Llwybr Arfordir Cymru Ar Fws
Mae cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar fws yn rhyfeddol o rwydd yn y mwyafrif o leoedd. Mae digon o fodd dewis, felly, cerdded y naill ffordd, a dal bws y ffordd arall.
Mae sawl rhan o Lwybr Glannau Cymru’n agos at y rhwydwaith rheilffyrdd, gan gynnwys y 109 milltir o’r Llwybr sy’n agos at lein y Cambrian rhwng Pwllheli ac Aberystwyth
Er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymuno â Threnau Arriva Cymru a’r Bartneriaeth Rheilffyrdd Cambrian: cadwch lygad r agor am y posteri sy’n cael eu gosod ym mwyafrif gorsafoedd Lein Cambrian ac ym mannau eraill ar Rwydwaith Trenau Arriva Cymru.
Bach o ffordd sydd rhwng y gorsafoedd, gan amlaf, a rydd hynny lawer o gyfleoedd i deithio’r rheilffordd yn y naill gyfeiriad, a cherdded y ffordd arall.
Gallwch weld neu lawrlwytho’r poster o’r adran adnoddau isod.