Canllaw Bwyd i Lwybr Arfordir Cymru
Mwynhewch fwyd a diodydd lleol blasus ar hyd y...
Hawlfraint y Goron
Wedi’u gwasgaru ar hyd Llwybr Arfordir Cymru mae sawl Gwarchodfa Natur Genedlaethol sy’n gartref i rai o’r mathau mwyaf anhygoel sydd gan Gymru i’w cynnig o fywyd gwyllt, planhigion ac anifeiliaid brodorol.
Sefydlwyd Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol i ddiogelu rhai o’n cynefinoedd, rhywogaethau a ffurfiau daearegol pwysicaf, ac i fod yn ‘labordai awyr agored’ ar gyfer ymchwil. Mae ymweld ag unrhyw un o’r gwarchodfeydd hyn yn brofiad arbennig ym mhob tymor, ond gyda’r haf daw’r heulwen a chyfleoedd newydd yn ei sgil i grwydro a mwynhau harddwch y gwarchodfeydd ar eu gorau.
Cofiwch ddiogelu bywyd gwyllt yn y lleoedd arbennig hyn drwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad a gadael dim ar eich ôl. Rhaid i berchnogion cŵn ddilyn yr arwyddion lleol a defnyddio tennyn byr ble nodir y dylent wneud hynny.
Yn swatio rhwng dinas Casnewydd ac aber afon Hafren mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, sy’n un o’r safleoedd gorau yn y wlad i wylio adar, yn enwedig pan ddaw’r gwanwyn â rhywogaethau adar hirgoes mudol i’r lagwnau hallt. At hynny, gall teuluoedd â phlant ifanc fwynhau gweld hwyaid bach a chywion ar draws y warchodfa. Mae’r warchodfa’n rhan o Wastadeddau Gwent ac mae’n cwmpasu amrywiaeth eang o gynefinoedd tir isel, gan gynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfeydd heli a lagwnau heli.
Mae rhwydwaith saith cilomedr o hyd o lwybrau wedi’u hail-wynebu o amgylch gwelyau cyrs Aber-wysg sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, ynghyd â chanolfan ymwelwyr a chaffi, sgriniau gwylio dros y sianeli dŵr dwfn, llwyfan gwylio uchel a chuddfan adar.
Yn yr haf, gallwch fwynhau planhigion y warchodfa yn eu holl ogoniant. Mae tegeirianau yn doreithiog ynghyd â llawer o flodau eraill, ac mae’r rhain yn denu gloÿnnod byw, gwyfynod a llawer o rywogaethau o wenyn, gan gynnwys y gardwenynen feinlais. Y llynedd dynodwyd Gwlyptiroedd Casnewydd yn Fan Cyfoethog o ran Gweision y Neidr, ac mae’r rhain yn denu hebogiaid yr ehedydd. Yma hefyd y mae’r unig le yng Nghymru ble mae’r cambig yn bridio, aderyn hirgoes a chanddo big amlwg sy’n troi am i fyny, a’r unig le yn ne Cymru ble mae aderyn y bwn a boda’r gwerni yn bridio.
Wedi’i lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU, Penrhyn Gŵyr, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich yn cynnig traeth hir euraidd, twyni tywod, clogwyni, morfeydd heli a chorsydd dŵr croyw. O degeirianau gwyllt, crwynllys Cymreig prin, gloÿnnod byw, adar ac ystlumod, mae’r warchodfa’n ecosystem gydol y flwyddyn i rywogaethau mudol a brodorol.
Yn ystod yr haf, cadwch lygad agored am hwyaid, rhegennod dŵr, gwyachod bach ac ieir dŵr o’r guddfan adar ar lan y llyn yn Whitestones. Gallwch fynd at y guddfan ar hyd llwybr pren dros y gors dŵr croyw a’r gwelyau cyrs.
Dewiswch o blith nifer o lwybrau troed arfordirol a thrwy goetir i weddu i’ch anghenion; mae dwy daith gerdded gylchol yn mynd â chi drwy’r twyni tywod, ble mae merlod gwyllt yn pori drwy gydol y flwyddyn.
Yn gynefin gwlyptir arall yn llawn gwelyau cyrs a hesg, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais yn baradwys i blanhigion, adar a phryfed y gwlyptir. Yn ystod yr haf, mae’r warchodfa hon yn atseinio o gân yr adar. Mae telor y cyrs a thelor yr hesg yn bridio yma, ynghyd â thelor Cetti, y troellwr bach, bras y cyrs a’r rhegen ddŵr. Gwrandewch am y gog wrth iddi chwilio am nythod telor y cyrs i guddio ei hwyau ynddynt.
Mae’r haf hefyd yn amser da i weld gwahanol blanhigion y gwlyptir. Ymhlith y cyrs a’r hesg mae blodau gwlyptir arbennig, yn cynnwys gellesg, pumnalen y gors a’r llafnlys mawr. Mae gan y warchodfa ei hun lwybr pren sy’n mynd â chi i ganol y gwlyptiroedd, gan gynnig llwybr byr uniongyrchol i mewn i ecosystem unigryw’r warchodfa a chipolwg ar gynefin copyn arnofiol y gors galchog ar hyd Camlas Tennant.
Os edrychwch yn ofalus, efallai y gwelwch y corryn mawr lliw siocled, naill ai ar wyneb dŵr y gamlas neu’n eistedd ar y twmpathau hesg ar ei hymylon. Gyda’r haf daw hefyd gyfoeth o weision y neidr a mursennod.
Gallwch ymuno â Llwybr Arfordir Cymru o ymyl y warchodfa a pharhau â’ch taith ar hyd arfordir Bae Abertawe.
Wedi’i lleoli yn Ne Sir Benfro, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystâd Ystagbwll yn doreithiog o gynefinoedd arfordirol a choetir, ac mae ganddi ddigonedd o ddyffrynnoedd tawel, pyllau lili cyforiog o fywyd gwyllt a thraethau tywodlyd. Yn gartref i ddau o faeau enwocaf Sir Benfro, Broadhaven a Barafundle, mae Ystagbwll yn gadarnle i nifer o rywogaethau, gan gynnwys un o boblogaethau mwyaf Prydain o’r ystlum pedol mwyaf prin.
Mae’r coetiroedd yn gartref i’r glöyn byw prin, y fritheg arian, tra bo gloÿnnod byw eraill i’w gweld ar y glaswelltiroedd a’r twyni tywod, yn cynnwys y fritheg werdd, y glesyn cyffredin a’r argws brown.
Gyda’r haf daw gwledd o wahanol flodau gwyllt i’r warchodfa. Mae tegeirian y wenynen, y tegeirian brych a theim gwyllt yn ymddangos yn y glaswelltiroedd ac ar y twyni tywod, ac mae’r alaw yn addurno’r llynnoedd hardd. Mae clustog Fair yn ei blodau ar y clogwyni o hyd, ac mae’r cedowydd suddlon a theim gwyllt wedi ymuno hefyd.
Gellir clywed yr ehedydd yn canu uwchben ac mae telor y cyrs i’w weld yn y llynnoedd. Fel yn y gwanwyn, mae’r clogwyni’n atseinio o adar y môr, o frain coesgoch i wylogod ac o lursod i balod.
Mae Ynys-las yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ac mae wedi’i leoli hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru. Mae twyni euraidd Ynys-las yn gorwedd ar ochr ddeheuol aber afon Dyfi a nhw yw’r twyni mwyaf yng Ngheredigion. Maent yn gartref i boblogaeth gyfoethog o degeirianau, mwsoglau, llysiau’r afu, ffyngau, pryfed a chorynod, llawer ohonynt yn brin a rhai yn absennol o fannau eraill ym Mhrydain.
Gyda’r haf daw gwledd o wahanol flodau i’r warchodfa. Mae tegeirianau’r gors yn ymddangos ar ddechrau’r haf yn llaciau llaith y twyni, ac i’w dilyn daw caldrist y gors a thegeirian bera ar gribau moel y twyni. Mae yna hefyd flodau lliwgar y forfa heli, sef clustog Fair, seren y forfa a’r troellig arfor. Mae’r awyr yn drwch o loÿnnod byw a gwyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd, tra bod gweision y neidr yn gwibio o amgylch y gyforgors.
Mae twyni tywod symudol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn un o’n safleoedd arfordirol mwyaf deinamig. Mae cynefinoedd o dwyni tywod deinamig sy’n esblygu o hyd ac sy’n cynnwys ardaloedd mawr o dywod moel yn prinhau ar hyd a lled y DU, sy’n golygu bod hwn yn un o’r cynefinoedd pwysicaf ac sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn y wlad.
Yn y misoedd cynhesach, mae amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol i’w gweld yng nglaswelltiroedd y twyni a’r llaciau isel, gan gynnwys trilliw’r twyni, rhwyddlwyni, teim a thegeirianau. Mae yna hefyd gytrefi o’r galdrist felynwerdd a glesyn-y-gaeaf deilgrwn – Gorffennaf neu Awst yw’r adeg orau i weld y rhywogaethau hyn.
Mae’r haf hefyd yn gyfnod prysur i lawer o infertebratau gan gynnwys gwenyn turio a chwilod. Mae’r blaendwyni symudol yn gartref i chwilen deigr y twyni, a chadwch lygad agored am loÿnnod byw copor bach, britheg werdd, gweirlöyn y perthi a’r gweirlöyn llwyd, ynghyd â gwyfynod sy’n hedfan yn ystod y dydd, fel teigr y benfelen a’r bwrned pum smotyn.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech yn dirwedd arfordirol drawiadol arall sy’n cynnal cynefinoedd prin y twyni tywod a’r corsydd arfordirol. Yn adnabyddus fel un o’r trysorau naturiol cyfoethocaf ac yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, pob un wedi addasu’n arbennig i fywyd ar ymyl y môr, mae Morfa Harlech yn gyfle i archwilio bywyd gwyllt brodorol prinnaf Cymru.
Os ymwelwch yn yr haf, cewch gyfle i weld amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol yng nglaswelltiroedd a llaciau’r twyni, gan gynnwys trilliw’r twyni, rhwyddlwyni, teim gwyllt a thegeirian bera. At hynny, efallai y dewch ar draws helys pigog, tywodlys dail teim a hegydd arfor ar y twyni sy’n tyfu mewn cromlin hir ar draeth uchaf Trwyn Harlech.
Mae yma hefyd gytrefi o’r tegeirian llydanwyrdd bach sy’n eithaf prin – Gorffennaf yw’r mis gorau i weld y rhywogaeth hon. Mae pryfed eraill fel rhai o’n gwenyn turio prinnaf, gwenyn meirch unig a chwilod yn dibynnu ar dywod moel ac efallai y gwelwch fadfall y tywod hyd yn oed.