Pecyn cymorth busnes

Pecyn cymorth sydd wedi'i gynllunio i helpu busnesau arfordirol i farchnata eu busnes drwy ddefnyddio atyniad Llwybr Arfordir Cymru

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dyma adnodd ar-lein am ddim sy’n ceisio helpu busnesau arfordirol i farchnata eu busnes trwy ddefnyddio Llwybr Arfordir Cymru fel atyniad grymus.  Mae'n rhoi mynediad i chi i amrywiaeth eang o ddeunyddiau a gwybodaeth mewn un lle.

Bydd yn eich helpu i ysgogi syniadau ac yn darparu arweiniad ar sut y gall busnesau roi profiad bythgofiadwy o Lwybr Arfordir Cymru i’w cwsmeriaid newydd a phresennol.

Pecyn Cymorth Busnes

Lawrlwythwch eich pecyn cymorth busnes (PDF 5.8MB) ac arbedwch y ddogfen i'ch dyfais. Lawrlwythwch Acrobat Reader i'w weld

Os yw eich busnes ar Lwybr Cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr, gallwch hefyd lawrlwytho pecyn offer busnes Llwybrau Cenedlaethol Cymru (PDF 4.6KB). Yn seiliedig ar yr un syniad â'n syniad ni, mae'n rhoi syniadau gwych i fusnesau ar hyd y llwybrau hyn hyrwyddo eu busnesau i gynulleidfa ehangach.

Logo cyfeirbwyntiau Croeseo i Gerddwyr 

Lawrlwythwch ein logo cyfeirbwyntiau Croeseo i Gerddwyr (jpeg, 1.2mb) ar gyfer eich gwefan neu'ch deunydd marchnata i roi croeso cynnes Cymreig i’r llwybr i'ch cwsmeriaid. Mae ein logo cragen wen ‘cynffon y ddraig’ i’w weld ar bob un o arwyddion y llwybr fel y gall eich ymwelwyr ei adnabod ar unwaith wrth grwydro.

Poster hysbysebu

Mae wedi'i gynllunio i wneud eich gwesteion yn ymwybodol o'r cyfleoedd cerdded gwych ar hyd yr arfordir yma yng Nghymru.  Argraffwch ac arddangoswch y poster hwn yn amlwg o amgylch eich adeilad. Lawrlwythwch y poster fel feil pdf

E-Gylchlythyr (enghraifft wedi'i chwblhau)

Gofalwch fod eich cwsmeriaid yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eich busnes ar y llwybr drwy e-gylchlythyr. Dyma enghraifft o e-gylchlythyr wedi’i lenwi (pdf) gyda sawl syniad diddorol a llawer o eitemau newyddion a all ymddangos ochr yn ochr â’ch cynigion diweddaraf. Gallwch ei addasu i gyd-fynd â’ch anghenion busnes.

Delweddau

Mae ein holl luniau swyddogol ar borth delweddau Croeso Cymru. Unwaith y byddwch wedi cofrestru am ddim, mae mwy na 700 o ddelweddau trawiadol o’r llwybr a’r ardaloedd cyfagos ar gael i’w lawrlwytho. Gallwch eu defnyddio ar eich gwefan, eich sianeli cyfryngau cymdeithasol a’ch e-gylchlythyron ar gyfer cyffyrddiad proffesiynol.

Fideos

Mae gan ein sianel YouTube fideos sy’n arddangos y llwybr ar ei orau, wedi’u gosod mewn 7 rhanbarth marchnata (fel ein gwefan).
Gallwch wylio lluniau drôn ysbrydoledig yn dangos pob rhanbarth o'r llwybr ar ei orau. Mae cyfweliadau difyr a diddorol gydag amrywiaeth eang o bobl sy'n caru'r llwybr, o'r fideo Bluetits Chill Swimmers yn Sir Benfro i fideo amdan berchennog caffi ar y llwybr ger Casnewydd

Mae croeso ichi ddefnyddio’r rhain ar gyfer eich gwefan a’ch sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gweithio gyda ni

Gobeithio y byddwch yn canfod ein pecyn cymorth marchnata yn ddefnyddiol a’i fod yn cynnwys llawer o awgrymiadau syml ar sut i helpu i hyrwyddo eich busnes ar un o ychydig lwybrau cerdded arfordirol y byd.

Gallwch hefyd ddarllen ein canllawiau brandio i gael rhagor o fanylion am ein harddull brandio gweledol. Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau am y pecyn cymorth marchnata neu os oes gennych syniadau ynglŷn â sut i gydweithio â ni. 

 

EU logo

Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol (CYTRh) sy’n derbyn cefnogaeth gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaeth Cymru ar gyfer Datblygiad Gwledig (CACagDG)  a Chronfa Llywodraeth Cymru er mwyn gwella profiad ymwelwyr a chreu cyrchfanau cryfach drwy gydweithio.

 

 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig