Beicio ar yr arfordir y Gogledd Cymru

Yma cewch wybodaeth am y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n addas i feicwyr ar hyd Arfordir y Gogledd ac yn ardal aber Afon Dyfrdwy

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Am ran helaeth o’r ffordd o Gaer i Fangor, mae modd beicio ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gan ei fod yn rhannu llwybr â’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mewn mannau lle mae’n amhosibl beicio ar y Llwybr ei hun, gall beicwyr deithio ar hyd llwybrau eraill. Mae arwyddion i’w cael ar gyfer y llwybrau eraill yma, lle caiff logo’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ei arddangos yn hytrach na logo Llwybr Arfordir Cymru. Ceir manylion am y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n addas i feicwyr ar hyd arfordir y Gogledd yn y fan yma.

Llwybr Afon Dyfrdwy: Caer – Cei Connah:

Dyma lwybr gwastad a phoblogaidd ar hyd Afon Dyfrdwy, rhwng Caer ar yr ochr arall i’r ffin (man cychwyn swyddogol Llwybr Arfordir Cymru) a glan yr afon yng Ngwepre, Cei Connah. Ac eithrio ambell lecyn bach rhwng Queensferry a Chei Connah, mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhannu’r un llwybr.

Pellter: 6.5 milltir / 10 cilometr

Rhif Llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: 89 a 5

Tir: Gwastad, dim traffig, llwybr tarmac i gyd.

Taflenni a Mapiau: Sustrans Dwyrain Sir y Fflint

Mae rhagor o wybodaeth ar gael amdan taith becio Caer i Cei Connah ar y wefan Cycling North Wales.

Llwybr Beicio Arfordir Gogledd Cymru

Prestatyn – Llandudno (Glan y Gogledd)

Llandudno (Glan y Gorllewin) – Llanfairfechan

Ar gyfer llwybrau beicio sy’n cysylltu’r ddwy ran yma gyda’i gilydd, gweler ar y dolenni cyswllt Sustrans i Sir Ddinbych a Bwrdeistref Sirol Conwy. 

Ar y cyfan mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhannu’r un llwybr ar draws Sir Ddinbych a Chonwy, gan gysylltu prif drefi gogledd Cymru (Prestatyn, Y Rhyl, Bae Colwyn a Llandudno) a thref gaerog Conwy. Fodd bynnag, mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn dilyn trywydd gwahanol mewn ambell fan. Lle digwydd hyn, dylai beicwyr ddilyn logo’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn hytrach na logo Llwybr Arfordir Cymru. Dyma lwybr poblogaidd iawn, gyda golygfeydd godidog tua’r môr, ar hyd yr arfordir a thua’r tir i gyfeiriad Bryniau Clwyd, Dyffryn Clwyd a llethrau gogleddol Parc Cenedlaethol Eryri.

Pellter:

  • Prestatyn – Llandudno:16 milltir / 26 cilometr
  • Llandudno – Llanfairfechan:12 milltir / 19 cilometr

Rhif Llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: 5

Tir: Tarmac; gwastad yn bennaf, ac eithrio ambell lethr serth a byr lle gellir gwthio’r beiciau. Dim traffig o gwbl, ac eithrio rhannau byr iawn ar ffyrdd, lle gellir gwthio’r beiciau ar y palmentydd.

Taflenni a Mapiau:

Mae rhagor o wybodaeth ar gael amdan Llwybr Beicio Arfordir Gogledd Cymru ar y wefan Cycling North Wales.

Lôn Las Menai: Y Felinheli – Caernarfon

Ar wely trac yr hen reilffordd rhwng Bangor a Chaernarfon (a gaewyd i deithwyr yn 1970) y mae’r rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru yn bennaf. Mae’n dilyn Y Fenai, ac o’r herwydd ceir golygfeydd godidog o Ynys Môn. Mae’n rhan fechan o Lôn Las Cymru, sef y llwybr beicio cenedlaethol 261 milltir/420 cilometr o hyd rhwng Caergybi a Chaerdydd.

Pellter: 4 milltir

Rhif y Llwybr Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: 8

Tir: Gwastad, dim traffig, llwybr tarmac i gyd, ac eithrio ambell lecyn bach sydd ar y ffordd er mwyn mynd i ganol trefi.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael amdan taith beicio o Felinheli i Caernarfon ar y wefan Cycling North Wales.