Pererindodau hardd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
Darganfyddwch nerth tawel pererindod
Ffyrdd rhad ac am ddim i helpu eich busnes i ddenu mwy o gwsmeriaid
Crëwyd Llwybr Arfordir Cymru i gysylltu pobl â’n harfordir godidog – ond fe’i crëwyd hefyd i gefnogi’r cymunedau a’r busnesau sydd wedi’u lleoli ar hyd y llwybr.
Bob blwyddyn, mae miloedd o gerddwyr yn archwilio’r 870 milltir o Lwybr Arfordir Cymru, yn ogystal â thri Llwybr Cenedlaethol Cymru: Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Glyndŵr a Llwybr Arfordir Sir Benfro.
Mae hynny’n dros 1,000 o filltiroedd o gyfle.
O’r rhai sy’n chwilio am antur dros benwythnos i deuluoedd ar deithiau undydd i gerddwyr ar daith hir sy’n cynllunio i aros am nifer o ddyddiau, mae’r ymwelwyr hyn yn chwilio am leoedd i fwyta, i aros, i siopa ac i’w harchwilio. Ac mae llawer o fusnesau’n agosach at y Llwybr nag y maen nhw’n sylweddoli.
Os yw eich busnes wedi’i leoli gerllaw neu ar Lwybr Arfordir Cymru neu Lwybr Cenedlaethol, gallai tynnu sylw at y cysylltiad hwnnw eich helpu i’ch rhoi ar eu map.
Ond fe wyddom nad yw pob busnes yn ymwybodol o’r adnoddau a’r gefnogaeth sydd ar gael yn rhad ac am ddim i’w helpu i wneud yr union beth hwnnw.
Dyna pam rydyn ni’n gwahodd busnesau lleol i ymuno â’n cronfa ddata o fusnesau Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol. Cofrestrwch eich busnes heddiw
Mae ymuno â’r gronfa ddata yn rhoi mynediad uniongyrchol i chi at gymorth ymarferol, parod i’w ddefnyddio – heb unrhyw gostau.
Mae wedi’i gynllunio i fod yn rhwydd i’w weithredu ac yn ddefnyddiol – p’un a ydych yn rhedeg caffi gwledig bach, llety gwely a brecwast, busnes gweithgareddau neu siop leol.
Ers y cychwyn, un o brif nodau Llwybr Arfordir Cymru a’r Llwybrau Cenedlaethol fu helpu i roi hwb i economïau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol gwledig.
Nid dim ond cerdded heibio mae cerddwyr yn ei wneud – maen nhw’n cyfrannu at gymunedau lleol drwy gydol y flwyddyn. Drwy gryfhau’r cysylltiad rhwng y llwybrau a busnesau cyfagos, gallwn helpu i ymestyn arosiadau, annog ymweliadau rheolaidd a lledaenu’r budd economaidd ar hyd pob llwybr.
Mae’r gronfa ddata hon yn ffordd syml o aros mewn cysylltiad a sicrhau nad yw eich busnes chi yn colli allan.
Os yw eich busnes wedi’i leoli ar hyd neu ger Llwybr Arfordir Cymru, neu un o Lwybrau Cenedlaethol Cymru, byddem yn falch iawn o’ch croesawu i fod yn rhan o’n rhwydwaith o fusnesau. Cofrestrwch eich busnes heddiw