Cestyll, Capeli ac Eglwysi

Mae Cymru’n enwog am gestyll rif y gwlith, ond nid dyma’r unig enghraifft o dreftadaeth gyfoethog y wlad. Mae yma hefyd eglwysi a chapeli hynafol di-ri, oll yn disgwyl i chi eu darganfod a’u gwerthfawrogi

A does byth angen teithio’n bell i ddarganfod esiampl arbennig. Mae nifer o’r adeiladau hynafol i’w cael ar y Llwybr ei hun, a gallwch eu gwerthfawrogi ar lwybrau fydd yn ymestyn y dychymyg yn ogystal â’r coesau.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Croeso Cymru wedi bod yn cydweithio â’n partneriaid er mwyn sicrhau eich bod chi’n gallu cerdded rhai o lwybrau gorau Cymru ar gyfer Cestyll, Capeli, ac Eglwysi pan fyddwch chi’n ymweld.

Mae’r llwybrau yma i’w cael mewn sawl rhanbarth gwahanol, ac ar sawl adran wahanol o Lwybr yr  Arfordir. A gyda’r llwybrau’n amrywio o’r hirfaith a’r heriol i’r rhai ysgafn ar gyfer y teulu oll, bydd rhywbeth at ddant pawb. Gallwch ddysgu mwy am lwybrau’r Cestyll, Capeli, ac Eglwysi ar wefan View Ranger.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.