Adnoddau dysgu ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru

Rhannwch y dudalen hon gyda’ch cyd-addysgwyr ac athrawon

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn lle delfrydol i ddysgu sgiliau a chael profiad mewn lleoliad addysg.

Mae’r llwybr 870 milltir / 1,400km yn gefndir ysbrydoledig i genedlaethau’r dyfodol i ddod i ymweld ag un o lwybrau cerdded mwyaf poblogaidd Cymru a’r DU.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu adnoddau dysgu wedi’u seilio ar Lwybr Arfordir Cymru i addysgwyr ac athrawon.

Mae’r adnoddau, y gweithgareddau a’r gemau yn cysylltu â phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru a bydd yn cyflawni sawl agwedd ar sgiliau trawsgwricwlaidd o fewn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.

Ewch i’r adnoddau dysgu

Bydd yr adnoddau yn helpu addysgwyr ac athrawon i ddysgu sgiliau a chael profiad o ymchwilio, cynllunio, trefnu a hyrwyddo cyrchfan ymwelwyr bwysig yng Nghymru. Dyma enghreifftiau o’r gweithgareddau:

  • Ymchwilio, cynllunio a threfnu ymweliad diwrnod â’r llwybr neu ddefnyddio offer ar-lein fel Google Maps, AA route planner a’n tablau pellter i gyfrifo pellteroedd cerdded realistig.
  • Creu defnyddiau marchnata fel cylchlythyr, gwefan a phoster i hyrwyddo’r llwybr.

Byddwch hefyd yn dysgu am broblemau mawr cyfredol sy’n effeithio ar arfordir Cymru, er enghraifft:

  • effaith llygredd plastig ar hyd yr arfordir,
  • y system dwyni arfordirol sydd bob amser yn newid yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yng Ngronant, Sir Ddinbych, Talacre a Sir y Fflint- mae’r holl lefydd hyn ar y llwybr.
    Y bywyd morol prin sydd mewn perygl sy’n byw yn nyfroedd Cymru.

Aros gyda’r Urdd ar y llwybr

Os ydych chi’n mynd â’ch dysgwyr i ganolfannau’r Urdd yn Llangrannog neu Fae Caerdydd, rydym wedi ymuno â’r Urdd i greu pecynnau adnoddau diddorol a hwyliog sydd wedi’u seilio ar ddiwylliant, treftadaeth bioamrywiaeth y ddwy ganolfan hyn ar y llwybr.

Mae’r adnoddau’n amlygu’r cyfleoedd i rai sy’n ymweld â’r gwersylloedd i fwynhau’r llwybr yn ystod eu hymweliad ac i archwilio eu llwybr lleol pan fyddant yn dychwelyd adref.

Ewch i’n pecynnau adnoddau Urdd