawr carreg. Croeswch y ffordd o un cysgodfan bws i un arall a throwch i'r dde i ddilyn y palmant ar hyd y ffordd. Cyrhaeddwch gylchfan a throwch i'r chwith am Gastell a Pharc Gwledig Cil-y-coed. Ewch drwy giât mochyn a defnyddiwch lwybr i'r chwith o'r ffordd fynediad. Croeswch bont droed, yna mae'r castell yn sefyll i'r dde a gellir ymweld ag ef os yw ar agor. Mae’r castell yn dyddio o tua 1100 ac mae ganddo erddi tawel a pharc gwledig coediog. Wedi'i sefydlu gan y Normaniaid a'i ddatblygu gan ddwylo brenhinol fel cadarnle yn yr Oesoedd Canol a'i adfer fel cartref teuluol Fictoraidd, mae gan y castell hanes lliwgar a rhamantus i'w archwilio. Gellir gweld golygfeydd godidog ar draws yr aber o'r tŵr. Mae’r castell ar gau o fis Tachwedd tan ddiwedd mis Mawrth, ond pan fydd ar agor gall ymwelwyr archwilio a mwynhau lluniaeth yn yr ystafell de. Mae'r parc gwledig cyfagos ar agor trwy'r flwyddyn.

12. Dilynwch y llwybr sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r ffordd i barhau, gan gyrraedd Heol yr Eglwys, sydd wedi bod yn destun mesurau gostegu traffig. Gorwedd Eglwys y Santes Fair ochr arall y ffordd trwy giât fynwent, gyda’r Castle Inn i'r chwith. Mae troi i'r chwith i ddilyn y ffordd yn arwain yn syth yn ôl i Groes Cil-y-coed