Dros 1,000 o filltiroedd o gyfleoedd i fusnesau’r arfordir
Ffyrdd rhad ac am ddim i helpu eich busnes i ddenu...
Hawlfraint y Goron
Mis Mai yw Mis Cerdded Cenedlaethol ac felly dyma'r amser delfrydol i atgoffa pob un ohonom nad oes un ffordd yn unig o fod yn gerddwr "da".
Nid yw'n ymwneud â pha mor bell rydych chi'n mynd, pa mor gyflym rydych chi'n symud, na pha mor heriol yw'r llwybr. Mae cerdded yn iach yn ymwneud â theimlo'n barod, meithrin hyder, parchu'r lleoedd rydych chi'n ymweld â nhw, a mwynhau'r profiad - beth bynnag mae hynny’n golygu i chi.
P'un a ydych chi'n cymryd eich camau cyntaf, neu'n ailddarganfod cariad at yr awyr agored, dyma ein canllaw i gerdded yn iach.
Un o'r camsyniadau mwyaf am gerdded yw bod yn rhaid iddo fod yn ymrwymiad mawr - pellteroedd hir, lleoedd anghysbell, anturiaethau am ddiwrnod cyfan.
Mewn gwirionedd, gall ddechrau'n llawer nes at adref.
Dywed llysgennad cyfryngau cymdeithasol Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol, Jessie-Ann Lewis (@jessieannlewis): “Cer amdani! Paid â meddwl bod angen i bob taith gerdded fod yn daith gerdded hir. Mae micro-anturiaethau yr un mor bwysig a gallan nhw ddechrau gyda thaith gerdded yn syth o garreg eich drws.”
Mae dechrau'n fach yn helpu i feithrin hyder, ffitrwydd, a chynefindra â bod yn yr awyr agored. Dros amser, mae'r teithiau cerdded byrrach hynny'n aml yn arwain at anturiaethau mwy, ond does dim rhaid brysio i’w cyrraedd.
Mae llysgennad cyfryngau cymdeithasol arall ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol, Lauren Harwood (@walkingwithlauren), yn ychwanegu: “Pan ddechreuais ymddiddori mewn cerdded, byddwn i’n ymchwilio i lwybrau lle roeddwn i’n teimlo’n gyfforddus - llwybrau mwy poblogaidd yn aml, yn enwedig pan oeddwn i’n mynd ar fy mhen fy hun.”
Gall dewis llwybrau hygyrch, a ddefnyddir yn aml a cherdded yn ystod golau dydd wneud i'r profiadau cynnar hynny deimlo'n llawer haws ymdopi â nhw.
“Cyn bo hir byddwch chi eisiau mentro ymhellach i ffwrdd, a dyna le mae Instagram, blogiau, apiau a gwefannau cerdded yn ffynhonnell wych o ysbrydoliaeth a gwybodaeth am lwybrau”, meddai Jessie.
Nid oes angen i chi or-gymhlethu pethau, ond gall ychydig o gynllunio wneud gwahaniaeth mawr. Cyn mynd allan, mae'n werth gwirio:
Dywed Lauren: “Byddaf bob amser yn gwirio’r tywydd, y llwybr ei hun, ac oriau golau dydd, yn enwedig yn yr hydref a’r gaeaf pan fydd hi’n tywyllu’n llawer cynharach.”
Mae Jessie yn cytuno: “Gall y tywydd newid mor hawdd, yn enwedig ar y mynyddoedd neu ger yr arfordir. Mae'n fy helpu i gynllunio pa haenau o ddillad sydd eu hangen arnaf, a phethau fel eli haul neu ddillad gwrth-ddŵr.”
Mae hi hefyd yn dwyn sylw at rywbeth y mae llawer o ddechreuwyr yn ei anghofio - gwybod beth sydd ar gael ar hyd y llwybr:
“Byddaf yn gwirio ble mae cyfleusterau fel fy mod i’n gwybod pa fyrbrydau sydd angen i mi fynd â nhw, a ble gallwn i stopio am wledd ar ôl cerdded!”
Nid oes angen offer drud arnoch i ddechrau, ond bydd ychydig o bethau hanfodol yn gwneud eich taith gerdded yn fwy diogel ac yn fwy pleserus. Esgidiau yw un o'r rhai pwysicaf:
“Rydw i wedi dysgu’r wers anodd bod esgidiau cyfforddus ac amddiffynnol mor bwysig”, meddai Jessie.
Bydd dillad ac offer yn amrywio gan ddibynnu ar yr amodau, ond mae’n allweddol bod yn barod am newid.
Mae Lauren yn rhannu: “Yn byw yng Nghymru, rydych chi'n dysgu'n gyflym y gall y tywydd newid mewn amrantiad! Mae'r hyn rwy'n ei wisgo fel arfer yn dibynnu ar y tymor a'r amodau, ond byddaf bob amser yn sicrhau fy mod wedi paratoi. Yn fy mag cefn fel arfer bydd gen i drowsus a siaced dal dŵr, haen inswleiddio gynnes, menig a chôt wyntglos. Fel arfer, byddaf yn cario cap cynnes a chap arall gan ddibynnu ar y tywydd.”
Ymhlith eitemau defnyddiol eraill mae:
Nid yw bod yn barod yn golygu gorbacio, mae’n golygu meddwl ymlaen llaw yn syml.
Gall llywio deimlo'n frawychus ar y dechrau, ond mae digon o offer llywio digidol adnabyddus i'w gwneud yn haws.
“Mae fy oriawr chwaraeon yn un pwysig. “Rwy’n dwlu fy mod i’n gallu lawrlwytho llwybrau GPX a’u dilyn fel cwrs, sy’n arbennig o ddefnyddiol pan fydd y signal yn diflannu”, eglura Lauren.
Mae Jessie hefyd yn dwyn sylw at y ffaith y gall llwybrau wedi'u marcio'n glir fod yn hynod ddefnyddiol i ddechreuwyr:
“Mae'n golygu ei bod yn braf ac yn hawdd i'w dilyn, sy'n wych os ydych chi'n newydd i lywio”.
Hyd yn oed gyda thechnoleg, mae bob amser yn syniad da cael cynllun wrth gefn, boed hynny'n llwybr wedi'i lawrlwytho, neu fap papur sy’n dal i fod yn argymhelliad da - gyda gwybodaeth am sut i'w ddefnyddio - yn enwedig wrth fynd i rywle anghysbell.
A gwnewch yn siŵr bob amser bod gennych ddealltwriaeth sylfaenol o ble rydych chi'n mynd cyn i chi gychwyn.
Mae cerdded yn iach yn golygu gofalu am y lleoedd rydych chi'n ymweld â nhw, fel y gellir eu mwynhau am flynyddoedd i ddod. Gall arferion syml gael effaith fawr:
Dywed Lauren: “Rwyf bob amser yn dilyn dull o weithredu 'peidiwch â gadael unrhyw ôl'. Mae gweithredoedd bach wir yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
Mae Jessie yn ychwanegu: “Mae’n bwysig osgoi cerdded ar lystyfiant cyfagos, gallai fod yn gartref i fywyd gwyllt.”
Mae hi hefyd yn dwyn sylw at rywbeth yr un mor bwysig - sut rydyn ni'n trin ein gilydd yn yr awyr agored: “Byddwch yn llawen ar y llwybrau. Dywedwch helo, sgwrsiwch, a byddwch yn barchus o'r rheiny o'ch cwmpas.”
Gall cŵn fod yn gymdeithion gwych wrth gerdded, ond mae'n bwysig sicrhau nad ydyn nhw'n effeithio ar fywyd gwyllt, da byw, na phobl eraill.
“Rwy’n cadw fy nghŵn ar dennyn mewn sawl ardal, yn enwedig yn ystod y tymor nythu i amddiffyn bywyd gwyllt ”, meddai Lauren.
Ychydig o bethau allweddol i'w cadw mewn cof:
Nid yw cerdded yn edrych yr un fath i bawb, ac ni ddylai fod yn rhaid iddo.
I rai, mae'n ymwneud â cherdded dros bellter. I eraill, mae'n ymwneud â mynd allan i’r awyr agored ar lwybr byr, hygyrch, cymryd seibiannau rheolaidd, neu fwynhau awyr iach yn unig.
Gallai hynny olygu:
Mae cerdded yn iach yn ymwneud â dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio i chi, nid sut rydych chi'n meddwl y “dylai” edrych.
Mae'n hawdd canolbwyntio ar gyflawni llwybrau ar restr neu gyrraedd cyrchfan, ond yn aml, bydd y teithiau cerdded mwyaf cofiadwy yn digwydd pan fyddwch chi'n arafu.
Fel mae Jessie yn ei ddweud, mae cerdded hefyd yn ymwneud â gwerthfawrogi'r hyn sydd o'ch cwmpas, a rhannu'r profiad hwnnw ag eraill ar hyd y ffordd.
Sylwch ar y dirwedd Tynnwch luniau. Stopiwch am seibiant. Mwynhewch y daith. Anadlwch. Cofiwch mai braint aruthrol yw bod yn yr awyr agored.
Nid yw cerdded yn iach yn golygu gwneud popeth yn berffaith. Mae'n ymwneud â dechrau lle rydych chi, meithrin hyder, a datblygu arferion sy'n eich helpu i aros yn ddiogel wrth barchu'r amgylchedd a'r bobl o'ch cwmpas.
Dathlodd y Cod Cefn Gwlad ei ben-blwydd yn 75 yn ddiweddar. Mae'r Cod yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth arwain sut rydym yn mwynhau ein tirweddau ac yn gofalu amdanynt. Wedi'i gyflwyno gyntaf ym 1951, mae wedi esblygu ochr yn ochr â phatrymau newidiol o ran mynediad a hamdden, ond mae ei neges graidd yn parhau'r un fath: parchu eraill, amddiffyn yr amgylchedd, a mwynhau'r awyr agored yn gyfrifol.
Wrth i fwy o bobl ddarganfod manteision cerdded, yn enwedig ar hyd llwybrau gwerthfawr fel Llwybr Arfordir Cymru a'n Llwybrau Cenedlaethol - mae'r Cod mor berthnasol ag erioed, gan helpu i sicrhau y gellir mwynhau, gwarchod a rhannu'r lleoedd arbennig hyn am genedlaethau i ddod.