Fwrnais i Borth

Treftadaeth ddiwydiannol a naturiol

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Cychwyn ym maes parcio CADW yn Ffwrnais, a gorffen yng nghanolfan groeso’r Borth neu Ynyslas.

Pellter

11 milltir / 16 cilometr

Ar hyd y ffordd

Mae'r daith hon yn dechrau wrth enghraifft dda iawn o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru.

Wedi’i hadeiladu tua 1755, defnyddiwyd y ffwrnais chwyth a daniwyd â golosg yn Ffwrnais Dyfi i fwyndoddi mwyn haearn. Hwn un o'r adeiladau a ddiogelwyd orau o'i fath ym Mhrydain, a byddai ei olwyn ddŵr yn harneisio grym Afon Einion i yrru meginau enfawr. Byddai'r rhain yn chwythu aer i'r ffwrnais i greu'r tymheredd poeth iawn yr oedd ei angen i brosesu'r mwyn.

I gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru oddi yma rydym yn ymuno â lôn fach ac yn dringo’r allt, drwy goetir hardd Cwm Einion, a alwyd hefyd yn Ddyffryn yr Artistiaid gan y Fictoriaid.

Mae'r coed yma’n rhan o'r Goedwig Law Geltaidd ac mae'r ardal yn gynefin prin sy'n cael ei gydnabod fel un sy'n bwysig yn rhyngwladol ac yn un o'r enghreifftiau gorau o'i fath ym Mhrydain.

Ar ôl hanner milltir trown yn sydyn i'r dde i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar hyd trac llydan. Os cyrhaeddwn arwydd Llwybr Arfordir Cymru ar y chwith, rydym wedi mynd ychydig fetrau'n rhy bell.

Nid yw'r llwybr o'r fan hon yn cael ei ddefnyddio'n aml, felly mae'n debygol y bydd gennym y lle i gyd i'n hunain. Fodd bynnag, am nad yw’n cael ei ddefnyddio mor aml, gall y llwybr weithiau fod ychydig yn aneglur.

Mae'n llwybro drwy gaeau, coedwigoedd ac ar hyd trac coedwig cyn disgyn yn ôl i'r brif ffordd ar ôl tua dwy filltir a hanner yn Nhre'r-ddôl. Mae safle Cletwr a weithredir gan y gymuned yma’n lle da i ailgyflenwi neu stopio am ddiod ac mae tafarn The Wildfowler yn gweini bwyd a chwrw ers tua 150 o flynyddoedd.

Awn ymlaen yn awr i hen bentref mwyngloddio plwm a chopr Tre Taliesin cyn troi i'r dde i gyrraedd Cors Fochno, un o'r enghreifftiau mwyaf a gorau o gyforgors fawn ym Mhrydain.

Pan gyrhaeddwn lwybr pren yn y gors, mae'n werth mynd ychydig allan o’n ffordd i'r llwyfan gwylio i gael ymdeimlad o faint yr holl gyforgors.

Dechreuodd mawn gronni yma tua 7,500 o flynyddoedd yn ôl pan orchuddiwyd yr ardal gan goedwig. Ond wrth i lefel y môr godi, disodlwyd y goedwig yn gyntaf gan wern cyrs ac yna mawnog.

Yna cyrhaeddwn gyrchfan glan môr bychan y Borth. Pan fydd llanw isel, mae bonion coed sydd wedi hen farw o'r hen goedwig i’w gweld o hyd ar y traeth yma, gan ffurfio coedwig ffosil. Mae hyn yn gysylltiedig â chwedl "Atlantis Cymru", Cantre'r Gwaelod.

Gallwn ddewis gorffen y daith gerdded yma, ond os oes gennym ddigon o egni’n weddill, mae'n werth gwthio ymlaen am filltir arall i Ganolfan Groeso Ynyslas a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Yn ogystal â'r twyni tywod yn Ynyslas, mae'r warchodfa hon o 2,000 hectar hefyd yn cynnwys Cors Fochno ac aber afon Dyfi.

Mae'r twyni yn Ynyslas yn gartref i boblogaeth gyfoethog o degeirianau, mwsoglau, llysiau'r afu, ffyngau, pryfed a chorynnod, a llawer ohonynt yn brin, a rhai heb eu canfod yn unman arall ym Mhrydain.

Mae gan aber hardd Dyfi ardaloedd helaeth o fflatiau llaid, banciau tywod a morfeydd heli sy'n bwysig yn rhyngwladol sy'n darparu mannau bwydo a chlwydo pwysig i'r adar gwlypdir. A chadwch lygad allan am Weilch yn pysgota yn yr aber – maent wedi gwneud eu cartref gerllaw yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Dyfi a Gwarchodfa Natur Cors Dyfi

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Nigel Nicholas, swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Mae hon yn daith gerdded o wrthgyferbyniadau llwyr. Gan ddechrau gydag enghraifft dda o dreftadaeth ddiwydiannol, mae'n symud i'r ucheldir drwy goetir gwych ac ymlaen drwy dir fferm a choedwig i fannau naturiol arbennig iawn cyforgors, twyni tywod ac aber hardd. Ac ar ôl cwblhau’r ddringfa gychwynnol allan o Ffwrnais, mae naill ai i lawr rhiw neu'n wastad y rhan fwyaf o'r ffordd."

Angen gwybod

Mae'r toiledau a'r opsiynau bwyd cyntaf ar y llwybr hwn yn Nhre'r-ddôl. Mae toiledau cyhoeddus, caffis a thafarndai yn y Borth a chaffi, siop a thoiledau yng Nghanolfan Groeso Ynyslas.

Mae lle parcio ceir ger safle Ffwrnais Dyfi CADW, maes parcio mawr am ddim yn y Borth ger yr orsaf bad achub ac yng Nghanolfan Groeso Ynyslas (gan ddibynnu ar y llanw).

Nid oes unrhyw wasanaethau bws uniongyrchol rhwng y Borth a Ffwrnais.  Fodd bynnag, mae'r ddwy gymuned yn cael eu gwasanaethu gan wasanaethau mynych a dim ond un newid sydd ei angen ar y rhan fwyaf o deithiau bws ac maent yn cymryd tua 45 munud.

Mae gorsaf drenau yn y Borth sy'n cysylltu â Machynlleth, Cyffordd Dyfi (ddwy filltir o ddechrau'r daith gerdded hon), Bow Street ac Aberystwyth. Gall defnyddio dau gar fod yn ddewis amgen cyfleus.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Fwrnais i Borth (JPEG, 2.78MB)