Crisialu ysbryd y llwybr drwy gyfrwng celfyddyd a barddoniaeth

Mae Celf Coast Cymru yn ffrwydrad celfyddydol sy’n crisialu ysbryd y llwybr drwy gyfrwng celfyddyd a barddoniaeth.

Beth sydd wedi bod yn digwydd

Cafodd 10 artist a 10 bardd eu gwahodd i dalu teyrnged i’w rhan arbennig nhw o lwybr yr arfordir yn ystod ein dathliad 10 mlynedd gan grisialu ysbryd y llwybr cyfan mewn ffordd unigryw.

Mae’r cysylltiad rhwng natur, diwylliant unigryw Cymru, treftadaeth ac iaith, ac arfordir Cymru wedi dod yn fyw yng ngwaith yr artistiaid a’r beirdd.

Drwy ddod â’u gwaith unigryw at ei gilydd, 10 cerdd a 10 celf, maen nhw wedi creu siwrne i ni ar hyd llwybr sy’n unigryw ac yn arbennig i bawb sy’n ei brofi. Mae’r cerddi i gyd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedi eu cyfieithu gan gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Mae’r prosiect wedi’i guradu gan yr artist Dan Llywelyn Hall

Llyfr Coffa

Mae llyfr coffa arbennig "Celf Coast Cymru: Wales Coast Path in Art and Poetry - 10th Anniversary" wedi cael ei gyhoeddi - ac mae’n dod â’r holl farddoniaeth a gwaith celf at ei gilydd. Gobeithio y bydd y llyfr hwn yn eich ysbrydoli i gerdded y llwybr eich hun gyda syniadau newydd. Prynwch y llyfr ar-lein o Amazon neu o wefan Dan Llywelyn Hall

Gweld a Gwrando Ar-lein

Gallwch weld y casgliad unigryw hwn o gelfyddyd a barddoniaeth ar-lein ar ein Sianel Youtube - Celf Coast Cymru 10 Playlist

Yr Artistiaid a’r Beirdd

Artistiaid

Mae Dan Llywelyn Hall yn beintiwr o Gymro sy’n adnabyddus am weithio yn y genres tirlun a phortread, gan ddod â chyfuniad o dreiddgarwch a grym emosiynol i genre celf ffigurol. Dan yw artist arweiniol prosiect Celf Coast Cymru.

Mae Wendy Dawson yn artist metel yn bennaf sy'n gweithio gyda metelau gwerthfawr ac anwerthfawr. Ar gyfer prosiect Celf Coast Cymru, bu Wendy yn curadu corff o waith a oedd yn canolbwyntio ar gyflymder amser trwy arwyddion ffyrdd ar hyd yr arfordir.

Artist Cymreig yw Manon Awst sy'n arbenigo mewn cerfluniau a gweithiau celf safle-benodol wedi'u gwau â naratifau ecolegol. Mae ei darn pryfoclyd o’r arddangosfa yn amlygu pwysau diwylliannol ac amgylcheddol arferion y gwyliau ar gyrchfannau arfordirol.

Mae Brian Jones yn arlunydd tirluniau a phortreadau sy’n byw yng nghanolbarth Cymru, ac sydd wedi taenu ei olewau gwreiddiol ar gynfas ar gyfer arddangosfa Celf Coast Cymru. Mae Brian hefyd yn arbenigo mewn dylunio tecstilau, ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn gweithio yn stiwdios dylunio Laura Ashley.

Mae Liz Neal yn frodiwr, yn gerflunydd ac yn beintiwr sydd wedi creu amrywiaeth o dirluniau arfordirol ar gyfer Celf Coast Cymru, sy’n lleol ac yn bwysig iddi hi drwy’r ffurfiau celf amrywiol y mae’n arbenigo ynddynt—i gyd ar appliqué.

Mae Bob Guy yn arbenigo mewn ysgythru pren — techneg a arloeswyd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Yn artist, darlunydd a gwneuthurwr printiau o Gwm Cain, Sir Drefaldwyn, mae Bob yn dod ag elfen dra gwahanol i’r arddangosfa gyda’i ehangder o arbenigedd artistig.

Mae Iwan Bala yn artist, awdur a darlithydd sefydledig o Gymru a enillodd Wobr Arlunio Artist y Flwyddyn Cymru yn 2013. Yn fwy na hynny, mae Iwan Bala hefyd wedi cyhoeddi llyfrau ac ysgrifau ar gelf gyfoes yng Nghymru. Cyfeirir at Iwan Bala yn y rhan fwyaf o gasgliadau cyhoeddedig ar gelfyddyd gyfoes yng Nghymru.

Ail-ddychmygodd Simon Page arfordir Penrhyn Gŵyr, Abertawe, ar gyfer ei ddarn Celf Coast Cymru — ar ôl cael ei ddenu at y syniad o berthynas Llwybr Arfordir Cymru â’r tir, y môr, a’r gofod cyfnewidiol sy’n bodoli ar gyrion y ddau.

Cyfeirir yn aml at Neale Howells fel ‘bachgen drwg’ celfyddyd Gymreig. Mae’n cyfuno graffiti, celfyddyd bop, symbolaeth, a mynegiant haniaethol—yn bennaf â deunyddiau cartref. O weithio gyda’r Manic Street Preachers i’r dylunydd ffasiwn Cymreig, Kayne Pierson — mae arddangosfa Celf Coast Cymru yn ychwanegiad pwysig arall i’w bortffolio cynyddol.

Beirdd

Mae Ifor ap Glyn yn cael ei adnabod fel un o feirdd mwyaf sefydledig Cymru, ar ôl dal teitl Bardd Cenedlaethol Cymru o 2016 hyd at 2021. Ifor ap Glyn yw’r bardd y tu ôl i eiriau cerdd dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru, ‘A Wales Coast Path Bendith’—gan ennill iddo rôl y prif fardd ar brosiect Celf Coast Cymru.

Mae Hanan Issa, sydd newydd ei phenodi’r Fardd Cenedlaethol Cymru, yn awdur, bardd ac artist o Gaerdydd. Mae ei gwaith wedi’i berfformio a’i gyhoeddi ar amrywiaeth o lwyfannau gwahanol gan gynnwys arddangosfa Celf Coast Cymru — yn dathlu’r hyn y mae’r darn lleol o’r Llwybr yn ei olygu iddi hi.

Bardd a beirniad llenyddol yw Zoe Skoulding. A hithau’n Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, mae gwaith Zoe wedi cael ei gydnabod gan Wobrau Llyfr y Flwyddyn ar ôl iddi gyrraedd y rhestr fer sawl gwaith ac ennill y Wobr Farddoniaeth yn 2020.

Daw Llion Pryderi Roberts yn wreiddiol o Ynys Môn, ac mae’n rhannu ei amser fel awdur a darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n arbenigo mewn ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth a rhyddhaodd ei gyfrol gyntaf o waith llenyddol yn 2018.

Mae Guto Dafydd yn fardd a nofelydd llwyddiannus sydd wedi ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddwywaith — gan ddod yn un o’r enillwyr ieuengaf erioed, yn ogystal ag ennill Gwobr Daniel Owen am ei nofelau.

Awdur a bardd o Lanuwchllyn yw Haf Llewelyn. Dechreuodd Haf ei gyrfa fel athrawes ysgol gynradd cyn dod yn awdur sefydledig ac ennill gwobr Tir na n-Og am ei nofel, Diffodd y Sêr yn 2014.

Mae Ceri Wyn Jones yn un o brif awduron Cymru, ar ôl ennill y Gadair a’r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru nid unwaith, ond ddwywaith. Yn ogystal â’i lwyddiannau yn yr Eisteddfod, bu Ceri hefyd yn Fardd Plant Cymru 2004 – 2005.

Mae Gillian Clarke yn fardd sefydledig o Gymru a bu’n Fardd Cenedlaethol Cymru rhwng 2008 a 2016. Dyfarnwyd Medal Aur y Frenhines am Farddoniaeth i Gillian yn 2010 am ei chyfraniadau i'r maes, yn ogystal ag ysgrifennu dramâu radio a theatr.

Mae Elinor Gwynn yn fardd ac yn amgylcheddwraig — sydd hefyd wedi ennill Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae gwaith Elinor yn adnabyddus am gael ei ysbrydoli’n fawr gan ei chariad at yr awyr agored, yn ogystal â thrasiedi bersonol.

Mae Natalie Holborow yn awdur arobryn o Abertawe, sydd wedi cael llwyddiant gyda’i nofelau And Suddenly You Find Yourself a Small. Mae Natalie hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau amrywiol gan gynnwys Gwobr Bridport a’r Gystadleuaeth Farddoniaeth Genedlaethol.

Bardd a nofelydd Cymreig yw Robert Minhinnick ac mae wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn dair gwaith. Ganed Robert yng Nghastell-nedd ac mae bellach yn byw ger yr arfordir ym Mhorthcawl — y darn lleol o Lwybr a ysbrydolodd ei gyfraniad i Celf Coast Cymru.

Gweld y diweddaraf

Gallwch weld y diweddaraf am y digwyddiadau drwy ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol ar @walescoastpath a thanysgrifio i gael diweddariadau yn ein cylchlythyr.