Ail-lenwch eich potel ddŵr ar y ffordd
Defnyddiwch yr ap Refill i ganfod dŵr yfed ar...
Cyfres o dywyslyfrau swyddogol Llwybr Arfordir Cymru
Mae pob llyfr yn cyfateb ag un o adrannau allweddol y llwybr. Gyda'i gilydd, maen nhw’n cwmpasu'r llwybr 1,400 cilometr neu 870 milltir cyfan, ffin Cymru â Chaer i Gas-gwent. Mae pob llyfr yn hwylus ac yn ffitio yn eich poced, ac yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i gynllunio, mwynhau a cherdded y llwybr.
Ynddynt, gallwch ddod o hyd i siartiau pellter, adrannau ar deithiau diwrnod, disgrifiadau manwl o lwybrau, gwybodaeth leol ddibynadwy, mapiau manwl yr Arolwg Ordnans, a llu o luniau lliw gwych. Mae’r arweinlyfrau ar gael i’w prynu ar wefan Northern Eye Books

Y teithlyfrau Cymraeg yw canllawiau swyddogol y llwybr, ac maent wedi’u cymeradwyo gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r teithlyfrau hyn yn ddelfrydol i’r rhai sydd am archwilio arfordir Cymru yn y Gymraeg. Dosberthir y llyfrau gan Gyngor Llyfrau Cymru. Ar gael am £15.99 o bob siop lyfrau dda, mae’r llyfrau hefyd ar gael i’w prynu ar-lein oddi wrth Gyngor Llyfrau.
Llwybr Arfordir Cymru: Pen Llŷn: Ysgrifennwyd Bangor i Borthmadog gan Carl Rogers a Tony Bowerman (yn wreiddiol yn Saesneg) a chafodd ei gyfieithu i’r Gymraeg gan Elfed Gruffudd ar ran Atebol.
I roi blas ar y rhan hon o’r llwybr, dogfennodd y cyflwynydd Radio Cymru, Aled Hughes, ei daith o amgylch y rhan unigryw hon o’r llwybr yn y gogledd-orllewin mewn cyfres o fideos ar YouTube. Disgwyliwch lawer o straeon lleol, ynghyd â ffeithiau diddorol am yr ardal wrth iddo ddangos rhai o olygfeydd mwyaf eiconig y llwybr. Mae ei angerdd dros yr ardal hon o Gymru yn heintus. Gobeithiwn y cewch eich ysbrydoli i ddilyn yn ôl ei droed.
Gwyliwch daith Aled Hughes yn archwilio Pen Llŷn (yn agor yn YouTube). Mae yna 13 fideo yn Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg. Cafodd y fideos eu ffilmio a’u dangos gan Aled yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023.
Llwybr Arfordir Cymru: Sir Benfro gan Vivienne Crow (yn wreiddiol yn Saesneg) gyda’r cyfieithiad gan Testun.
Rhan boblogaidd ac adnabyddus o’r llwybr o fewn unig barc cenedlaethol arfordirol Prydain, yn cynnwys rhai o olygfeydd arfordirol mwyaf amrywiol a dramatig Cymru.
Mae digon o arweinlyfrau eraill am y llwybr sy’n cwmpasu rhannau o’r llwybr neu’r llwybr cyfan. Dim ond cyhoeddwyr yr arweinlyfrau swyddogol yr ydym yn eu cymeradwyo ac yn gweithio gyda nhw os bydd unrhyw ddiweddariadau.
1. The Wales Coast Path 2il argraffiad
2. The Wales Coast Path - A Practical Guide for Walkers
3. The Ceredigion and Snowdonia Coast Paths
4. Wales Coast Path Tenby to Swansea
5. Pembrokeshire Coast Path National Trail
6. The Pembrokeshire Coastal Path
7. Pembrokeshire Coast Path 5ed argraffiad
8. Wales: The Anglesey Coast Path (Almaeneg)
9. Wales: Pembrokeshire Coast Path (Almaeneg)
10. Ceredigion Coast Path : From the Teifi to the Dyfi - Official guide (English and Welsh)