App Darganfod Llwybr Arfordir Cymru
Darganfod y llwybr drwy ddefnyddio realiti estynedig,...
Trwy fod yn ofalus a thrwy ddefnyddio synnwyr cyffredin, mae Llwybr Arfordir Cymru yn amgylchedd diogel. Trwy fod yn ymwybodol o’r peryglon posibl a ganlyn, bydd modd ichi gael ymweliad pleserus a didrafferth
A wnewch chi hefyd ddilyn unrhyw gyngor pellach a roddir yn lleol.
Peidiwch â mynd yn agos at ymylon na bargodion, a pheidiwch â’u dringo nac eistedd oddi tanynt
Gwnewch yn siŵr na fydd y llanw’n eich rhwystro rhag dychwelyd a gofalwch na chewch eich llusgo gan y tonnau a’r cerrynt
Cofiwch gario dillad cynnes a dillad glaw gyda chi bob amser. Peidiwch â dioddef llosg haul a byddwch yn ofalus mewn gwyntoedd cryfion
Gwisgwch esgidiau sy’n addas i’r tir
Byddwch yn ofalus wrth gerdded ar hyd ffyrdd neu wrth groesi ffyrdd a rheilffyrdd
Cadwch olwg ar blant bob amser
Cadwch gŵn dan reolaeth effeithiol
A oes unrhyw beth o'i le ar y dudalen hon? Rhowch eich adborth i ni.