Eglwys St Tanwg, Pen Llŷn

Mae'r daith gerdded dawel hon trwy'r warchodfa natur yn berffaith i bobl sy'n hoff o fyd natur

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a gorffen

Maes parcio Traeth Harlech i Lanbedr trwy Llandanwg

Pellter

4 milltir neu 7 km un ffordd

Ar hyd y ffordd

Gan ddechrau o faes parcio'r traeth, cerddwch tuag at y môr trwy Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech. Mae'n un o'r systemau twyni pwysicaf yn y wlad ac yn hafan i blanhigion ac anifeiliaid.

Yn y gwanwyn a'r haf, efallai y byddwch chi'n gweld penigau’r forwyn lliwgar neu degeirianau’r wenynen prin, ynghyd â chwtiaid torchog, ehedyddion a chlochdariaid y cerrig yn nythu, tra bod yr hydref yn dod ag amrywiaeth o ffyngau anarferol ac adar rhydiol fel y bioden fôr, pibydd y mawn a phibydd y tywod.

Mae'r daith yn parhau i'r de ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gan ddringo i fyny dros gledrau’r rheilffordd i lwybr troellog o'r enw’r Zig Zags (gyda golygfeydd gwych o'r bae ar y copa) cyn disgyn i mewn i Landanwg.

Ar ôl i chi ymweld â'r eglwys, mae'r llwybr yn parhau trwy gaeau ac ar hyd y clawdd llifogydd sy'n ffinio ag Afon Artro, gan gynnig golygfeydd hyfryd ar draws y fflatiau llaid a'r aber allan tuag at Fochras, un o feysydd gwersylla mwyaf Ewrop, wedi'i amgylchynu gan dwyni tywod, i'r gorllewin o Lanbedr .

Ar ôl Gorsaf Pensarn, mae'r llwybr yn dilyn y ffordd am bellter byr cyn eich arwain trwy gaeau, dros y bont droed ac ymlaen i'r maes parcio yn Llanbedr.

O'r fan hon, gallwch droi i'r chwith i ymweld â'r pentref, troi i'r dde i ddal y trên yn ôl i Harlech neu fynd yn ôl i ddechrau'r daith.

Man Treftadaeth Cysegredig

Yn swatio yng nghanol y twyni ychydig fetrau o'r môr, mae eglwys Sant Tanwg wedi'i gwau i'r dirwedd arfordirol. Ers ei sefydlu yn y bumed ganrif, mae wedi cael ei chloddio’n aml o'r tywod sy'n bygwth ei chladdu, tra bod y tonnau i'w clywed o du mewn yr adeilad cerrig ar hyd yn oed y diwrnod tawelaf.

Er gwaethaf ei maint bach (dim ond 57 troedfedd neu 17.4 metr wrth 23 troedfedd neu 7 metr) mae'n llawn nodweddion hynod ddiddorol sy'n adlewyrchu gwahanol gyfnodau yn ei hanes hir.

Y tu mewn fe welwch gerrig arysgrifedig sy'n dyddio'n ôl i'r bumed ganrif, carreg biler 8 troedfedd neu 0.3 metr wrth yr allor - y credir iddi wneud ei ffordd yma o Fryniau Wicklow yn Iwerddon - a chorff yr eglwys o'r drydedd ganrif ar ddeg a chroglen dderw o'r bymthegfed ganrif. Yn y fynwent gallwch hefyd weld bedd y bardd o Gymro, Sion Phillips (cyfoeswr Shakespeare) a foddodd wrth groesi o Fochras i Landanwg ym 1620.

Wedi'i adael yn wag ym 1840 pan adeiladwyd eglwys blwyf newydd yn Harlech, mae eglwys Sant Tanwg yn yn dal i gael ei defnyddio gyda chefnogaeth leol gref ac yn arddel egni ysbrydol pwerus.

Darganfyddwch fwy am eglwys St Tanwg

Uchafbwyntiau'r daith

Mae Rhys Gwyn Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru yn dweud, “Mae'r daith hon yn wledd i bobl sy'n hoff o fyd natur. Cadwch lygad am ystod eang o flodau gwyllt, pryfed, adar a madfallod ymhlith twyni Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech ac mae'n bosib y gwelwch chi elyrch, adar y môr ac ambell forlo ar hyd afon ac aber Artro."

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae yna doiledau cyhoeddus yn y maes parcio ar ddechrau'r daith ac fe welwch ddigon o dafarndai, caffis a siopau yn Harlech a Llanbedr. Mae dau ben y daith wedi'u cysylltu â gwasanaethau trên rheolaidd sydd hefyd yn galw yn Llandanwg a Phensarn (perffaith pe bai'n well gennych fynd am dro byrrach).

Taflen Teithio a Map

Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen cerdded y gellir ei hargraffu a'r map llwybr i fynd gyda chi ar eich taith gerdded.

Cydnabyddiaethau

  • Datblygwyd y daith hon mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ewch i'w gwefan www.explorechurches.org/cymru i ddarganfod mwy gan gynnwys teithiau a phrofiadau y gellir eu harchebu.
  • Diolch yn fawr i Molly Lovatt (Cyfoeth Naturiol Cymru) am helpu ar y daith hon.