Pwllheli i Criccieth

Taith gerdded wastad o dref farchnad i dref castell

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Cychwyn yng nghanol tref Pwllheli a gorffen yng Nghricieth, er bod nifer o opsiynau i gwtogi'n sylweddol ar y llwybr.

Pellter

11 milltir / 18 cilometr os ydych yn cwblhau'r llwybr cyfan, ond mae opsiynau ar gyfer teithiau cerdded byrrach drwy ddal y bws i Lanystumdwy (3 milltir / 5 cilometr i ddychwelyd i Gricieth) neu fws neu drên i Benychain (8 milltir / 13 cilometr) neu Abererch (9 milltir/ 14 cilometr).

Ar hyd y ffordd

Mae'r daith gerdded hon yn dechrau yn nhref fwyaf Llŷn, sef cyrchfan prysur Pwllheli. A hithau’n dref farchnad ers dros chwe chanrif, dechreuodd y dref heddiw gael ei llunio pan gyrhaeddodd y rheilffordd yn y 1860au a phan ddatblygodd twristiaeth.

O ganol y dref awn allan heibio i Hafan Pwllheli, un o'r lleoliadau hwylio gorau yng Ngorllewin Prydain sy’n cynnig rhai o'r dyfroedd hwylio gorau yn y DU. Mae hefyd yn gartref i'r fenter gymunedol, Academi Hwylio Plas Heli.

Ymlaen i draeth Glandon, sy'n siâp cilgant ac yn filltir o hyd, ac ar ôl ychydig, mae llwybr tywodlyd ychydig y tu ôl i'r twyni yn cynnig taith gerdded haws nag ar y traeth ei hun.

Ym mhen draw’r traeth, awn i fyny'r pentir glaswelltog ym Mhenychain. Mae'n werth stopio yma i fwynhau’r golygfeydd ysblennydd. I'r dde gallwn weld yn ôl ar hyd y traeth i Bwllheli, i'r chwith mae ein cyrchfan yng Nghricieth, yn erbyn cefnlen Moel y Gest ger Porthmadog. Ar ddiwrnod clir, gellir gweld y rhan fwyaf o ehangder Bae Ceredigion o'r fan hon gyda golygfeydd gwych o’r Wyddfa, a chestyll Cricieth a Harlech.

Pan gyrhaeddwn afon fechan (Afon Wen) mae'r llwybr yn mynd tua’r tir am ychydig filltiroedd cyn cyrraedd pentrefan tlws Llanystumdwy.

Mae'n werth mynd allan o’ch ffordd i'r pentref i ymweld ag Amgueddfa Lloyd George, sy’n coffáu un o wleidyddion mwyaf Cymru. Mae'r amgueddfa'n gartref i gopi personol y cyn Brif Weinidog o Gytundeb Versailles ac mae'n rhoi cipolwg ar fywyd y dyn a roddodd y bleidlais i fenywod ac a greodd y pensiwn "henaint" cyntaf. Mae’r dafarn a weithredir gan y gymuned yn y pentref (Tafarn y Plu) yn rhoi cyfle am seibiant i gael lluniaeth.

Yn ôl â'r llwybr wedyn i’r arfordir drwy dir fferm cyn croesi’r rheilffordd Cambria brydferth, un o'r rheilffyrdd mwyaf prydferth yn y DU, cyn cyrraedd aber Afon Dwyfor.

Yn fuan, daw tref Cricieth i'r golwg. Wrth i ni anelu ati, awn heibio i fferm o'r enw Ynysgain Fawr ar y chwith - enw sy'n awgrymu mai ynys ydoedd ar un adeg efallai.

Wrth gyrraedd Cricieth, mae'r gwestai a'r llety tlws o liwiau golau ar Marine Terrace yn dynodi ein bod wedi cyrraedd – ac yn clwydo'n ysblennydd ar y creigiau uwchben, mae Castell Cricieth, prif nodwedd y dref.

Wedi'i adeiladu gan ddau o dywysogion canoloesol mwyaf pwerus Cymru (Llywelyn Fawr a Llywelyn y Llyw Olaf), ei ddiwygio gan Edward 1, a’i ddinistrio yn y pen draw gan Owain Glyndŵr ym 1404, roedd yr adfail yn ddigon atgofus i ysbrydoli’r artist mawr, Turner, i anfarwoli'r olygfa mewn paentiad enwog.

Fel Pwllheli ar ddechrau'r daith gerdded hon, ffurfiwyd Cricieth fel y mae heddiw pan gyrhaeddodd twristiaeth gyda'r rheilffordd yn y 1860au. Mae gan y dref ddigon o lety ac opsiynau bwyd a diod – ond cadwch lygad arbennig allan am ei siop hufen iâ enwog, Cadwalader's.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer Gwynedd: "Taith gerdded hawdd, wastad ar hyd traethau tywodlyd a graean bras sy’n darparu dechrau a diwedd y daith gerdded hon. Mae rhai golygfeydd anhygoel mewn mannau ac mae'r amgueddfa ym mhentref prydferth Llanystumdwy yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd un o arweinwyr gwleidyddol mwyaf dylanwadol y byd yn yr ugeinfed ganrif."

Angen gwybod

Mae digonedd o fannau parcio ceir a siopau bwyd a diod ym Mhwllheli a Chricieth.

Mae toiledau cyhoeddus ar gael yn y ddwy dref ac yn Llanystumdwy. 

Mae trenau a bysiau mynych rhwng Pwllheli a Chricieth gyda gorsafoedd trên ym Mhenychain ac Abererch a safle bws yn Llanystumdwy sy'n cynnig opsiynau ar gyfer teithiau cerdded byrrach.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Pwllheli i Gricieth (JPEG, 2.48MB)