Marchogaeth

Mae rhannau o'r llwybr yn addas ac mae ganddyn nhw gyfleusterau ar gyfer marchogion

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae arfordir a chefn gwlad Cymru’n edrych yn arbennig o hardd o gefn ceffyl. Cewch farchogaeth yn hamddenol ar lwybrau ceffylau neu garlamu fel y gwynt ar hyd traeth eang, gwag. Ceir nifer o ganolfannau marchogaeth a merlota ger yr arfordir sy’n addas ar gyfer pobl o bob oed a gallu.

Er mwyn sicrhau profiad diogel a phleserus, mae Cymdeithas Geffylau Prydain wedi cyhoeddi dogfen o’r enw Advice on Riding on Beaches and Estuaries ar eu gwefan

Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy

Mae Traeth Talacre bron yn 5 milltir o hyd ac mae’n lle diogel i farchogaeth. Mae traeth Penmaenmawr yn ardal Conwy’n lle gwych i farchogaeth ac mae lle i farchogaeth ac i barcio faniau ceffylau ar draeth Morfa Conwy.

Ynys Môn

Holwch Ganolfan Farchogaeth Tan y Foel yn ne-orllewin Ynys Môn ger Coedwig Niwbwrch am gyfleoedd i farchogaeth ar y traeth.

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Mae digonedd o fannau addas yng Ngwynedd am deithiau egnïol yng nghanol golygfeydd syfrdanol Eryri. O Ben Cilan yn Llŷn, cewch fwynhau golygfeydd panoramig o Borth Neigwl, Ynys Enlli a Bae Ceredigion. 

Ceredigion

Yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog, ceir canolfan geffylau gydag ysgol farchogaeth dan do ar dywod silicon. Ceir yno oriel wylio a llwybr awyr agored dwy filltir o hyd. Neu gallwch grwydro’r ardal ar gefn ceffyl drwy drefnu gwyliau merlota gyda’r ganolfan.

Sir Gaerfyrddin

Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi pennu ardaloedd marchogaeth yng Nghoedwig Pen-bre, ger Llwybr Arfordir Cymru. Mae Ragwen Point, i’r gorllewin o Bentywyn yn lle arall poblogaidd.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Ym Mhenrhyn Gŵyr, y tu draw i Abertawe, mae modd cyrraedd bron bob traeth ar lwybr ceffylau, gan gynnwys traethau Bae Caswell a Bae Abertawe.  Mae Pennard a Chefn Bryn yn llefydd poblogaidd i fynd ar gefn ceffyl.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Mae llawer o bobl yn breuddwydio am farchogaeth ar draeth eang, gwag. Daw’r freuddwyd yn wir bob dydd i ymwelwyr agOgmore Farm ar yr Arfordir Treftadaeth. Ym Mhen-y-bont, mae llwybrau ceffylau Cynffig yn boblogaidd iawn. Ceir llwybr ceffylau ger y twyni tywod ac oddi yno gallwch fynd i ganolfan ymwelwyr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig ac yn ôl ar hyd ffordd arall.

Gellir mynd ar gefn ceffyl ar ran o lwybr yr arfordir o Blackrock i Sudbrook ac ar ffyrdd bach ger Gwndy yn Sir Fynwy. Mae’r Severnvale Equestrian Centre (link to ) yn Tidenham, Cas-gwent, a’r David Broome Event Centre yng Nghrug, Cas-gwent wedi ennill enw da fel canolfannau marchogaeth.