Eglwys St Hywyn, Pen Llŷn

Taith gerdded hir, sy'n hawdd ei gwneud yn daith gerdded fyrrach gyda golygfeydd ysgubol dros y clogwyni garw ar drwyn Pen Llŷn

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Mynydd Mawr i Aberdaron

Pellter

Mynydd Mawr i Aberdaron 4.5 milltir neu 7 km un ffordd
Opsiwn llwybr byrrach: Porth Meudwy i Aberdaron 1.5 milltir neu 2.5 km un ffordd. Mae maes parcio bach yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhorth Meudwy.

Ar hyd y ffordd

Dechreuwch eich taith ar gopa Mynydd Mawr sy’n berchen i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn gartref i rai o olygfeydd gorau Pen Llŷn. Edrychwch ar draws y tonnau i weld gwawr emrallt Ynys Enlli, Ynys yr Ugain Mil o Seintiau. Ar ddiwrnod clir, gallwch hyd yn oed weld copaon Mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon yr ochr arall i Fôr Iwerddon.

Edrychwch i'r gogledd ac fe welwch arfordir garw Pen Llŷn, yn frith o gopaon bach, ac i'r de tuag at Aberdaron mae traeth Porth Neigwl, sy'n ymestyn dros bum milltir.

O Fynydd Mawr, dilynwch lwybr yr arfordir o amgylch trwyn Pen Llŷn trwy rannau o'r dirwedd arfordirol fwyaf anghysbell a chyffrous sydd gan Ben Llŷn i'w cynnig. Fe welwch lu o gilfachau môr cudd yn llawn adar y môr; gallwch gerdded ar hyd clogwyni serth Parwyd a dringo'r 303 troedfedd neu 92 metr i Ben y Cil i weld golygfeydd eang a syfrdanol o fae Aberdaron.

Ewch ymlaen ar hyd yr arfordir i borthladd pysgota tlws Porth Meudwy (dewis arall gwych fel man cychwyn os yw'n well gennych fynd am daith fyrrach) ac ymlaen heibio Porth Simdde i Aberdaron ac eglwys Sant Hywyn sy’n edrych dros y bae, cyn dilyn eich camau yn ôl i ddechrau’r daith gerdded.

Man Treftadaeth Cysegredig

Wedi'i sefydlu yn 516 OC gan y sant yr enwir yr eglwys ar ei ôl, mae eglwys Sant Hywyn yn rhan hanfodol o dirwedd ysbrydol Pen Llŷn gyda chysylltiadau dwfn ag Ynys Enlli sanctaidd (adeiladodd Cadfan, cefnder Hywyn, y fynachlog yno).

Codwyd yr eglwys gerrig sy'n sefyll hyd heddiw, ychydig fetrau o'r lan, yn yr unfed ganrif ar ddeg. Roedd yn fan gorffwys olaf i bererinion ar eu ffordd i Enlli, cyn iddynt deithio cymal olaf peryglus eu taith dros ddyfroedd tymhestlog Swnt Enlli i'r ynys.

Y tu mewn, mae'r eglwys yn eang ac llawn gofod, gyda golau yn adlewyrchu oddi ar y môr i oleuo to pren rhyfeddol o'r unfed ganrif ar bymtheg. Fe welwch hefyd gerrig beddi Henuriaid Rhufeinig a ddaeth â Christnogaeth i'r rhan anghysbell hon o Gymru.

Yn dyddio'n ôl i'r chweched ganrif, mae'n bosib bod y cofebion hynafol hyn yn hŷn na’r fynachlog ar Ynys Enlli. Yn fwy diweddar, Sant Hywyn oedd plwyf olaf y diweddar ysgrifennwr ac offeiriad RS Thomas, un o feirdd mwyaf Cymru yn yr iaith Saesneg.

Darganfyddwch fwy am eglwys Sant Hywyn 

Uchafbwyntiau'r daith

Dywed Rhys Gwyn Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, “mae dechrau’r haf yn amser anhygoel i’r blodau gwyllt ar hyd y darn hwn o’r arfordir; mae clustog Fair, y cor-rosyn, serennyn y môr, y gludlys a llawer mwy yn creu arddangosfa wirioneddol wych.”

Angen gwybod

Mae yna lefydd parcio ym Mynydd Mawr, Porth Meudwy ac Aberdaron. Mae yna hefyd yr opsiwn o ddefnyddio gwefan Bws Arfordir Llŷn i gael manylion. Fe welwch doiledau cyhoeddus, siopau, caffis a thafarndai yn Aberdaron.

Taflen Teithio a Map

Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen cerdded y gellir ei hargraffu a'r map llwybr i fynd gyda chi ar eich taith gerdded.

Cydnabyddiaethau

  • Datblygwyd y daith hon mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ewch i'w gwefan www.explorechurches.org/cymru i ddarganfod mwy gan gynnwys teithiau a phrofiadau y gellir eu harchebu.
  • Diolch yn fawr i Molly Lovatt (Cyfoeth Naturiol Cymru) am helpu ar y daith hon.