Pierau a Phromenadau

Pierau a Phromenadau: canfod eich gwanwyn yn y gaeaf

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ar yr olwg gyntaf, nid yr hydref a’r gaeaf yw’r tymhorau mwyaf deniadol ar gyfer mynd am dro: ond o ganfod y llwybr iawn, cewch fodd trechu’r diwrnod diflasaf, ac ymhyfrydu yn eich clwt eich hun o awyr las.

Pan fo arnom awydd gaeafgysgu, mae’n hawdd aros mewn lle cynnes, braf. ’Dyw mynd am dro hir ar draws caeau agored ac ar hyd brigau clogwyni ddim yn apelio llawer at y mwyafrif. Dychmygwch, fodd bynnag, pe gallech chi gerdded taith sy’n fwy o dro hamddenol? Un y gellid ei mwynhau ar agos unrhyw dywydd? Lle gall y teulu oll anturio allan? Efallai fod gan Lwybr Arfordir Cymru'r union beth ar eich cyfer, ar hyd ei bierau a’i bromenadau.

Yn ymestyn ar hyd 870 milltir o’r glannau, mae Llwybr Arfordir Cymru’n cynnwys agos pob math o dirwedd y gall cefn gwlad yr ynys hon ei chynnig. Ar y pierau a’r promenadau, cewch gyfle perffaith i fynd am dro llai na chwbl heriol yn y gaeaf, ac un sydd â mynediad rhwydd i bawb.

Gwisgwch ddillad cynnes, hetiau a sgarffiau, ac allan â chi. Os yw’n wlyb, gwisgwch welintons a chôt law. ’Does angen y gêr drytaf: dim ond rywbeth wnaiff eich diddosi cymaint ag y bo modd.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths: “Gall mynd arall am dro yn y gaeaf fywiogi a llonni rhywun, ac yn fy marn i ’does unlle gwell nag arfordir anhygoel Cymru. Mae Llwybr Arfordir Cymru’n cynnwys rhai teithiau cerdded rhyfeddol, sy’n addas ar gyfer cerddwyr o bob oed a gallu. Llwybrau sy’n cynnwys trefi glan môr prydferth a mannau lle mae dinasoedd yn cyrraedd y môr. Yn wir, mae yna rywbeth ar gyfer pawb.”

Dyma rai o’n hoff droeon ni yn y gaeaf:

Glannau’r Gogledd

Mae rhywbeth rhyfedd o ddeniadol am drefi glan môr yn y gaeaf. Mae’r lle’n ddistaw, braf wedi i’r torfeydd adael am y tymor, a ’does fawr neb yno ond gwylanod. Yn rhywle mae yn gaffi’n cynnig cyfle i ymgynhesu cyn mentro allan unwaith eto, am dro iachusol ymhell uwchlaw’r tonnau ar hyd pier hwyaf Cymru yn Llandudno, efallai.

Promenâd a phier Biwmares

“Riviera Môn”, yn ôl rhai, mae tref glan môr dlos Biwmares yn werth ymweliad. Mae’r pier yn gynnig golygfeydd da o’r dref a’i chymysgedd bensaernïol anarferol, a draw tua’r tir mawr. Un o’r lleoedd gorau yn y cyffiniau am ddal crancod, yn ôl pob sôn, er efallai y byddai’n well rhoi cynnig ar hynny yn yr haf.

Pier Bangor

 chiosgau to siâp nionyn a gwaith haearn cain, bernir bod pier ail hwyaf Cymru’n un o’r goreuon sy’n weddill yn y Deyrnas Unedig. Mae ei lleoliad ar gyrion bryniau trawiadol Eryri’n ei wneud yn dlysach fyth. Lle gwych ar gyfer gwylio adar, felly ewch a’ch binociwlars, neu mwynhewch dro hamddenol at y caffi yn y pen draw, lle gallwch fwynhau paned a chacen uwchlaw llifeiriant dyfroedd Menai.

Glan môr Aberystwyth

Ewch am dro hyd lan môr Aberystwyth pan fo’r haul yn machlud, a chewch weld miloedd o ddrudwyod yn dychwelyd i’w clwydfan o dan y pier. Gwyliwch gampau heidiau ohonynt wrth iddynt droi a chwyrlïo drwy’r awyr fel un.

Dinbych y pysgod

Mae’r môr yn cofloedio’r dref glan môr Fictoraidd dlos hon, ac y mae’n lle gwych i ymweld ag ef y tu allan i’r tymor. O’r ffordd uwchlaw’r traeth gogleddol gallwch weld draw dros yr harbwr ac allan tua’r môr. Ewch oddi ar y ffordd, ac am dro ar hyd Traeth y De, cyn dychwelyd tua’r dref am bryd o bysgod a sglodion. (Gwybodaeth ar gael yn: Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro)

Parc Arfordirol y Mileniwm

 golygfeydd dros aber Llwchwr a thua Phenrhyn Gŵyr, mae’r promenâd cyfoes iawn hwn yn cynnig ffordd ddelfrydol ar gyfer diwrnod allan gyda’r teulu. Cerddwch, neu ewch i feicio, a dechreuwch chwilota. (Gwybodaeth ar gael yn: Darganfod Sir Gaerffyddin)

Y Mwmbwls

Cerddwch ar hyd promenâd enwog Bae Abertawe (lle bu rheilffordd deithwyr gyntaf y byd) gyda golygfeydd ar draws y bae at Ben y Mwmbwls. O gyrraedd y Mwmbwls, mae’n werth ymweld â’r orsaf bad achub, lle cewch wybod am ran hanfodol ac arwrol yr RNLI yn achub bywydau rhag y môr.

Porthcawl, Penarth a Bae Caerdydd

Detholiad o lwybrau cerdded glan môr gwahanol iawn. Mae glan môr Porthcawl yn hwyl gydol y flwyddyn, ac yn lle delfrydol ar gyfer gwylio syrffwyr. Os ydych yn y ddinas, ewch i weld Morglawdd Bae Caerdydd, sy’n cysylltu Bae Caerdydd bywiog â Phenarth, lle mae’r pier yn ychwanegu blas glan môr traddodiadol ar eich taith. Ar y ffordd, cewch ddigon o leoedd i aros a gwylio’r byd yn mynd heibio, neu ymgynhesu â diod boeth. Mae Pier Penarth yn dro braf, gyda golygfeydd hyfryd: ac y mae’r Pafiliwn, sydd newydd ei adfer, yn lle braf ymochel ynddo (mae yna sinema, hyd yn oed) os â’n dywydd garw. (Gwybodaeth yn Pafiliwn Penarth)

Â’r gwynt yn eich gwallt ac awyr hallt y môr yn eich ysgyfaint, mae mynd am dro yn y gaeaf yn eich gadael chi’n flinedig ond yn fodlon cyn i chi ddychwelyd at yr aelwyd. Cewch gysgu’n sownd, a deffro cyn iached â brithyll, ac yn barod am antur arall. Am ffordd i dreulio’r gaeaf!

 

Tudalennau eraill yn yr adran Cerdded