Beicio ar hyd Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Yma cewch wybodaeth am y rhannau o Lwybr Arfordir Cymru sy’n addas i feicwyr yn ardaloedd Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Parc Arfordirol y Mileniwm: Cydweli – Bynea: 18 milltir / 29 cilometr

Mae’r rhan yma o Lwybr Arfordir Cymru yn rhedeg o dref gastell Cydweli trwy Goedwig a Pharc Gwledig Pen-bre ac i Barc Arfordirol y Mileniwm, lle ceir golygfeydd gwych o aber Afon Llwchwr a Gŵyr. Mae’r Ganolfan Ddarganfod a Chanolfan Gwlyptiroedd Genedlaethol Cymru o fewn tafliad carreg.

Rhif Llwybr y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol: 4 – Y Lôn Geltaidd

Tir: Gwastad ar gymysgedd o lwybrau tarmac a llwybrau graean.

Taflenni a Mapiau i’w Llwytho i Lawr: Sustrans: Parc Arfordirol y Mileniwm

Llwybr Beicio Abertawe: Y Mwmbwls – Marina Abertawe

Yma mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Lôn Geltaidd yn cyfarfod wrth iddyn nhw ddilyn y promenâd o amgylch ardal ysblennydd Bae Abertawe. Mae’r tir yn wastad ac mae digon o luniaeth ar gael, gan wneud y rhan yma o’r Llwybr yn brysur iawn.

Distance: 6 miles / 9.5 kilometres

Rhif Llwybr y Rhwydwaith Beidio Cenedlaethol: 4  Y Lôn Geltaidd

Tir: Gwastad, dim traffig, llwybr tarmac i gyd.

Gwybodaeth Bellach: Sustrans