Harlech i Ddyffryn Ardudwy

O gastell rhyfeddol ar ben clogwyn, ar hyd milltiroedd o draethau a gwarchodfeydd natur hardd i siambrau claddu hynafol

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Maes parcio yng nghanol Harlech i Ddyffryn Ardudwy.

Pellter

12 milltir / 19 cilometr ar gyfer y llwybr llawn, ond mae agosrwydd y rheilffordd yn darparu llawer o opsiynau ar gyfer llwybrau byrrach.

Mae'r rhain yn cynnwys taith gerdded 3 milltir / 5 cilometr os ydych yn dal trên yn ôl o Landanwg, 4 milltir / 6 cilometr os ydych yn dal trên neu fws yn ôl o Bensarn, neu 7 milltir / 11 cilometr i wneud cylch Pensarn.

Ar hyd y ffordd

Ac am fan cychwyn i’r daith. Yn ôl pob tebyg, safle Castell Harlech yw'r mwyaf trawiadol o holl gestyll Edward I yng Nghymru – a gadewch i ni fod yn onest, mae ganddo dipyn o gystadleuaeth!

Wedi'i adeiladu ar ben clegyr creigiog serth uwchben y twyni ymhell islaw, a mynyddoedd Eryri yn gefnlen iddo, dyma un arall o'r cestyll gwych ar Lwybr Arfordir Cymru sydd gyda'i gilydd yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Y Ffordd Fwyaf Serth?

Un arwydd o serthrwydd y clegyr y saif arno yw bod Ffordd Pen Llech, sy'n arwain i lawr i'r tir gwastad islaw, am gyfnod, yn hawlio teitl swyddogol y stryd fwyaf serth yn y byd. Ac er bod stryd yn Seland Newydd bellach wedi hawlio’r teitl hwnnw, hon yw'r stryd fwyaf serth yn Hemisffer y Gogledd o hyd. A wnewch chi dderbyn yr her o'i dringo?

Bu’r tir isel islaw'r castell yn destun cryn ddatblygiad, ac mae'r prif ddiddordeb yn nhref Harlech ei hun i fyny ar y bryn wrth y castell lle mae'r strydoedd cul a’r adeiladau gwenithfaen yn gartref i siopau bach annibynnol diddorol a detholiad o fwytai.

Ar ôl archwilio'r dref a'r castell awn i lawr yr allt ac ar hyd ffordd syth hir tuag at yr arfordir. Wedi dod drwy un o gyrsiau golff gorau Cymru, Cwrs Golff Brenhinol Dewi Sant, cyrhaeddwn dwyni Morfa Harlech.

Twyni tywod gwerthfawr

Er gwaethaf eu golwg moel a digroeso, mae'r twyni hyn mewn gwirionedd yn rhan o un o'r systemau twyni pwysicaf ym Mhrydain ac fe'u gwarchodir fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Mae twyni fel y rhain gydag ardaloedd moel a symudol o dywod yn weddol brin erbyn hyn, ac maent yn gartref i ystod amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys madfallod y twyni, gwenyn turio ac amrywiaeth o degeirianau, sydd oll wedi ymaddasu'n arbennig i fywyd yn yr amgylchedd garw hwn.

Ar ôl dod drwy'r twyni, mae traeth pum milltir rhyfeddol Harlech yn agor yn ysblennydd o'n blaenau. Fe’i disgrifir yn aml yn un o'r traethau gorau ym Mhrydain, ac mae'n llechweddu mor raddol nes bod milltir yn gallu bod rhwng distyll a phenllanw, gan ei wneud yn ddiogel iawn ar gyfer ymdrochi.

Gan droi i'r chwith, cerddwn ar hyd y traeth am filltir a hanner cyn dringo grisiau igam-ogam serth. Cofiwch aros am hoe pan nad oes dim i rwystro'r olygfa, oherwydd mae’r fista y tu ôl ichi o'r traeth enfawr, siâp cilgant, sy'n aml yn wag i raddau helaeth, yn ddigon o sioe.

Ar ddiwrnod clir, mae'r olygfa gyfan wedi'i fframio gan fynyddoedd Eryri a Phen Llŷn, sy'n ymwthio i Fôr Iwerddon, gan nodi terfynau gogleddol Bae Ceredigion yn glir.

Yr eglwys yn y tywod

Ryw filltir ymhellach ymlaen cyrhaeddwn yr eglwys fechan yn Llandanwg. Mae'r adeilad presennol yn ganoloesol gyda chorff o'r drydedd ganrif ar ddeg, ond fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol yn y bumed ganrif, ac mae rhai cerrig arysgrifenedig o'r cyfnod hwnnw yn parhau ar y safle. Mae'r rhan fwyaf o'r fynwent bellach wedi'i chladdu o dan y twyni tywod.

Ceir yma gaffi, maes parcio a thoiledau cyhoeddus ac mae gorsaf reilffordd Llanddanwg gerllaw.

Dolen bosib yn ôl i Harlech

Ymhen rhyw filltir arall, rydym yn cyrraedd harbwr bach hardd Pensarn.

Gallwn ddychwelyd i Harlech o'r fan hon ar drên neu ar fws. Ond mae hefyd yn daith gerdded wych. Trowch i'r chwith ar hyd y palmant ar ochr y ffordd, gan fynd heibio i Geudyllau Llechi Llanfair a pharc fferm cyn troi i'r dde ar ôl hanner milltir yn Llanfair.

Mae'r lôn gul hon yn ôl i Harlech ar hyd Ffordd Uchaf yn cynnig safle cynyddol uchel i fwynhau golygfeydd aruthrol o Ben Llŷn, Eryri, aber Mawddach, traeth Harlech a'i dwyni.

Ond rydym yn aros ar Lwybr Arfordir Cymru, ac ar lwybr ar lan afon Artro, gan gadw llygad am drochwyr a glas y dorlan sydd i'w gweld yma weithiau.

Heibio i faes awyr Llanbedr rydym yn cyrraedd Ynys Fochras – sef penrhyn mewn gwirionedd y rhan fwyaf o'r amser, sy’n troi’n ynys ddwywaith y dydd pan gaiff ei thorri ymaith gan lanw uchel.

Yn ôl i'r traeth

Rydym bellach yn ôl ar y traeth, a’r tro hwn wrth Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn sydd, ynghyd â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Harlech, yn ffurfio ardal ddi-dor bron o dwyni ar hyd arfordir gogledd Meirionnydd. 

Mae'r tair milltir a hanner nesaf yng nghysgod y twyni ar hyd y traeth gogoneddus hwn – cofiwch edrych yn eich ôl bob hyn a hyn i fwynhau’r golygfeydd y tu ôl i chi.

Byddwch yn ymwybodol fod rhan o'r traeth yn cael ei defnyddio gan noethlymunwyr. Mae ambell arwydd i nodi'r ardal lle gallai hyn ddigwydd.

Yn y pen draw, rydym yn troi i mewn i'r twyni ar hyd llwybr pren sy'n mynd drwy faes parcio gyda thoiledau cyhoeddus a thua’r tir i fyny lôn.

Ymlaen tuag at siambrau claddu hynafol

Lle mae Llwybr Arfordir Cymru'n troi i’r dde drwy giât fach, rydym yn parhau i fyny'r lôn a thros y rheilffordd. Wrth gyrraedd y brif ffordd wrth Eglwys Sant Ddwywe, croeswch draw i Ffordd Gors sy’n gwbl syth drwy bedair colofn garreg sy'n gwarchod y fynedfa.

Ar ôl ychydig gannoedd o lathenni, gyferbyn â Frongaled, dilynwch arwydd y llwybr troed cyhoeddus drwy'r giât ac ewch yn groeslinol i fyny’r cae i wal gerrig wedi'i gorchuddio â mwsogl a chen o dan y coed.

Dilynwch y wal dros gamfa garreg, dros nant fechan a thrwy’r goedwig cyn cyrraedd giât. Trowch ychydig i’r chwith drwy'r cae nesaf i gyrraedd Siambrau Claddu Dyffryn Ardudwy sydd mewn cyflwr da.

Adeiladwyd y pâr hwn o feddrodau Neolithig sawl cenhedlaeth ar wahân, bedair i bum mil o flynyddoedd yn ôl. Daeth y siambr lai o faint yn gyntaf a phan adeiladwyd y beddrod mwy o faint yn ddiweddarach, fe'i claddwyd ynghyd â'i gymydog o dan domen o gerrig 100 troedfedd o hyd.

Oddi yma, rhaid crwydro ychydig bach i lawr y bryn ar hyd llwybr cul i'r brif ffordd cyn troi i'r dde i bentref Dyffryn Ardudwy.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Rhys Roberts, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Mae hon yn daith gerdded weddol hir, ond mae'n wastad iawn am ran helaeth o'r ffordd. Mae tua phum milltir ohono ar hyd traethau enfawr Harlech a Morfa Dyffryn. Maen nhw'n wir yn syfrdanol – ac mae'r twyni y tu ôl iddyn nhw’n bwysig iawn i fywyd gwyllt prin."

Angen gwybod

Mae lleoedd parcio, toiledau cyhoeddus, caffis, tafarndai, bwytai a siopau yn Harlech a Dyffryn Ardudwy. Mae toiledau cyhoeddus ar y llwybr hefyd fel y disgrifir. Mae gan Ynys Fochras siopau, bar byrbrydau, tafarn a bwyty.

Mae gwasanaethau trên a bws rheolaidd rhwng Harlech, Pensarn a Dyffryn Ardudwy.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Harlech i Ddyffryn Ardudwy (JPEG, 2.67MB)