Ap Llwybr Arfordir Cymru

Gwella’ch profiad ar y llwybr gyda’n ap

Rhannwch dudalen yr ap â’ch ffrindiau a’ch teulu
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae ap Llwybr Arfordir Cymru yn caniatáu ichi ddysgu mwy am y llwybr a nawr mae’n olrhain eich taith.

Yn isod, gwyliwch ein cyflwyniad i weld sut gallwch olrhain eich cynnydd.

Yn isod, gwyliwch ragflas o’r profiad digidol. 

Gair am yr ap

Mae hwn yn ap sy’n seiliedig ar fap i’w ddefnyddio ar ddyfeisiadau clyfar fel eich ffôn neu lechen ac mae’n dangos eich lleoliad ar y llwybr ac yn eich helpu i gynllunio i ble i fynd a dilyn y llwybr. Bydd yr ap yn gwella eich profiad ar y llwybr gyda’r ddwy swyddogaeth arbennig hyn:

Olrhain eich cynnydd – gallwch recordio a chadw eich teithiau cerdded ac olrhain faint o’r llwybr ydych chi wedi’i gwblhau,

Profiad digidol unigryw y bydd y rhai sy’n cerdded y llwybr yn unig yn ei gael fel arfer.

Olrhain eich cynnydd

Beth bynnach fyddwch yn ei wneud, cerdded un filltir neu’r 870 milltir i gyd, bydd ein ap yn dangos i chi ym mhle’n union ydych chi ar y llwybr. 

Mae’r swyddogaeth olrhain neu dracio yn ardderchog ar gyfer:

  • Eich cadw ar y llwybr cywir – bydd yn dangos i chi ble ydych chi ar y llwybr a’r cyfeiriad i’w ddilyn
  • Cofnodi a chadw eich teithiau yn yr ap
  • Olrhain eich cynnydd ar bob rhan o’r llwybr ac yn gyffredinol.
  • Awgrymu teithiau cerdded yn yr ardal – os ydych eisiau crwydro ymhellach.
  • Darganfod mannau o ddiddordeb ar y map i wneud y mwyaf o’ch amser ar y llwybr.

Profiad digidol unigryw

Mae ‘na lawer o ffeithiau hwyliog a difyr ar yr ap, nodweddion y llwybr a’r ardaloedd o’i gwmpas. Mae’r rhain yn gysylltiedig â llên gwerin a hanes lleol Cymreig a bywyd gwyllt unigryw yr arfordir – yr holl bethau y byddwch yn eu canfod wrth ymweld â’r llwybr.

Rydym wedi creu 7 Taith Deulu gyda Gwahaniaeth. Pwrpas y rhain yw annog teuluoedd i ymweld â’r llwybr gan ddefnyddio ein ap er mwyn cael profiad digidol unigryw yn y lleoliadau canlynol:

1. Y Gogarth ger caffi Rest and be Thankful yn Sir Conwy,
2. Tref Porthaethwy ar Rodfa’r Belgiaid, Ynys Môn,
3. Borth y Gest, ger y maes parcio yn y pentref ym Mhenrhyn Llŷn,
4. Tref Ceinewydd ar y grîn ger y cerflun hanner ffordd swyddogol yng Ngheredigion,
5. Traeth Saundersfoot yn Sir Benfro,
6. Traeth Pentywyn ger maes parcio’r traeth yn Sir Gaerfyrddin,
7. Morglawdd Caerdydd ger mainc crocodeil enwog Roald Dahl ym Mae Caerdydd.

Unwaith y byddwch wedi lawrlwytho’r ap a’i agor ar eich dyfais pwyntiwch hi i gyfeiriad y bwrdd gwybodaeth i ddatgloi’r nodweddion arbennig yn yr ap. Mae hyn yn actifadu gêm, nodwedd realiti estynedig neu fideo 3D sy’n adrodd stori am y rhan honno o’r llwybr i chi mewn ffordd hwyliog a gwahanol.

Lawrlwytho’r ap

Chwiliwch am “Llwybr Arfordir Cymru” ar ddyfeisiau iOS ac Android.

Lawrlwythwch o’r Apple App Store (dyfeisiau iOS)

Lawrlwythwch o’r Google Play Store (Android)

Rydym yn argymell lawrlwytho’r ap cyn i chi ymweld â’r byrddau gwybodaeth i gael profiad di-dor.