Llesiant Gwyllt ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
Rhowch faeth i’ch meddwl, corff ac enaid ger yr...
Darganfod Cymru drwy dwristiaeth adfywiol
Beth pe bai eich gwyliau’n gallu gwneud mwy na dim ond adfywio eich meddwl? Beth pe baenti’n yn gallu cynnal ac adfer y lleoedd rydych chi’n ymweld â nhw hefyd?
Yng Nghymru, rydym yn gefnogolwyr tu hwntbrwd iawn i o arferion twristiaeth adfywiol: ffordd o deithio sy'n arafu, yn cysylltu'n ddwfn, ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r tir ac i'r cymunedau rydych chi'n eu harchwilio.
Ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, nid cysyniad yn unig yw'r syniad hwn, mae’n digwydd yn barod eisoes yn digwydd. Bob dydd diolch i fentrau lleol, ymgysylltiad diwylliannol, a chynllunio meddylgar a phwrpasol. Dyma rai awgrymiadau ar sut y gallwch chi fod yn rhan o'r mudiad teithio ystyrlon hwn.
Yn hytrach na rhestru golygfeydd ydych chi’n eu gweld yn awtomatig, mae twristiaeth adfywiol yn eich annog i ymgolli yn y lle rydych chi ynddo ac arafu. Mae teithlenni cerdded aml-ddydd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn eich helpu i ymgyfarwyddo ag ardal - i ganfod ei chilfachau dirgel a’i henaid - yn ogystal â lleihau eich ôl troed carbon trwy deithio ar droed. Hefyd, mae'r llwybrau hyn yn aml yn defnyddio canolfannau lleol, gan annog arosiadau hirach a chysylltiadau lleol dyfnach. Dysgwch ragor am deithiau cerdded aml-ddiwrnod ar y llwybr
Mae'r iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach yng Nghymru ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, ac nid yn unig ar ein harwyddion ffyrdd (y peth cyntaf y bydd ymwelwyr o'r tu allan i Gymru yn aml yn sylwi arno!), ond ym mywyd bob dydd Cymru, yn ein cerddoriaeth, ein barddoniaeth a’n chwedlau ac mewn straeon lleol. Mae ymgysylltu â'r iaith a'r diwylliant yn un o'r ffyrdd mwyaf pwerus o roi rhywbeth yn ôl: mae eich diddordeb yn helpu i sicrhau bod traddodiadau'n ffynnu.
Mae prosiectau fel Ecoamgueddfa ar Benrhyn Llŷn yn eich gwahodd i amgueddfa fyw o iaith a chymuned. A thrwy fentrau barddoniaeth ddwyieithog ar Lwybr Arfordir Cymru gallwch brofi diwylliant Cymru trwy leisiau hynafol a modern. Gwrandewch ar Celf Coast Cymru 10, (agor yn Youtube), barddoniaeth a ysbrydolwyd gan arfordir Cymru.
Mae twristiaeth adfywiol yn rhoi hwb i economïau lleol drwy gyfeirio eich gwariant at fusnesau annibynnol, sy'n aml yn cael eu rhedeg gan deuluoedd, sef calon ac enaid cymunedau lleol. Ar hyd llwybr yr arfordir, rydym wedi creu canllaw i’ch helpu i ddod o hyd i'r bwydydd a diodydd lleol gorau, o frechdanau artisan i fwyd môr ffres a theisennau blasus yn syth o'r ffwrn.
Mae ein Canllaw Bwyd Llwybr Arfordir Cymru yn eich helpu i fwyta wrth grwydro o amgylch yr arfordir a chan gefnogi cynhyrchwyr a bwytai sy'n adlewyrchu gwir flas Cymru.
Mae natur yn greiddiol i bob taith gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, ac yn cynnig harddwch, heddwch ac ysbrydoliaeth gyda phob cam. A gallwn ninnau yn ein tro roi rywbeth yn ôl i'r tirweddau sy'n rhoi cymaint inni mewn ffyrdd syml ac ystyrlon.
Cymerwch ran mewn sesiwn Glanhau Traeth 2 funud i helpu i gael gwared o sbwriel ac amddiffyn bywyd gwyllt, neu ymunwch â mentrau gwyddoniaeth dinasyddion fel CoastSnap, lle gall tynnu lluniau cyflym gyda'ch ffôn helpu gwyddonwyr i olrhain a deall erydiad arfordirol a newid dros amser.
Wrth i chi grwydro, dilynwch Addewid neu'r Cod Cefn Gwlad i sicrhau eich bod chi'n cerdded yn araf ac yn barchus drwy fannau naturiol, heb adael unrhyw olion a'u cadw fel y gall eraill eu mwynhau.
A chofiwch gario potel ddŵr y gellir ei hailddefnyddio - mae gorsafoedd Ail-lenwi Cymru ar hyd y llwybr yn ei gwneud hi'n hawdd ail-lenwi heb greu gwastraff plastig. Mae pob gweithred fechan yn helpu i amddiffyn y lleoedd rydyn ni'n eu caru.
Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y llwybr neu rhowch gynnig ar un o'n llwybrau cerdded cylchol sy'n dechrau ac yn gorffen mewn gorsafoedd trên. Rydym yn gweithio'n agos â Thrafnidiaeth Cymru a chynghorau lleol i wneud eich taith mor gynaliadwy ac mor syml ag sydd bosibl. Mae llawer o drefi arfordirol wedi'u cysylltu gan fws a rheilffordd, sy’n ei gwneud hi'n hawdd crwydro heb gar.
Rhowch gynnig ar un o'n llwybrau Rheilffordd i’r Llwybr gan ddefnyddio opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy i gael mynediad at eich anturiaethau cerdded. Drwy ddewis ffyrdd mwy gwyrdd o deithio, byddwch yn lleihau eich ôl troed carbon, yn cefnogi cysylltiadau trafnidiaeth gymunedol y mae pobl leol hefyd yn dibynnu arnynt ac yn darganfod trysorau cudd ar hyd y ffordd, boed hynny’n gaffis pentref neu’n siopau annibynnol ger gorsafoedd ac arosfannau bysiau.
Os ydych chi'n bwriadu teithio ar fws, mae gwasanaeth Fflecsi yn cynnig llwybrau i sawl cyrchfan llwybr arfordirol ledled Cymru. O Brestatyn i Benrhyn Llŷn ac yr holl ffordd i arfordir Sir Benfro, gofalwch eich bod yn lawrlwytho'r ap ac yn archebu eich taith ymlaen llaw, yna bydd yn rhoi gwybod i chi o ble i ddal y bws ac am faint o’r gloch y bydd yn cyrraedd.