Sir Fynwy

Archwiliwch ben pellaf deheuol y llwybr sy'n edrych dros Aber Afon Hafren a throsodd i Loegr

Y pen deheuol - man cychwyn neu ddiwedd y llwybr, yn dibynnu ar ble rydych chi'n dechrau cerdded - yw lle mae Aber Afon Hafren yn gwmni cyson i chi a lle ceir golygfeydd draw i Loegr. Mae'r rhan hon o'r llwybr, sy’n daith fer yn y trên o dde-orllewin Lloegr, yn hawdd ei chyrraedd er mwyn cael gwledd o safleoedd picnic tawel, mannau eang agored a gwaith carreg a cherfluniau dathliadol ar hyd y ffordd.  O Gas-gwent, gallwch hefyd ymuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa - llwybr hir sy'n dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr i Brestatyn ar arfordir Gogledd Cymru.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cyfle i fynd o dan bont Tywysog Cymru a mwynhau’r golygfeydd o gastell Cil-y-coed ar eich ffordd yn ôl

Mae terfyn deheuol y llwybr yn ymuno â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa