Pen Llŷn

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gefnlen naturiol syfrdanol i'r rhan unigryw hon o'r llwybr- sy’n ffefryn gan bawb!

Mae digonedd o gyfleodd i gerdded ac archwilio  i’w cael yma. Dewch o hyd i bentrefi pysgota, aberoedd, a milltiroedd o draethau tywodlyd ar y llwybr i Borthmadog. Mae hon yn wlad hudolus sydd heb ei harchwilio ddigon, ond peidiwch â phoeni – mae gennym lwybrau gwych ar eich cyfer yn y rhan hon.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Rhys Gwyn Roberts yn disgrifio pam mai Pen Llŷn yw un o'r rhannau mwyaf syfrdanol ac amrywiol i’w cerdded ar lwybr arfordir Cymru.

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud.  Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr.

Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru

Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus ac mae modd cyrraedd sawl rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.