Codau QR History Points

Hanes ar eich ffôn wrth droedio Llwybr Arfordir Cymru!

Wrth i chi ddilyn Llwybr Arfordir Cymru, chwiliwch am godau QR Mannau Hanesyddol mewn lleoedd o ddiddordeb.

Sganiwch y codau gyda’ch ffôn clyfar i gael hanes cryno o’r gwrthrych neu’r lle. Yna gallwch ddewis botwm llywio i weld ble mae’r codau QR nesaf, yn y cyfeiriad rydych yn teithio ynddo.

Credir mai’r daith hon, a sefydlwyd yn 2012, yw’r daith QR gyntaf o’i bath yn y byd ar lwybr pellter hir. Gallwch glywed hyd yn oed am darddiad enwau lleoedd yng Nghymru.

Caiff y codau QR eu cynhyrchu gan HistoryPoints.org – y prosiect gwybodaeth gymunedol. Maen nhw i’w cael mewn tua 600 lleoliad ar hyd y llwybr – o Queensferry yn y gogledd ar y ffin hyd at Gas-gwent yn y de.

Mae mwy ohonynt yn ymddangos drwy’r adeg, diolch i gymorth gwirfoddolwyr, busnesau lleol, cynghorau ac eraill. Gallwch hefyd archwilio’r daith gyfan, fesul sir, ar eich cyfrifiadur – efallai y bydd yn eich helpu i ddewis pa ran o’r llwybr i’w droedio.

Archwiliwch yr holl Fannau Hanesyddol ar Lwybr Arfodir Cymru

(Awgrym da – cliciwch ar y ddolen, dewiswch Llwybr Arfordir Cymru ar ochr chwith eich sgrîn.  Yma gallwch ddarllen gwybodaeth ddiddorol am bod safle QR a byddwch yn gallu gweld lle mae ar y llwybr ar y map sydd ar y wefan)

Mae’r lleoedd dan sylw yn cynnwys y canlynol:

  • Pont y Borth a Phont Gludo Casnewydd a Phont y Bermo
  • Yr Eglwys Norwyaidd lle cafodd Roald Dahl ei fedyddio
  • Tŷ lleiaf Prydain – a’r eglwys leiaf
  • Safle goresgyniad olaf Prydain yn ôl yn 1797
  • Man claddu hynaf Prydain, ar Benrhyn Gwyr
  • Y bae diarffordd lle glaniodd Hari Tudur ar ôl cael ei alltudio cyn Brwydr Bosworth
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.