Aberteifi i Drewyddel

Taith gerdded ogoneddus, wyllt a garw sy’n cychwyn o gastell hanesyddol ac yn mynd heibio i abaty hynafol

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cychwyn a gorffen

Cychwyn yng nghanol tref Aberteifi a gorffen yn Nhrewyddel.

Pellter

10 milltir / 16 cilometr.

Ar hyd y ffordd

Darn trefol iseldirol yw'r rhan gyntaf o'r daith gerdded hon ond ar ôl ychydig filltiroedd mae'n cyrraedd un o'r rhannau mwyaf gogoneddus, gwyllt, garw ac anghysbell o Lwybr Arfordir Cymru i gyd.

Mae'r golygfeydd o’r clogwyni o ffurfiannau creigiau gwyrgam, ogofâu a nodweddion daearegol trawiadol eraill ymhlith y mwyaf trawiadol a welwch yn unman.

Mae rhan o’r llwybr yn drwch o flodau gwyllt hardd yn ystod y gwanwyn a'r haf, a gellir gweld hebogau tramor ar lefel llygad, yn hela am ysglyfaeth uwchben rhai o'r clogwyni enfawr.

Ond dechreuwn y diwrnod yn nhref farchnad brysur Aberteifi gyda'i hetifeddiaeth forwrol, ei Stryd Fawr ffyniannus, a’i Neuadd Tref a Neuadd Marchnad - sef adeilad dinesig cyntaf Prydain yn yr arddull Gothig Fodern.

Yma hefyd y gwelwn Gastell a Gerddi Aberteifi - un o'r cestyll pwysicaf yng Nghymru. Hwn oedd y castell carreg gyntaf a adeiladwyd gan y Cymry ac mae iddo gryn arwyddocâd diwylliannol am mai yno y cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf erioed, ym 1176.

O Aberteifi i Landudoch

O'r fan hon rydym yn croesi afon Teifi ac ymhen rhyw filltir yn cyrraedd pentref tawel Llandudoch a'i Abaty. Mae digonedd o hysbysfyrddau defnyddiol yma i'n helpu i weld ble ydyn ni o fewn yr Abaty ac i helpu i ddychmygu sut fywyd oedd gan y mynachod a oedd yn byw yma ganrifoedd yn ôl.

Pan fyddwn wedi gorffen archwilio'r Abaty ei hun, mae'n werth ymweld â'r Cartws sydd ag oriel fechan ac amgueddfa gydag arddangosfa o gerrig cerfiedig ac arteffactau o'r abaty. Ceir yma hefyd gaffi a weithredir gan griw croesawgar a chymwynasgar iawn, a marchnad wythnosol o gynnyrch lleol. Ochr draw i’r pwll hwyaid o’r abaty, mae melin flawd weithredol. Ac maen nhw’n tynnu peint yn yr Hydd Gwyn ers 1796 - ac mae bellach yn fenter gymunedol.

Ewch ymlaen drwy'r pentref ac yna ar hyd glan yr afon brydferth am ddwy filltir eto cyn cyrraedd Traeth Poppit. Mae yma gaffi braf – y cyfle olaf am luniaeth ar y llwybr hwn - a'r toiledau yw'r rhai olaf cyn Trewyddel.

Y man hwn yw dechrau, neu ddiwedd, 186 milltir Llwybr Arfordir Sir Benfro. Yn ôl y Lonely Planet, hwn yw un o'r llwybrau pellter hir gorau yn y byd, ac mae’n driw i’r disgrifiad, fel yr ydych ar fin darganfod.

Ar hyd lonydd gwledig tawel i gyrraedd y clogwyni

Gan droi cefn ar yr aber prysurach, ceir bellach ddringfa gyson, heddychlon am ddwy filltir arall ar hyd lonydd gwledig ac yna llwybr nes i ni ddod allan yng Ngwarchodfa Natur Pen Cemaes, sy’n gartref i blanhigion prin, glaswelltau ac amrywiaeth eang o adar.

Ymlaen â ni tuag i fyny o hyd heibio i Ben Cemaes nes i ni gyrraedd y pwynt uchaf ar arfordir Sir Benfro sef 175 metr. Ac ydyn, mae'r golygfeydd o’r fath lecyn manteisiol yr un mor ysblennydd ag y byddem yn ei ddisgwyl.

Yr hyn sy'n fwy anhygoel byth yw mai ychydig iawn o gerddwyr a welir ar y rhan ddramatig hon o'r llwybr, a bydd gennym y lle inni ein hunain y rhan fwyaf o'r amser.

Ar hyd yr arfordir hwn i gyd, mae morloi llwyd yn defnyddio'r traethau anhygyrch i orffwys yn ystod y gaeaf ac i eni lloi bach ar ddiwedd yr haf a dechrau'r hydref, ac yn aml gellir gweld heigiau o ddolffiniaid a llamidyddion ar y môr.

Ffurfiannau creigiau trawiadol

Ar ôl dod o gwmpas Pen yr Afr, ac wrth gerdded ar ben y clogwyni wrth Bwllygranant, cofiwch droi o gwmpas i fwynhau’r olygfa y tu ôl ichi. Mae'n rhaid gweld y ffurfiannau creigiau yma i’w credu. Wedi'u ffurfio gan haenau eiledol o dywodfaen a cherrig llaid tua 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl, cawsant eu cywasgu a'u gorfodi i fyny 50 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd cyfandiroedd yn gwrthdaro.

Oddi yma mae'n rhyw filltir a hanner o gerdded hyfryd ar ben y clogwyni, gan gynnwys ambell gwymp serth i mewn ac allan o ddyffrynnoedd cul, gyda golygfeydd godidog i'r de tuag at Ben Dinas a goleudy Pen Caer yn y pellter.

Tua’r tir

Gan ddisgyn am y tro olaf ar y daith gerdded hon i Fae Ceibwr, un o nifer o adrannau ar y morlin hwn sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rydym yn croesi'r bompren garreg ac yn troi tua’r tir wrth i ni adael Llwybr Arfordir Cymru i ddychwelyd i Drewyddel.

Gallwn wneud hyn drwy ddilyn y lôn i ffwrdd o'r traeth, neu ceir llwybr brafiach drwy groesi'r afon eto a dilyn y llwybr troed drwy goedwig glan yr afon i fyny Cwm Trewyddel am ryw filltir cyn dod allan ar y ffordd i Drewyddel.

Uchafbwyntiau’r daith gerdded

Meddai Theresa Nolan, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: "Am daith gerdded gyferbyniol. Mae'r adran gyntaf, er ei bod yn drefol, yn ddymunol iawn gyda llawer o hanes. Mae’r ail ran yn cynnwys rhywfaint o’r cerdded arfordirol mwyaf trawiadol yng Nghymru. Mae clogwyni uchel, ffurfiannau creigiau anhygoel, bywyd gwyllt gwych a golygfeydd heb eu hail yn gosod y daith gerdded hon ymhlith fy ffefrynnau yn unman ar Lwybr Arfordir Cymru. Ac am mai ychydig iawn o bobl sy'n cerdded ail ran y llwybr hwn, fel arfer gallwch fwynhau ei olygfeydd anhygoel ar eich pen eich hun."

Angen gwybod

Prin iawn yw’r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y daith gerdded hon, yn enwedig yn ystod y gaeaf, oherwydd Roced Poppit yw'r unig wasanaeth. Er mwyn peidio ag aros yn hir am fws, rydym yn argymell mynd â char i'r dechrau yn Nhrewyddel, dal bws yn ôl i Aberteifi a cherdded yn ôl i'ch car. Cofiwch wirio amserlenni ymlaen llaw neu ddefnyddio dau gar.

Mae toiledau yn Aberteifi, Llandudoch, Traeth Poppit a Threwyddel. Mae digonedd o opsiynau bwyd a diod yn Aberteifi ac ambell fwyty yn Llandudoch, caffi Crwst yn Nhraeth Poppit ac mae caffi yng Nghanolfan Arddio Penrallt, ychydig y tu allan i Drewyddel.

Map

Lawrlwythwch map taith cerdded Aberteifi i Drewyddel (JPEG, 2.34MB)