Y Parlwr Du

Taith gerdded wastad a hawdd o Dalacre sy’n arwain o amgylch y Parlwr Du ac yn edrych dros warchodfa natur sy'n boblogaidd gyda gwylwyr adar

Paddy Dillon

Nodwch y dudalen hon
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Taith gerdded wastad a hamddenol o Dalacre sy'n eich arwain o amgylch y Parlwr Du ac yn edrych dros warchodfa natur nodedig, sy'n boblogaidd gyda gwylwyr adar. Archwilir safle hen Lofa'r Parlwr Du yn ystod y daith, ble byddai glo yn cael ei gloddio yn ddwfn o dan wely'r môr ac yn cael ei lwytho ar longau. Mae’r llwybr yn cynnwys hen ddarn o Lwybr Arfordir Cymru a’r llwybr newydd a gymerodd ei le, sy’n cynnwys cerfluniau a gwaith celf.

Manylion y llwybr

Pellter: 2.6 milltir neu 4.2 cilomedr
Man cychwyn: Pen ffordd Traeth Talacre
Cyfeirnod grid y man cychwyn: SJ 12457 84841
Disgrifiad what3words y man cychwyn: cynilodd.trydanol.adnewyddu

Trafnidiaeth i'r man cychwyn

Parcio
Parcio wrth ymyl y gors yn Nhalacre os yw'r rhwystr ar agor, yn ogystal â bar y Point a thafarn y Lighthouse gerllaw.

Bysiau
Mae gwasanaethau bws dyddiol yn cysylltu cyrchfan wyliau Traeth Talacre â Threffynnon, Prestatyn a'r Rhyl.

Trenau
Dim.

Map a Dolen GPX

Mae’r llwybr cylchol wedi’i ddangos mewn pinc tywyll ar y map isod. Mae’r baneri porffor yn dangos y mannau cychwyn a gorffen. Gweld y llwybr a lawrlwytho’r ddolen GPX Point of Ayr (Y Parlwr Du)

Disgrifiad Manwl o’r Llwybr

1. Os ydych yn cyrraedd ar fws, cychwynnwch o'r lloches bws sydd gyferbyn â chyrchfan wyliau Traeth Talacre a dilynwch Station Road yn syth tuag at yr arfordir. Os byddwch yn cyrraedd mewn car, gyrrwch i ben pellaf Station Road a pharciwch naill ai yn nhafarn y Lighthouse neu yn Point Bar, neu, os yw'r rhwystr sydd ar ddiwedd y ffordd ar agor, parciwch wrth ymyl y gors.

2. Mae’r daith gerdded yn cychwyn o ben y ffordd, gan ddilyn yr arwyddbost ar hyd Llwybr Arfordir Cymru i gyfeiriad Ffynnongroyw. Mae'r llwybr yn rhedeg ar hyd arglawdd glaswelltog sy'n edrych dros forfa heli eang, gan fynd heibio ychydig o feinciau picnic. Ger y fainc bicnic gyntaf ceir hysbysfwrdd sy'n rhoi sylw i hanes a bywyd gwyllt yr ardal. Hyd at 1996, byddai ychydig o lowyr lleol yn parhau i ddilyn yr arglawdd at Lofa’r Parlwr Du, ond bellach caiff ei ddefnyddio gan feicwyr, cerddwyr a gwylwyr adar. Pan gaewyd y lofa, adeiladwyd terfynell nwy. Os oes unrhyw larymau neu fflachiadau llosgi wedi'u hamserlennu ar y safle, gosodir hysbysiadau cynghori ar y llwybr.

3. Bydd y llwybr graean ar yr arglawdd yn ildio i lwybr tarmac sy’n gwyro i’r chwith, gan fynd heibio i goed bedw ifanc, drain gwynion, rhosys gwyllt a mieri sy’n gorchuddio sylfeini concrit eang yr hen lofa. Mae giât ar y chwith yn arwain at lwybr byr tuag at guddfan adar gerllaw. Mae'r guddfan yn edrych dros y corstir tuag at dafod graean y Parlwr Du, a gaiff ei ddefnyddio fel safle magu gan nythfa o fôr-wenoliaid bach. Mae'r hysbysfyrddau wrth y guddfan adar yn rhestru dwsinau o rywogaethau o adar y gellid eu harsylwi yma.

4. Wrth barhau ar hyd y llwybr tarmac, byddwch yn mynd heibio i gerflun o löwr gyda merlen pwll glo. Yn ôl y chwedl leol, byddai merlod pwll glo y Parlwr Du ond yn ymateb i orchmynion Cymraeg. Cloddiwyd am lo ar y safle am ganrif, gyda siafftiau'n ymestyn ymhell o dan wely'r môr. Y nodwedd nesaf y byddwch yn dod ar ei thraws yw hen fwi marcio, a oedd unwaith yn dynodi sianel longau yn aber afon Dyfrdwy. Mae'r hen gei concrit, lle'r arferai llongau glofaol angori, bellach wedi'i siltio'n drwm. Mae paneli metel addurniadol ar ochr y cei yn arddangos amrywiaeth o themâu, o longau a bywyd gwyllt i weithgareddau hamdden. Pan fyddwch yn cyrraedd pen y cei, bydd y llwybr yn eich arwain heibio i gerflun o olwyn pwll glo, lle ceir hysbysfwrdd sy'n rhoi sylw i Lofa’r Parlwr Du.

5. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi ffordd darmac, ac yna, yn syth bron, yn rhedeg gyferbyn â ffordd goncrit. Mae'r ffordd yn mynd o dan bont reilffordd, ond cyn cyrraedd y man hwnnw, trowch i'r dde wrth arwyddbost tair ffordd ar gyfer PentrePeryglon. Dilynwch lwybr glaswelltog gyda llwyni o bobtu iddo, sef rhan o Lwybr Arfordir Cymru yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Croeswch ddraen ac ewch yn eich blaen ar hyd llwybr graean gyda ffens bob ochr iddo sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r rheilffordd. Byddwch yn cyrraedd pont droed fetel sylweddol, ac yn croesi rhan o reilffordd sydd wedi gordyfu, a oedd unwaith yn gwasanaethu’r lofa, lle ceir golygfa uchel. Trowch i'r chwith ar hyd ffordd, gan fynd heibio rhwystrau a chylchfan er mwyn cyrraedd cyffordd â Station Road. Ychydig i'r chwith fe welwch Barc Busnes Granary Court, sydd wedi'i leoli mewn hen ysgubor gerrig. Dyma hefyd leoliad canolfan weithgareddau PentrePeryglon.

6. Croeswch Station Road a throwch i'r dde er mwyn dilyn y palmant yn ôl i Dalacre, cyn cyrraedd cyrchfan wyliau Traeth Talacre, lle mae bwyd a diod ar gael. Croeswch y ffordd i gyrraedd y lloches bws, lle mae bysiau'n troi. Os ydych yn dychwelyd at gar sydd wedi parcio, dilynwch y palmant yn eich blaen, gan basio lleoedd bwyd a diod, a thoiledau, cyn cyrraedd tafarn y Lighthouse, Point Bar a’r maes parcio ger y gors.